Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Gyda diolch i’r Athro Robin Grove-White


William Bulkeley a thlodion Llanfechell

Mae dyddiaduron William Bulkeley, a ysgrifennwyd rhwng 1735 a 1760, yn cynnig toreth o grafiadau i fywyd bob dydd cymdeithasol yng nghefn gwlad Môn

Llanfechell

Brynddu

Mae’r cofnodion sy’n ymwneud a’r tlodion a’r anghenus o bentref Llanfechell yn arbennig o ddiddorol, a sut yr oedd y gymuned yn ceisio gofalu amdanynt. Mewn llawer man yng Nghymru a Lloegr yn y cyfnod yma, dibynnwyd ar ddarpariaethau Deddf y Tlodion, ond nid ym Môn. Yma ni chasglwyd treth i’r tlodion, ac nid oedd yma wyrcws. Yn lle hyn, gadawyd gofal o’r cleifion i haelioni ac elusen eu cyd aelodau yn y gymuned.


Yn ei hanfod, roedd tair ffordd y gallai cymorth gyrraedd y tlodion.-

(1) trwy rodd preifat unigolyn ; (2) trwy elusennau bychain penodol ar gyfer cymorth i’r tlodion.;

(3) Drwy gasgliadau eglwysig.


Dyddiadur William Bulkeley

Mae dyddiaduron William Bulkeley yn cyfeirio yn aml at y tair ffordd yma.


Nodir: Mae 1 swllt yn 1750 cyfwerth a thua £6 yn arain 2014





1. Rhoddion Preifat

Mae’n ymddangos i’r Dyddiadurwr ei hun roddi’n hael i unigolion. ee.


‘… gave 1s charity to a poor man that had a loss of his only cow.’                                                     

18 Awst 1740               



‘…Gave a Guinea to an old Gentlewoman, a Clergyman’s widdow distress’d with poverty’.                             

13 Rhagfyr 1755


‘…gave 2s to a poor woman of this parish toward buying a shrowd to bury her husband’                 

31 Ionawr 1740


‘…Pd. Into the hands of Ann and Huw Lewys 5s. towards her care and trouble in nursing a Grandchild of hers, being one of three left destitute of help and comfort by the death of his mother. I engaged to give her 5s. more again, besides what she shall have of meat in the house when she comes here, and if I can likewise engage the charity of the parishioners to give her some relief.’                                

16 Chwefror 1740


2. Elusennau Lleol

Foddbynnag, fe wyddom o Adroddiad Comisiwn yr Arglwydd Broughman i Elusennau Gogledd Cymru (1818-1837) fod yna o leiaf  chwe gwaddoliad elusennol gweddol fychan yn bodoli i gynorthwyo tlodion Llanfechell yn ystod y ddeunawfed ganrif . Roedd William Bulkeley yn ymddiriedolwr, neu weinyddwr i o leiaf tri o’r rhain, er enghraifft,


‘…gave to Hugh Owen, Sion Owen’s wife, of Cemaes who is the mother of 6 children, & her mother who is very old & bed-rid which she likewise keeps. I gave her I say 3s 8d out of the 6s 8d ordered by the late Mr Richard Gwyn of Rhydgroes to be distributed yearly among the poor of Llanbadrick parish.          

17 Rhagfyr  1751


‘..as I had not corn sufficient winnowed (there being no wind this 2 days) to share to the poor, I chose to give to the poor of Llanfechell & Llanbadrick money in lieu thereof, and shared among them 4 pound 4 shillings together with a dole of flesh, & what corn there was shared among the poor of other parishes.’     

23 Rhagfyr 1755


Weithiau byddai cyflawni dyletswyddau elusennol yn gofyn iddo oruchwylio cynhyrchu dillad i’w dosbarthu.

               

‘I had today about 80 women at work, some spinning, some carding and some combing of the yarn designed by help of God to make cloaths for the poor people of this parish and some perhaps of Llanbadrick, there being 41 wheels and the rest carders and winders.’              

28 Gorffennaf 1757

                                                                                                        

Mae’n eglur fod elusennau a chyfansoddiadau ffurfiol o’r math yma yn dod a dyletswyddau sylweddol yn flynyddol i’r Dyddiadurwr a’r  Rheithor, fel arweinwyr yn eu plwyf.




3. Casgliadau Eglwysig

Foddbynnag, gwnaethpwyd y rhan fwyaf o godi a rhannu arian tuag at dlodion Llanfechell trwy gasgliadau yn Eglwys Mechell Sant, a oedd wrth graidd y gymuned yn yr oes cyn-capel yma, gyda’i wleidyddiaeth festri a chyfrifoldebau rhanedig.


Gwelir amryw o gofnodion yn y dyddiaduron, sydd yn ein galluogi i wahaniaethu rhwng casgliadau cyffredinol er lles y tlodion, a chasgliadau er lles unigolion penodol a dybiwyd yn haeddu cefnogaeth.


Eglwys Sant Mechell

Cynyddodd maint y casgliadau cyffredinol fel yr aeth y ganrif ymlaen, fel dirywiodd cyflwr y tlodion:


‘…this day being Easter Eve there was a collection for the poor of the parish after the sacrament, 4s collected, about 60 communicated this day. I gave a shilling to the collection….                                  

13 Ebrill1734’


‘…209 persons communicated this day. Gave 10s 6d to a collection for the poor of this parish & there was collected 20s 9d.’

Edydd y Pasg, 10 Ebrill 1757


Ar y llaw arall, roedd casgliadau penodol i gynorthwyo unigolyn neilltuol a enwid , gyda’r unigolyn hwnnw yn bresennol i gyflwyno manylion am ei amgylchiadau i’r gynulleidfa.


‘…gave 6d to a Charity Collection for a poor bed-rid woman of Bodewryd whom I knew to be a great object of charity: as for others recomended by the Ministers from places remote, as he never mentions the names of creditable neighbours to vouch for their condition, those may, or may not, be objects of charity.’   

24 Mai 1741


 ‘…gave 2s 6d to a collection for a poor man of Llanrhwydrys who had himself & whole family, wife & 8 children been sick & reduced to great poverty.’                                             

2 Chwefror 1740


‘…gave 2s to a collection made this evening for a poor Cripple boy to put him out an apprentice to a taylor’.’                                  

30 Mawrth 1755


‘…gave 6d to a charity Collection for a man of Rhosbeirio that lost all he had by fire.’                         

22 Ionawr 1738

Yn eu cyfanrwydd, roedd y cyfnodau yma yn galed iawn ar y tlodion. Ond mae dyddiaduron William Bulkeley yn taflu goleuni ar y ffordd gadarnhaol yr oedd cymuned leol fel Llanfechell yn ymwneud a’r dyletswyddau tuag at gymdogion llai ffodus ynghanol y ddeunawfed ganrif.




Yn ôl i frig y dudalen

Cliciwch ar y lluniau Iiw gweld yn fwy