Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Cofeb Llanfechell


gyda diolch i Mrs Iola Roberts, Mrs Beryl Jones, Mr Nigel Thomas a Mr Robert Williams

 

********************************************


Cliciwch ar rhai o’r lluniau i'w gweld yn fwy


                                                                  


Seremoni dadorchuddio'r gofeb yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf

Seremoni dadorchuddio'r gofeb yn dilyn yr Ail Ryfel Byd


*********************************************************************

Cliciwch yma i fynd i dudalen ....  Yr Ail Ryfel Byd 1939-1945

*******************************************


Y Rhyfel Byd Cyntaf 1914-1918


Frederick Pelham Trevor, Brynddu

James Frederick Venmore, Wylfa

Richard Jones, Trosmynydd

John Oliver Williams, Frondeg

Roger Humphreys, Tregele

John Owen Jones, Trosymynydd

Robert Jones, Glanygors

Thomas Pritchard Lewis, Tynycae

Owen Owen, Fron

Owen Roberts, Carregydaran

Evan Williams, Brynddu Road

John Williams, Minffordd

Owen Williams, Penymynydd


Cliciwch ar yr enwau i gael mwy o wybodaeth

 ********************************************


Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Frederick Pelham Trevor, Brynddu

Ganwyd Frederick Pelham Trevor ym Mheru, Chile ar 17eg Tachwedd 1879.  Priododd Winifred Mills a cawsant ddau o blant Meriol Trevor ac Arthur Trevor.  Bu'r teulu'n byw ym Mrynddu am gyfnod cyn iddo gael ei ladd yn y Rhyfel yn 1915.


Ei deulu ym Mrynddu tua 1911


Y teulu yn nofio yng Nghemaes tua 1911


Brynddu, ei gartref  cyn mynd i'r rhyfel


Mynwent Menin Gate lle'i coffawyd ef


Yn ôl i frig y dudalen


 ********************************************


James Frederick Venmore, Wylfa

Roedd yr Is gapten J Frederick Venmore yn fab i Mr James Venmore, Uned Heddwch yn Lerpwl a chyn Uchel Siryf, Ynys Môn.

Addysgwyd ef yng Ngholeg Lerpwl ac yn ysgol Mill Hill, Llundain. Bu’n astudio pensaernïaeth ym Mhrifysgol Lerpwl a bu’n aelod o’r proffesiwn hyd at doriad y Rhyfel pan ymrestrodd fel milwr cyffredin yn y 3ydd Bataliwn o’r ‘Liverpool Pals’. Derbyniodd gomisiwn  i’r 14eg Bataliwn o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig lle bu’n swyddog medrus a phoblogaidd. Roedd yn boblogaidd ymysg y dynion a’r swyddogion am ei ddewrder a’i ymroddiad ar faes y gad.


Dyma ddisgrifiad o sut y derbyniodd yr Is gapten Venmore y ‘Military Cross’ am ddewrder nodedig. Ar noson y 30ain Ionawr, 1916 roedd yr Is gapten Venmore ar ddyletswydd fel swyddog ar batrôl o flaen y ffosydd Prydeinig yn Ffrainc pan hysbyswyd ef fod tri o ddynion mewn safle wrando blaenllaw wedi’u hanafu. Llwyddodd dau ohonynt i lusgo eu hunain yn ôl dros y weiren bigog i’r Rhengoedd Prydeinig ond gan fod y trydydd dyn wedi’i saethu yn ei ddwy goes nid oedd yn medru eu dilyn. Gwirfoddolodd yr Is gapten Venmore i fynd i’w gynorthwyo  ac aeth a swyddog digomisiwn gydag ef (Corporal William Williams o Gaernarfon) a dderbyniodd y ‘Distinguished Conduct Medal’.

Aeth y ddau allan dros y parapet o dan saethu ffyrnig a gydag anhawster mawr llwyddasant i ddod a’r claf yn ôl dros y weiren bigog a dwy ffos. Y bore canlynol cafwyd neges arall fod dyn mewn safle gwrando blaenllaw arall wedi colli ei fraich mewn man nad oedd, mwy neu lai’n bosibl i gael ato yng ngolau dydd. Gwirfoddolodd yr Is gapten eto i fynd i gynorthwyo’r claf ac aeth a Chorporal Williams gydag ef. Ymlusgodd y ddau ar draws y tir agored o dan saethu ffyrnig unwaith eto. Cyrhaeddwyd y claf, rhoddwyd sylw i’w anghenion a daethpwyd ag ef yn ôl i le diogel. Cafodd y swyddog a’i bartner eu llongyfarch yn wresog gan swyddogion y frigâd a’r rhanbarth.


Wrth arwain ei Gwmni i ymosod ar Mametz Wood 11eg Gorffennaf, 1916 cafodd yr Is gapten Venmore ei anafu’n ddrwg yn ei fraich. Brwydrodd ymlaen er gwaethaf ei anaf ond yn anffodus iawn fe ddaeth ei fywyd i ben yno.

