Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Hanes William Jones, Mathemategydd

Gyda diolch i'r Athro Gareth Roberts

William Jones 1675-1749

****************************************************

Ganed William Jones(WJ) yn Y Merddyn, nepell  o eglwys y plwyf, Llanfihangel Tre’r Beirdd.  

Symudodd y teulu pan oedd WJ yn blentyn i Tyddynbach, Llanbabo.  Cafodd ysgol yn Llanfechell lle y daeth i sylw'r Arglwydd Bulkeley, a drefnodd iddo fynd i Lundain.  


***************************************************

Fe’i cyflogwyd yn Llundain gan fasnachwr a’i hanfonodd i India’r Gorllewin, a bu am gyfnod yn athro mordwyaeth ar long ryfel.  Ar sail ei brofiad cyhoeddodd ei lyfr cyntaf yn 1702, A new epitomy of the whole art of practical navigation.  

 

Yn fuan wedyn, yn 1706, cyhoeddodd WJ ei brif lyfr ar ffurf crynodeb o gyflwr mathemateg ei gyfnod, Synopsis palmariorum matheseos.  


Mae’r arwydd π yn ymddangos am y tro cyntaf yn Synopsis palmariorum matheseos.  Dewisodd π, y llythyren Roegaidd ‘p’, fel llythyren gyntaf y gair ‘periphery’.  Poblogeiddiwyd y symbol gan y mathemategwr Euler (1707–83) ond bu angen aros tan 1934 cyn y’i mabwysiadwyd fel symbol rhyngwladol.

π       3.14159 26535 89793 23846 …

 Degolyn di-ddiwedd, nad yw byth yn ailadrodd ac nad yw’n hafal i unrhyw ffracsiwn

    

 Pai a ddaeth o Gymru, mathemateg WJ

(Gellir cofio digidau cyntaf y rhif trwy gyfrif nifer y llythrennau yng ngeiriau'r frawddeg hon)


***************************************************


Daeth WJ yn gyfeillgar â Ieirll Macclesfield gan fyw yng Nghastell Shirburn, ger Rhydychen, lle y bu’n diwtor i’r teulu.  Cafodd nifer o swyddi segur dan y goron ac adeiladodd lyfrgell wyddonol heb ei hail yn Shirburn.

Cadwodd gyswllt â Chymru, yn arbennig trwy Morrisiaid Môn – roedd yn genhedlaeth yn hŷn na’r brodyr ond yn hannu o’r un ardal

                                         ***************************************************



Priododd WJ ddwywaith. Ganwyd un o blant ei ail briodas prin dair blynedd cyn marw WJ, yn 74 oed.  Syr William Jones oedd y mab hwnnw, ieithydd enwog a sefydlodd gysylltiadau rhwng ieithoedd Ewrop ac India a phrofi iddynt darddu o’r un gwreiddyn.

                                      ***************************************************


Daeth WJ i sylw Isaac Newton (1642–1727) a bu’n gyfrifol am gopïo, golygu a chyhoeddi llawer o lawysgrifau Newton.  Yn 1711 fe’i penodwyd yn aelod o bwyllgor a sefydlwyd gan y Gymdeithas Frenhinol i benderfynu p’un ai Newton neu Leibniz (1646–1716) sefydlodd y calcwlws.

Etholwyd ef yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol yn 1711(?2) a bu’n is-Lywydd y Gymdeithas yn ystod rhan o gyfnod llywyddiaeth Syr Isaac Newton.  


***************************************************

Bu farw WJ yn Llundain yn 1749 a’i gladdu yn eglwys St Paul, Covent Garden.  Yn ei ewyllys gadawodd ei lyfrgell o tua 15,000 o gyhoeddiadau a rhyw 50,000 tudalen o lawysgrifau, gan gynnwys nifer o lawysgrifau Newton, i drydydd Iarll Macclesfield. Gwerthwyd rhan helaeth o gynnwys y llyfrgell yn 2005.  Erys peth dirgelwch ynghylch papurau personol WJ gan i deulu Macclesfield wahardd eu rhyddhau, hyd yn oed heddiw.


Arwerthiant Llyfrgell Iarll Macclesfield, Castell Shirburn, 2005

       William Jones (1675–1749)

A new epitomy of the whole art of practical navigation

         Gwerthwyd am-    £3840

      Synopsis palmariorum matheseos

          Gwerthwyd am-     £7800  

***************************************************

Cwpled i ddathlu diwrnod pai 14 Mawrth 2014


O Fôn ar draws y Fenai,

fel pader, aeth pŵer Pai.


                                            Llion Jones

(Diolch i Llion am ganiatâd i gyhoeddi’r cwpled ar ein gwefan)


***************************************************

Dathliad o waith William Jones

Ar ddiwedd y cyflwyniad ar 9 Gorffennaf 2009 yn Ysgol Llanfechell cyflwynodd Gareth ddarn o waith celf gan y diweddar Jan Abas i’r Gymdeithas Hanes. Mae’r gwaith yma wedi’i greu i anrhydeddu’r mathemategydd o Gymru a’i gyfraniad sylweddol i fathemateg.




Y gwaith gwreiddiol gan Jan Abas i anrhydeddu WJ

Y Cynghorydd Tom Jones yn derbyn copi o waith Jan Abas gan Yr Athro Gareth Roberts ar ran y Gymdeithas Hanes

Hoffem ddatgan ein diolchgarwch am waith Jan Abas i gydnabod cyfraniad y Cymry yn natblygiad mathemateg ac i’w deulu am y fraint o gael defnyddio'r gwaith unigryw hwnnw ar ein gwefan.


Yn ôl i frig y dudalen

***************************************************

(Cliciwch ar y lluniau i’w gweld yn fwy)

(Cliciwch ar y lluniau i’w gweld yn fwy)

(Cliciwch ar y lluniau i’w gweld yn fwy)