Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Robert Williams

Blaenor yng nghapel Methodist Libanus,  Llanfechell.

gyda diolch i Mrs Maureen Jones, Mrs Marian Davies a Ms Gaynor Jones

Mewn gwirionedd, ni chlywais son am Robert Williams tan 2009 pan ddaeth Mrs Betty Edwards i'r ysgol , lle roeddwn i'n gweithio, i ddanfon y Chronicle. Fe soniodd ei bod wedi cael bore diddorol gyda chwpwl Americanaidd a oedd yn chwilio am eu cyndad Cymreig.  Nid oeddynt yn gwybod llawer amdano ond iddo fod yn ymwneud a'r capel a'i fod wedi ei gladdu yn y fynwent. Roeddynt wedi methu dod o hyd i'w garreg fedd. Dywedant ei fod wedi ei eni yn Edern House, Llanfechell. Roedd Mrs Edwards wedi bod o gwmpas y pentref yn chwilio am Edern House, ond heb gael unrhyw wybodaeth, ond fe gynhyrfais cyn gynted ag y clywais am Edern House oherwydd bod fy merch Gaynor yn byw yno yn awr, a dyna'r tŷ oedd fy nain a thaid yn byw ynddo. Yn wir, fy nhaid newidiodd yr enw i Min Meddanen. Ar y gweithredoedd gwreiddiol, enw'r ty oedd Bodedern House.

Dywedodd Mrs Edwards fod yr Americanwyr wedi gadael eu manylion cyswllt yn y Swyddfa Bost, ac felly ar fy ffordd adref o'r gwaith fe alwais amdanynt. Yn anffodus, dim ond cyfeiriad Ebost oedd yna ac felly fe ffoniais Gaynor yn ei gwaith ac fe anfonodd Ebost iddynt. Roeddynt newydd adael Caergybi'r prynhawn yna ac fe roeddent ar eu ffordd yn ôl i Lundain. Roeddynt yn siomedig iawn ein bod wedi methu ein gilydd o ychydig oriau, ond roeddynt wedi cyffroi eu bod wedi sefydlu cyswllt a buont yn cysylltu ar ôl cyrraedd adref i America.

Penderfynodd Gaynor a minnau i gymryd y gwaith o ymchwilio i'r hanes ar ran yr Americanwyr, a hefyd gan ein bod â diddordeb yn hanes tŷ Gaynor.

*****

A  dyma pryd cychwynnodd y gwaith archwilio- llawer o oriau wedi eu treulio yn yr archifdy ac yn e-bostio yn ôl a blaen i 'New Mexico' lle'r oedd Sharron a'i gwr yn byw. Dywedodd mai ei hen, hen hen daid oedd Robert Williams ac yn ôl hanes y teulu cafodd ei eni yn Edern House, Llanfechell, ac yno magodd ei deulu o chwech o blant. Roeddent i gyd ond un wedi ymfudo i'r America ac mewn hen lythyr i'w fab Robert E, fe soniodd am ei waith gyda'r capel a oedd yn awgrymu, ei fod, efallai yn weinidog. Roedd Sharron am gael gwybod os oedd ganddo deulu yn y fro o hyd.  

Fel gyda'r rhan fwyaf o hanesion teulu, mae'r ffeithiau ychydig yn wahanol.

*****

Ganwyd Robert Williams yn 1803 ym mhlwyf LLanfflewin. Fe briododd Winifred- merch Edmund a Grace Hughes, LLanrhyddlad yn Llantrisant ar 15fed Mai 1827. Fe anwyd ei merch Grace pedwar mis yn hwyrach ac fe fedyddiwyd hi yn Llanrhyddlad. Roedd yn amlwg fod Winifred yn feichiog pan wnaethant briodi ac mae hyn yn egluro pam briodasant yn Llantrisant. Roedd gan wahanol reithoriaid wahanol ddaliadau.

Buont fyw yng Ngherrigman, Llanfechell lle ganwyd y rhan fwyaf o'r naw o blant cyn iddynt symud i 4 Tyn Pwll neu 18 Mountain Road.

