Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Eglwys Llanfechell

gyda diolch i'r Parchedig Geraint W. Edwards

Yr Eglwys

Tu mewn i'r Eglwys

Y Gromen ar y Tŵr

Hanes yr Eglwys o ddyddiaduron William Bulkeley

Yr Eglwys

Fe saif eglwys Llanfechell ar ochr ddwyreiniol y plwyf. Mae llawr yr eglwys ar ochr orllewinol y gangell yn mynd yn ôl, fe gredir, i’r ddeuddegfed ganrif. Ehangwyd y gangell yn y drydedd ganrif ar ddeg ac ychwanegwyd y groes (transept) ddeheuol yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae’r groes ogleddol yn fodern ac ni wyddys ei dyddiad. Adeiladwyd y twr ar yr ochr orllewinol yn yr unfed ganrif a’r bymtheg. Mae’r porth yn perthyn i’r Oesoedd Canol er iddo gael ei foderneiddio. Mae’n bosibl bod yr eglwys yn y ddeuddegfed ganrif wedi bod a thwr yn ei chanol. Awgrymir hyn am fod cynllun y mur yn afreolaidd yn y fan hon.

Mae’r eglwys wedi ei chyflwyno i Sant Mechell, neu Mecheyll ab Echwys Gwyn Gohoyw, un o feibion Gloyw Gwlad Lydan. Ysgrifennwyd cywydd (Cywydd i Fechell Sant) er clod iddo gan fardd dienw, ac mae i’w gael (er ychydig yn amherffaith) yn Llawysgrif Llansteffan 125, o ganol y ddeunawfed ganrif. Mae ei Ŵyl yn disgyn ar 15 Tachwedd.


*********************************************************************


Tu Mewn i’r Eglwys

Fe welir fod y ffenestri lliw i gyd wedi eu rhoddi gan deulu Brynddu oni bai am ddwy, y naill er cof am Y Parchedig William Hughes, Rheithor y plwyf 1880-88, a’r llall er cof am ei fab. Credir bod y ffenestr fechan sydd yn y groes ogleddol yn dyddio o’r Oesoedd Canol. Ar yr ochr ogleddol yn y cysegr mae yna ffenestr fechan ll’r arferai’r gwahanglwyfion gymuno yn yr hen ddyddiau.

Fe welir hefyd garreg a phen dynol wedi’i naddu arni goruwch y ffenestr ddeau yn y groes ddeau ( y tu allan i’r eglwys). Credir bod hon yn dyddio o’r Oesoedd Canol hefyd.


Ffenestri a gyflwynwyd i'r Eglwys gan deulu Brynddu


Er cof am y Parchedig William Hughes a'i fab


Ffenestr y gwahanglwyfion


Ffenestr sydd yn dyddio o'r bymthegfed ganrif


Mae’r fedyddfan yn dyddio'n ôl i’r   ddeuddegfed ganrif.

Mae yna hen Gwpan Cymun sydd yn cael ei ddefnyddio yn achlysurol. Gwaith Hanz Zeiher o Nuremburgh ydyw ac yn dyddio o ddiwedd yr unfed ganrif a’r bymtheg.


Yn ôl i frig y dudalen


 *********************************************************************




            *********************************************************************


Y Gromen ar y Tŵr

Cliciwch ar y bob llun i'w gweld yn fwy


Erys dau draddodiad am y gromen. Yn ôl y cyntaf, arferai Tŷ Capel Libanus, sydd dros y ffordd i’r eglwys, fod yn fragdy, ac yr oedd caniad y gloch o’r tŵr yn gwneud i’r cwrw suro! Yn ôl y llall yr oedd tinc yr hen gloch yn cael ei chyhuddo, gan y Cyrnol Hughes Hunter o’r Brynddu, o aflonyddu ar ei wenyn, ac felly yn eu rhwystro rhag cynhyrchu mêl. Codwyd y gromen felly, yn ôl pob golwg, i ddistewi caniad yr hen gloch yn y pentref.



Mae yna hen lun o Lanfechell, foddbynnag , sy’n ein harwain i feddwl fod y gromen yn  llawer hyn na hyn ac y gallai fod yn rhan o’r Eglwys yn amser William Bulkeley.


Yn ôl i frig y dudalen


***************************************************************************


Hanes yr Eglwys o ddyddiaduron William Bulkeley

Yr ydym yn ddyledus yn anad neb i William Bulkeley o’r Brynddu, Llanfechell, am gryn dipyn o hanes yr eglwys hon yn y ddeunawfed ganrif. Ganwyd William ar 4 Tachwedd 1691 ac fe’i bedyddiwyd yn Eglwys Llanfechell y dwirnod canlynol.