Mynwent 'Dantzag Valley' Mametz lle'i coffawyd ef


Yn ôl i frig y dudalen


 ********************************************


Richard Jones, Trosymynydd

Cartref Richard Jones- Trosymynydd


Mynwent Arras- lle'i coffawyd ef


Yn ôl i frig y dudalen


 ********************************************


John Oliver Williams, Frondeg

Roedd tri o feibion Frondeg wedi mynd i'r rhyfel, John, Huw a Bob. Lladdwyd John a niweidwyd y ddau arall. Saethwyd Huw yn ei stumog a chwythwyd tri o fysedd oddi ar law dde Bob. Roedd stori gan y teulu fod Bob yn y ffosydd gyda Mab Trosmynydd a gafodd ei ladd wrth ei ochr. Roedd Bob eisiau diod ac yr oedd yn yfed dŵr o'r  ffosydd lle roedd ei gyfaill yn gorwedd.

LLuniau o John Oliver Williams  

Cerdyn post gan John Oliver o faes y gad


Er mwyn diogelwch nid oeddynt yn cael ysgrifennu dim ychwanegol yn y cerdyn.


Llythyr oddiwrth John Oliver i'w deulu


Llythyr arall gan John Oliver i'w deulu

Cartref John Oliver Williams- Frondeg


Mynwent Loos, lle'i coffawyd ef.


Yn ôl i frig y dudalen


 ********************************************


Roger Humphreys, Tregele

Roedd Roger Humphreys wedi dweud anwiredd am ei oed - dim ond dwy a'r bymtheg oedd o  pan ymunodd a'r fyddin.


Roger a'i frawd bach


Roger a'i deulu


Pum mab yn mynd i ryfel


Llythyr oddiwrth Roger i'w fam


Llythyr yn gofyn am wybodaeth am ei ddyddiad geni er mwyn iddo gael dod adref. Yn anffodus lladdwyd ef dau ddiwrnod cyn i gopi o'r tystysgrif gyrraedd


Y Plwyf yn cydnabod ei aberth

Y teulu'n derbyn medal


Cartref Roger Humphreys, Penrallt


Mynwent Thiepval, lle'i coffawyd ef.


Aelod o'r teulu'n ymweld a Thiepval.


Yn ôl i frig y dudalen


 ********************************************


John Owen Jones, Trosymynydd

Roedd yn frawd i Richard Jones a fu farw ar 13 Mai , 1917 (chwe mis o'i flaen.)


Cartref John Owen Jones - Trosymynydd


Mynwent Beersheba, Israel lle'i coffawyd ef


Yn ôl i frig y dudalen

********************************************


Robert Jones, Glanygors

Robert Jones

Teulu Glanygors

LLythyr oddiwrth Annie i'w brawd


Llythyr i Robert gan ei fam a'i dad


Y  'Death Plaque' a roddwyd i'r teulu ar ôl ei farwolaeth

Cartref Robert Jones- Glangors


Mynwent yn Alexandria lle'i coffawyd ef.


Yn ôl i frig y dudalen

********************************************


Thomas Pritchard Lewis, Tynycae

Yn ôl i frig y dudalen


 ********************************************


Owen Owen, Fron

Cartrtef Owen Owen-Y Fron


Chwarel- ei gartref cyntaf


Mynwent Thiepval, lle'i coffawyd ef.


Yn ôl i frig y dudalen

********************************************


Owen Roberts, Carregydaran

Cartref Owen Roberts- Carregydarran


Mynwent y Rhyfel yn Baghdad lle'i coffawyd ef.


Rhestr Anrhydedd o’r rhai a laddwyd yn Iraq yn y ddau Ryfel Byd


Yn ôl i frig y dudalen

 ********************************************


Evan Williams, Brynddu Road

Mynwent y Rhyfel yn Jerwsalem lle'i coffawyd ef


Yn ôl i frig y dudalen


 ********************************************


John Williams, Minffordd

Y fynwent lle'i coffawyd ef yn Ffrainc- ROCQUIGNY-EQUANCOURT


Yn ôl i frig y dudalen


 ********************************************


Owen Williams, Penymynydd

Owen Williams


Tad Owen Williams


Mam Owen Williams


Cartref Owen Williams- Penmynydd


Y 'Death Plaque'


Penmynydd heddiw


Medalau Owen Williams


Mynwent Helles lle'i coffawyd ef


Yn ôl i frig y dudalen


 ********************************************


Cysylltiadau a Llanfechell

Heblaw'r rhai ar y gofeb, mae yna ddau ddyn arall a chysylltiadau a Llanfechell:

Thomas Jones - Preifat 14991, 10fed Bataliwn RWF. Clwyfwyd ym mrwydr 'The Bluff' ger St. Eloi ar 2 Mawrth , 1916 a bu farw'r dydd canlynol. Fe'i ganwyd yn Llanfechell yn ôl SDGW (Soldiers Died in the Great War) ac fe ymrestrodd ym Mhorthaethwy. Does dim bedd iddo ond fe'i enwyd ar gofeb Menin Gate.