William  1831

John 1833

Edmund 1836

Robert E 1837

Margaret 1840

Hugh 1841  died aged 6 1847

Mary 1845

Hugh E 1848

Nid oedd yn anghyffredin i enwi plentyn ar ol brawd a chwaer a fu farw.


Mae cofnodion cyfrifiadau yn dangos eu cyfeiriad fel 4 Tyn Pwll neu 18 Mountain Road. Byddai rhifau'r stryd yn newid weithiau gyda gwahanol gyfrifiadau ond yr un oedd y tŷ sef Bodedern House.

Roedd Robert Williams yn Fethodist brwdfrydig, ac wedi gweithio gyda'r enwog John Elias am ugain mlynedd, ac fe gafodd ddylanwad mawr arno.


18 Mountain Road


Priododd ei ferch, Grace, gydag oriadurwr ac roeddynt yn byw yng Nghaernarfon.

Ymfudodd pedwar o'i blant eraill i America- John, Robert E, Margaret a Hugh.

Dyma gopi o lythyr a anfonodd Robert Williams i'w fab Robert E yn America, yn fuan ar ôl marwolaeth ei wraig Winifred. Mae'n amlwg fod y llythyr wedi ei gyfieithu o'r Gymraeg i Saesneg gan rywun yn America, gan nad yw'r iaith yn ymddangos yn gywir.


My dear son Robert, daughter and family,

I am taking this opportunity to write to you in the hope you are all in good health as I am at present through the goodness of the Almighty, I have long been expecting a letter from you. I received a letter from your brother John recently in which he says that he and his family are well at that time, perhaps he has been there after that.

I do not have much news to send you, as I have been like the lonely traveller, by myself, without anyone with me. A man and wife with two children with them wanted to come and live with me but Mary and her husband are unwilling, on account of the children for one thing, although the parents and children were of good disposition and character. I could be satisfied that I would not suffer from any offence on their part. They offered some support and your brother John offered them some payment, but I have some hold on the old place and again my standing in the old chapel and I would miss the services rendered to the cause of Jesus Christ in Llanfechell, as I have a high standing in the cause which is a great blessing to a poor creature such as I am. Therefore I shall stay here while I can support myself with the assistance of John who has been a good friend to his parent to this time. The world has come upon a bad time, people out of work and thousands unable to get work and our chances are rapidly diminishing and it behooves me to prepare to commune and that father and mother should receive a letter when later we will not be here to receive any more letters.

Therefore be diligent in the service of the Redeemer and do your best to find safety and be faithful in His cause. It would be good indeed to see you again although has been received about your coming here for a trip, except John. He has promised but he is probably too busy accumulating wealth.

 Perhaps some of you may come to the old country as it is not unusual as many have been to America and two ministers from America have been here ,one of them will return to America at the end of the month.

They are William Charles of Gwalchmai and William Robert who returned here to bury his father and help to repair their home here before returning to Kansas. He related some of his experiences with some of your old friend. He knows William Rowland (Tarn) and Robin Carrog. Robin asked him to get the money in the bank at Amlwch which was left to him by his brother Hugh, which has been there a long time, but Margaret objected to relinquishing the papers.

Send this letter to John your brother the first chance and when you write to me again give me a description of his house, garden and farm and remember to give Mrs. Williams and children my sincere remembrances. I would love to see them all once more. Your sister Mary sends greetings to you and family and asks that you send a small token of either gold or silver ornament to their little girl. Anything from America would be appreciated.

This from your father.

Robert Williams. Write soon.

*****


Meddyliwn am ba ddelwedd oedd gan Robert Williams o'r America yn y cyfnod yma. Y cyfan a wyddai oedd y straeon am wlad ryfeddol, toreth o gyfoeth ar gael, ddim ond am ofyn, rhywbeth fuasai yn amhosibl yma yng Nghymru i weithwyr cyffredin yn yr amser yma. Cafodd y rhan fwyaf o ymfudwyr waith yn Efrog Newydd cyn symud ymlaen i safleoedd eraill. Aeth rhai i'r gorllewin ar draws y wlad i California, i chwilio am aur a lle, yn ôl pob son, yr oedd y tir gorau oherwydd yr hinsawdd. Fodd bynnag, fe gymerai'r daith ar draws y wlad hyd at chwe mis gyda mintai wagenni dros dir garw.