Fe briododd a Jane, merch y Parchedig Ambrose Lewis, trydydd mab William Lewis o’r Cemlyn ar 22 Mai 1710, ac fe anwyd merch iddynt o’r enw Mary a mab a fu’n astudio’r gyfraith. Bu farw’r mab yn gymharol ifanc.

Fe gyfeirir at William Bulkeley yn y Bywgraffiadur Cymreig fel a ganlyn:

  Sgweier a dyddiadurwr. Dau ddyddiadur sydd ar gael, un yn ymestyn o 30 Mawrth 1734 i 8 Mehefin 1743; y l    lall o 1 Awst 1747 i 28 Medi 1760. Y maent yn fwnglawdd o wybodaeth am Fôn, yn enwedig cwmwd Talybolion:    materion teuluol, arferion cymdeithasol, trefniadau eglwysig. Llawn o ragfarnau rhyfedd hefyd.

Yr oedd lle amlwg yng nghalon Bulkeley i’w eglwys. Carai son yn fynych am ei hynt a’i helynt yn ei ddyddiaduron. Er na chafodd o erioed ei ethol i swydd warden, cyfrifai ei hunan fel rhyw fath o warden eglwysig. Ys dywed Nesta Evans yn ei llyfr Religion and Politics in Mid-Eighteenth Century Anglesey:

   William Bulkeley writes of his parish church with the authority of a squire who lived all his life in Llanfechell,     went to church regularly every Sunday, was on terms of friendship with his rector and, in short, knew all there     was to know about everyone who lived in the parish. He was not himself a churchwarden, but he had no hesitation     In taking it upon himself many of the duties of a churchwarden

Etifeddodd Bulkeley a’i gyfoedion eglwys yn Llanfechell a hawliodd lawer sylw a gofal gan eu cyndadau. Fel y crybwyllwyd ynghynt, bu llawer o adeiladu arni a gwelliannau iddi dros y canrifoedd. Ys dywed Nesta Evans eto yn ei llyfr:

   Mae y meini eu hunain yn amlygu i ni y gofal a’r cariad a gyflawnwyd arnynt dros y canrifoedd.

Rhannwyd plwyf Llanfechell yn amser Bulkeley yn ddwy drefgordd (neu dref ddegwm) sef Llawr y Llan a Chaerdegog. Un o ddynion Llawr y Llan oedd ef. Cawn enghraifft ddiddorol yn un o’i ddyddiaduron sut y gallai Bulkeley ganfasio dros bobl Llawr y Llan yn erbyn pobl Caerdegog, yn anad dim er mwyn cael ei ffordd ei hun!

   This day a Vestry was held in Llanfechell church (sumoned by the parson at the request of the churchwardens     the first day of this month) to consider what tax was sufficient to make up the Mood over the Chancell etc.     which had been warmly opposed in words some days before by Caerdegog people particularly Wm Hughes of     Wylfa, Watkin ab Wm. Watkin and Humphrey Mostyn, and had to that end appeared there all to a man, there     being, (I believe) not above 3 of that Township wanting which did not come there with the intent of opposing the     makeing of the Mood, but I haveing notice of their design secured all I could in Llawr y Llan Township who all     appeared there in such a Number that they did not think fit to open their mouths, or make any opposition at all,     so it was agreed to make a new Mood, and 4d in the pound was voted for that purpose, and the other necessary     uses of the Church (10 Jan 1735).

Eglwys wahanol i’r un a welwn heddiw yr oedd Bulkeley a’i gyfoedion yn ei chofio. Nid oedd seddau fel y canfyddwn heddiw ynddi, ond yr oedd yno ryw fath o feinciau! Yn 1700 y daeth seddau yn gyffredinol mewn eglwysi trefol, ond nid yn y wlad. Mae Swift yn 1725 yn rhestru eglwys heb seddau fel un o blâu bywyd gwledig. Ond amlwg yw bod rhyw fath o feinciau i’w cael yn eglwys Llanfechell yn amser Bulkeley, gan ei fod yn dweud yn ei ddyddiadur ar 4 Mehefin 1738

   A very great congregation at Llanvechell Church: having last week set up benches on ye right of Pen and Tyddyn     Weyn, I ordered ye tenants of ye same to sit thereon, and turned out Hester Bulkeley & her daughters from     hence.

Ac wythnos yn ddiweddarach:

    Set up benches in their place this morning that J. Bulkeley Bwchanan & Hugh Wm Pugh had removed when I     was from home, & my people sat on them & Ester B, and her Daughter removed them again after service, & I had     them again replaced.