William Lewis- Preifat 20476, 14eg Bataliwn (Môn ac Arfon) , RWF. Listiodd yng Nghaergybi ac aeth dramor ar 2 Rhagfyr, 1915. Fe'i lladdwyd ger Mametz ar y Somme, 9 Gorffennaf, 1916 yn 21ain mlwydd oed.. Does dim bedd iddo ond fe'i enwyd ar gofeb Thiepval. Eto mae SDGW yn dweud ei fod yn enedigol o Lanfechell, ond mae rhestr byrddio'r 14eg Bataliwn yn rhoddi ei gyfeiriad fel Tŷ Newydd, Rhosgoch. Rhosgoch hefyd sydd ar SDGW fel ei gyfeiriad, ac mae'r CWGC (Cofeb Rhyfel Gogledd Cymru) yn nodi ei rieni fel John ac Elizabeth Lewis, Garnedd Isaf, Rhosgoch. Fei' cofiwyd ar banel Rhosybol yng Nghofeb Gogledd Cymru, Bangor.

Mynwent Yr Eglwys

Mae'n werth son hefyd fod yna un bedd rhyfel yn ne-ddwyrain mynwent yr Eglwys i-

Hugh Williams oedd yn Daniwr (Stoker 1st class) K/35848) yn y Llynges Frenhinol. Bu farw 18 Gorffennaf, 1919 yn 22ain mlwydd oed. Fe'i ganwyd yng Nghaergybi ac fe weithiodd fel gwas fferm cyn ymuno a'r Llynges yn Awst, 1916. Fe wasanaethodd ar HMS Chelmer o Chwefror, 1917 hyd at 25 Chwefror, 1919 pryd y gorffennodd a'r Llynges. Rhaid bod achos ei farwolaeth (clwyfau neu’r dicáu efallai) wedi codi o'i wasanaeth fel morwr iddo gael haeddu bedd rhyfel swyddogol. Ei rieni oedd Richard a Jane Williams (wedi'r rhyfel ) o Drum Carreglefn ond ni wyddom  ei gysylltiad â Llanfechell a berodd iddo gael ei gladdu yno.

Hefyd ar garreg fedd ym mynwent yr Eglwys fe gofir Hugh Owen, Capten/Meistr yr agerlong SS YOLA a suddwyd gan y gelyn ar 28 Ionawr, 1917. Boddwyd ef yn 39 neu 41 mlwydd oed (nid yw'r garreg a'r CWGC yn cytuno) ac felly fe'i enwir ar gofeb Tower Hill yn Llundain (i forwyr y Llynges Fasnachol a gollwyd). Wedi'r rhyfel roedd ei weddw, Eleanor Owen yn byw ym Mryn, Bodewryd, Carreglefn, a'i rieni Owen a Margaret Owen yn Fron Y Graig (neu Fron Craig), Porthladd Amlwch. Roedd yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yno ac fe'i cofir ar gofeb Amlwch a phanel Amlwch yng Nghofeb Gogledd Cymru, Bangor. Fe anwyd ef yn Amlwch yn 1877, gan godi i fod yn Ail Fet yn 1901, Met Cyntaf yn 1902 ac yn Feistr yn 1904. Bu'n gapten ar yr Yola o 1916 hyd at yr amser a ddiflannodd hithau gyda'i holl griw (33 enaid) yn 1917. Eto ni wyddom ei gysylltiad â Llanfechell a berodd iddo gael ei gladdu yno.

Diolch i'r Parchedig Clive Hughes am yr wybodaeth yma a dderbyniwyd trwy Ebost


Yn ôl i frig y dudalen

********************************************


Cofio Y Rhyfel Fawr

Ar drothwy canmlwyddiant y rhyfel

Sefais wrth gofgolofn y Llan,

Darllenais enwau y bechgyn

Na ddychwelodd yn ôl i’r fan.

Gadael ffrindiau a theulu

Gyda eu calon yn drwm,

I ymladd mewn gwlad dramor

Gan gydio yn eu gwn.

Rhain a aeth heb wybod

Yr uffern oedd o’u blaen,

A’r canlyniadau erchyll

Fuasai’n dilyn nes ymlaen.

Mae’n anodd i mi ddychmygu

Y pryfaid a’r drewdod mawr,

Y cyrff yn y ffosydd budron

A’r gwaed yn llifo i lawr.

Cofiwn y rhai a ddaeth adref,

Gyda hoel y rhyfel llwm

Ar feddwl corff ac enaid

A’u hanafiadau’n ddwfn.

Arhosodd rhai gartref

I warchod y tir fel y bo

Hafan i ddychwelyd iddo

Yn eu cynefin a’u bro.

Cofiwch chwithau heddiw

Yr aberth a wnaed ar ein rhan

I gadw Prydain yn ddiogel

A phentref bach y Llan.

Bydd rhaid i ni hefyd gofio

Dewder y dynion i gyd

A aeth i’r Rhyfel Gyntaf

A hefyd i’r Ail Ryfel Byd.

Rhaid i bob gwlad ystyried

Rhoi lawr eu harfau i gyd

A chydweithio gyda’n gilydd

I gael heddwch trwy’r byd.

Mrs Maureen Jones

         Llanfechell


Yn ôl i frig y dudalen



 ********************************************


Cysylltiadau a Llanfechell

Parch. Clive Hughes

Cerdd Mrs Maureen Jones