Sabetha, Nemaha County, Kansas 1870

Roedd Sabetha, Nemaha, Kansas tua hanner ffordd y daith yma, ac yma yr ymgartrefodd mab Robert Williams , Robert E, gyda'i wraig a theulu ifanc a meddiannu 160 erw o dir.

Dim ond yn 1854 y dechreuwyd sefydlu Sabetha. Mae'r enw'n tarddu o'r diwrnod y cyrhaeddodd yr ymsefydlwr cyntaf yno.

Yn 1862 fe gytunodd y Gyngres y Ddeddf Cartreflanau a oedd yn caniatau i'r pen teulu  hawlio 160 acer o dir a'i ffermio am bum mlynedd. Ar ddiwedd y pum mlynedd byddai'r pen teulu yn cael perchnogaeth y tir. Erbyn 1890, roedd yr holl dir ffederal a oedd ar gael wedi ei gymryd gan yr arloeswyr yma.

Erbyn 1900, roedd Sabetha wedi datblygu i fod yn dref brysur.


Fe gartrefodd ei chwaer Margaret yn Kansas hefyd gan briodi a magu teulu. Mae cofnodion o'r cyfrifiad yn dangos na allai ysgrifennu tan 1890. Aeth Hugh ymlaen i California.

*****


Gartref...........



Y disgrifiad gorau o Robert Williams yw teyrnged gan Mr Robert Edwards, Llanfechell yn ei lyfr 'Atgofion Llanfechell a'r Cylch'

Robert Edwards

Bu Robert Williams fyw i fod yn 84 oed a thrwy ei oes fe wasanaethodd ei Arglwydd gydag urddas.

Ar fy ffordd i Libanus i'r 'Society' ar noson olaf bywyd fy nghyfaill, fe alwais i'w weld. Dywedais wrtho fy mod yn mynd i'r  Gymdeithas. Ei eiriau oedd, " Ar yr wyneb, mae hi'n arw, ond O! yn ddwfn o fy mewn, rwyf yn mwynhau perffaith hedd."

Yna dyfynnodd adnod,  "Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd a'i feddylfryd arnat ti.” Cofiwch fi at bawb yn y 'Society' heno, a'r rhain oedd ei eiriau olaf bron.

Roedd yn blentyn y Diwygiadau mawr, ac roedd yn cyfeirio at y dyddiau yma byth a beunydd. Roedd Robert Williams yn gymeriad eithriadol yn ei ddydd a'i genhedlaeth. Roedd yn ddarllenwr mawr, ac yn meddu ar gof arbennig. Fe deithiodd hyd a lled Môn i wrando ar bregethau'r Sasiwn a'r cyfarfodydd pregethu, a gallai adrodd y pregethau air am air bron. Fe gofiai pregethau eithriadol y Sasiwn o Lannerchymedd, Caergybi, Biwmares ac Amlwch.


John Elias

Fe weithiodd i'r pregethwr enwog, John Elias am dros ugain mlynedd. Ni chaniatâi i unrhyw un ddweud gair yn erbyn John Elias. Fe ofynnodd rhyw bregethwr iddo unwaith, "Mr Williams, fe gofiwch John Elias yn dda, dywedwch wrthyf, ydych yn meddwl y buasai yn bregethwr nodweddiadol   heddiw?".

"Mewn difrif, beth ydych yn feddwl?" atebodd Robert Williams, "a glywsoch chi erioed y fath gwestiwn gan unrhyw un a wrandawodd ar John Elias."


Fe ddylanwadodd Diwygiad 1850 yn fawr arno.