Mae Dr Thomas Richards yn dweud bod gofyn i’r dyddiadurwr fod yn ofalus iawn yn yr achos hwn, oherwydd mai John Bulkeley, Bwchanan oedd prif gynrychiolydd Baron hill, ac yn briod a Bridget, chwaer i ddau is-iarll.                                                                                          

Nid anghyffredin oedd ymrafaelion ynglŷn â seddau yn yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif, gyda llawer ohonynt yn mynd cyn belled ag achosion cyfreithiol.                

Yr oedd muriau a tho eglwys Llanfechell wedi eu gwyngalchu yn amser Bulkeley, fel llawer o eglwysi eraill. Ni chredir mai er mwyn glendid y gwnaed hyn, ond yn hytrach er mwyn cuddio unrhyw ddarluniau neu arysgrifau Pabyddol a ymddangosai arnynt cyn y Diwygiad Protestannaidd.                                                                                                                   

Brwyn oedd yn gorchuddio llawr yr eglwys a rhaid oedd newid y rhain yn achlysurol. Ym Mai 1739 mae Bulkeley yn dweud fel hyn:

   This day in the vestry held in the church it was proposed that John Jones of haven y Micht & Owen David of     Minffordd….. should annually provide Marsh Rushes and Morasc to be laid on the floor of the chancel 6 time in     the year, in the severall seats and benches therein & on the windows& also in the seats in the body of the church,     & in all the windows within such seats, and that Hugh Owen of Nant Yr Eirin Cooper, and Nan of Tynywern     should yearly six times in the year sweep and make clean the rest of the body of the church and provide the     comon green Rushes to lay on the floor of the same thorout, and every time it is so swept; & the sd. John Jones,     Owen David & Hugh Owen (Nan Tynywern being not there) being publickly called upon & asked if they did     severally agree to the said proposal they…. agreed …. In the presence of such parishioners as were then     present.        

Priododd Mary, merch William Bulkeley, a Fortunatus Wright a bu hyn yn gryn siom iddo. Mae gan y Bywgraffiadur Cymreig hyn i’w ddweud:

Profedigaeth fawr ei fywyd oedd gweld ei ferch Mary yn priodi Philistiad o Sais o’r enw Fortunatus Wright, bragwr o Lerpwl, a morheliwr rhamantus; llawn yw’r dyddiaduron o’r helyntion yr aeth iddynt a’r pryder dwys a achosodd.

Fe gladdwyd mab o’r briodas uchod y tu mewn i furiau eglwys Llanfechell. Credai’r diweddar Helen Ramage mai oddi tan ‘sedd y person heddiw y’i claddwyd, yn ôl y disgrifiad a gawn gan Bulkeley. Yma hefyd, yn ôl Nesta Evans, cawn enghraifft ddiweddar o gladdedigaeth y tu mewn i furiau eglwys. Dyma ddisgrifiad William am y digwyddiad trist:

   Today was landed in Cemaes the corps of my Grandson who died in Leghorn and was sent from thence to Dublin,     & brought from Dublin to Holyhead in the Paquet Boat & from Holyhead to Cemaes in a trading Vessell that came     for corn; it was the request of his mother to have him brought hither to be buryed among her Ancestors;     accordingly he was sent for this day & carryed to Llanvechell and buryed in the lower part of my seat in ye     chancell close by the wall, I gave Anna Wright his sister 10s 6d to give to the priest & 2s 6d to give to the     Sexton & gave the Master of ye Vessell 10s 6d for carrying it from Holyhead to Cemaes.  (20 Rhagfyr 1756).


Credai  y diweddar Helen Ramage fod y bedd o dan y ddarllenfa bresennol

Nid oes angen dwueud bod y cynulleidfaoedd yn llawer mwy niferus yn yr eglwys hon yn nyddiau Bulkeley.

Pasg 1734

  The morning service began at 9 o’clock and was over a quarter before 12, about 170 communicants this day, and     I do remember severall Easter Days within 20 years last past where on Easter Day the number of     Communicants some Easter days onely (besides ye communicants on Easter Eve) were 260, sometimes 240, but     never less than 220 till within this 7 or 8 years, since which, a great mortality destroyed almost half the parish.

Yr oedd y bywyd crefyddol mewn pentref yng nghanol y ddeunawfed ganrif yn ddibynnol iawn ar y person plwyf. Yr oedd yn Llanfechell offeiriad eithaf da i’w gymharu â llawer ohonynt yn yr oes honno. Richard Bulkeley oedd ei enw ac yr oedd yn berthynas pell i’r dyddiadurwr - y ddau yn hanu o ganghennau ieuengach o deulu Bulkeleys, ‘Baron Hill’. Richard Bulkeley oedd y person plwyf trwy gydol blynyddoedd y dyddiaduron namyn tair. Cawn ambell i feirniadaeth lem ar ei bregethu gan William, er ei fod yntau yn dipyn o lenor ac yn sgweier ei hunan. Yr oedd William yn ei dro wrth ei fodd yn gwrando pregethau ac yn barod i’w pwrcasu weithiau gan y person:

    Paid Mr Richard Bulkeley, the parson of Llanvechell 13s 4d for a sermon preached on St Barnabas Day in ye     year 1738.

Un peth fyddai yn ei gorddi, ac yn mynd o dan ei groen oedd yr arferiad yn yr oes honno o ddechrau pregeth ar un Sul ac yna ei gorffen ar Sul arall:

   A piece of a sermon yt lasted 17 minutes, & promised to finish it some other time. Thus, poor laymen must we be     used till God pleaseth to put in the heart of our Legislators to reform ye behaviour of our Clergy. (27 Mehefin     1738).

 Ac ar 17 Medi yr un flwyddyn:

   Onely a piece of sermon 14 minutes long, he promised the other piece a fortnight hence, thus it has been always     used by this man to make one sermon serve for a month.

 Ac hefyd:

    The priest finished his third and last part of his sermon on hell fire began this day six weeks.

 Dyma eto feirniadaeth lem odiaeth ar bregethu Richard ganddo:

   It is remarkable of this priest that he always preaches upon sin in generall, denounces terrible Judgments     against Sinners. Yet I never remember to have heard him mention in any of his inspired Sermons what those Sins     are which God is displeased with the committing of them… as he manages matters, I daresay few are either the     wiser, or go from church with any impression wrought on their minds. (28 Chwefror 1748)

 Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd gwasanaethau teuluol fel bedyddiadau, priodasau ac angladdau yn rhan o addoliad y Sul.

    A great congregation at Llanvechell Church and a long service, there being 2 burials, a Christening and a woman     churched (1738).

 Dyma sydd ganddo i’w ddweud am briodas a fynychodd:

     2 of my servants were marryed today, Robert Pritchard and Jane Hughes to whose wedding I went with my     Daughter and Cousin Henry Hughes. Mr Roger Mostyn of Colcott comeing to see me, was forced to take him     along likewise it cost me 3s 6d because I treated him, in ye evening coch Carrog came there so that the company     was forced to break up an hour or 2 sooner he being Drunk and unruly, we pd. 1s a piece for our dinner and 6d     for ale ( 9 Mehefin 1734).

 Er bod llawer mwy y gall rhywun ei ysgrifennu am William Bulkeley gweddus fyddai dod a’r darlun i ben trwy ddyfynnu o’r Bywgraffiadur Cymreig:

   Geiriau digon gogan sydd gan Bwcle am Walpole a’r Whigiaid, a geiriau lawn cyn gased am yr Ymhonnwr lagoaidd.     Dyn piwys, direidus, llawn pryfôc oedd Bulkekey: annhebyg fod iddo ddim cydymdeimlad a’r Methodistiaid, a     mwy annhebyg iddo ysgrifennu pamffled i amddiffyn eu golygiadau; ond gellir meddwl amdano yn cael llawer o     hwyl am ben ysweiniaid a chlerigwyr drwy gogio bod yn Fethodist. Rhoddodd loches i William Pritchard yr     Annibynnwr ar ran o’i ystâd, nid am ei fod yn credu yn yr egwyddorion y safai Pritchard drostynt, ond fel     moddion pryfôc yn erbyn y Viscount o Barod Hill a Troughton o Fodlew a oedd wedi troi Pritchard allan o’u     ffermydd hwy. Nid oedd sgweier ym Môn yn fwy Cymro nag ef.

   Cangen Brynddu oedd y fwyaf annibynnol ei hysbryd a gododd o foncyff Baron Hill. Bwcle oedd William B     Bulkeley, serch hynny; pan ddaeth angladd y 5ed Viscount ym Mawrth 1739, ef oedd gyda’r cyntaf i gael ei     wahodd yno, a cherddai yn bur agos i’r elor; nid mor agos nad oedd ganddo amryw o eiriau dychan am y     gweithgareddau. Claddwyd William Bulkeley 28 Hydref 1760.


Dyfyniadau

G. Nesta Evans. Religion & Politics in Mid-Eighteenth Century Anglesey ( University of Wales Press, cardiff, 1953)

Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940


Yn ôl i frig y dudalen




*********************************************************