Roedd Robert Williams hefyd yn ddiwynyddwr brwd, ac fe astudiodd ddiwinyddiaeth yng ngolau'r Hyfforddwr, Cyffes Ffydd a'r Geiriadur Beiblaidd. Ei hoff destunau diwinyddol oedd - Cyfamod Gras, Etholiad, ac yn enwedig Gweithredoedd Crist.

Nodwedd arall o'i gymeriad oedd ei gysondeb wrth drin eraill. Roedd ganddo ddywediad, "Peidiwch â throseddu, mae mor anodd cymoni."

*****


Yn marwolaeth Robert Williams, fe gollodd yr eglwys un o'i hoelion wyth cryf, dyn  a anrhydeddwyd gan bawb.


Datganodd hysbysiad o farwolaeth yn y papur newydd mai Robert Williams oedd y cyntaf i gael ei gladdu yn ol y ddeddf newydd. Ni wyddom beth oedd y ddeddf newydd , ond fe wyddom fod gweinidogion yn gallu gweinyddu mewn angladdau mewn eglwys o'r cyfnod yma.


*****

Mae cyfrifiad 1911 yn nodi Mary a'i gwr William yn byw yn Dingle, Llanfechell

Yn 1916 pan oedd hi yn 71, y prynodd Mary'r hen gartref sef Edern House, ar y cyd gyda'i brawd Hugh a oedd yn byw yng California. Un wythnos yn ddiweddarach fe gymerodd forgais o £30 gan William Jones, Plas Hen, Llanddaniel Fab. A oedd hyn er mwyn prynu cyfran ei brawd neu efallai i dalu hen ddyled iddo?

Roedd gan Mary a William ferch, Matilda a briododd Richard Thomas- porthmon gwartheg o Fodedern. Bu hi farw yn Derwyddfa, Cemaes yn 1963 yn 89 mlwydd oed.

Nid oedd ganddi blant, ond ystyriodd ei morwyn, Nell Jones fel ei merch. Roedd wedi bod gyda'r teulu am flynyddoedd ac roedd yn bresennol pan fu farw Matilda. Roedd y bobl leol yn ei chofio fel y wraig gyda'r tri chorgi.

Mae'n gyd-ddigwyddiad mai yn yr un flwyddyn a fu farw Matilda, roedd y gweinidog lleol, sef Robert Evans o Annedd Wen, mewn cysylltiad ag un arall o ddisgynyddion Robert Williams, ei or- ŵyr a oedd hefyd wedi ei eni yn Robert Williams. Roedd yn awyddus i wybod os oedd aelodau eraill o'r teulu yn dal i fyw yn lleol. Roedd cyfaill o'r teulu, un Mr Lord, wedi bod i Lanfechell ac wedi tynnu lluniau o'r capel etc ac wedi cyfarfod y gweinidog. Dyma gopi o'r llythyr a anfonwyd gan Robert Evans.    

Dear Mr. Williams

Please excuse my long delay in answering your letter of the 30th October which I received on Monday 4th.

I wish to thank you most gratefully on behalf of Libanus, Welsh Presbytarian Church, Llanfechell for your kind gift of 5 dollars.

Again thanking you for your kind consideration and wishing you all the best during the festive season and may yours be a bright and prosperous new year.

Yours truly,

Robert Evans.

*****


Dyma lun o Owen Clement Williams (Llynges yr U.D.A. Rhyfel Byd Cyntaf) gor ŵyr Robert Williams a thaid Sharon. Hefyd ei fab Edmund Williams (tad Sharon).

Owen Clement Williams

Edmund Williams

yn ôl i frig y dudalen

(Cliciwch ar y 3 llun uchod i’w gweld yn fwy)

Roedd Mary, ei ferch ieuengaf , wedi aros ym Môn ac wedi priodi William Williams yng nghapel Bethlehem, Caergybi. Fe roddodd gadair i Gapel Libanus er cof am ei thad.

Mae'r neges ar y gadair fel a ganlyn –

Rhodd gan Mrs Mary Williams er cof am ei thad Robert Williams, Blaenor