Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Anglesey Trading Company 1896 - 1899

Cliciwch ar y lluniau i'w gweld yn fwy

Cyflwyniad

Erthygl gan y diweddar Mr Richard Jones O.B.E.

Mr Barkworth ar y Titanic



Yn ôl i frig y dudalen


Yr ‘Anglesey Trading Company’, Llanfechell 1896-1899 gan Mr Richard Jones O.B.E.

Ar ymweliadau a rhai o gartrefi Llanfechell a Mynydd Mechell, sylwais fwy nag unwaith ar blatiau tegan crwn, du gyda’r geiriau ‘Anglesey Trading Company 1896’ mewn paent o liw aur arnynt, yn addurno’r dreseli.

  *************************************************************************

Euthum ati i holi mewn cywreinrwydd am hanes y platiau a’r cwmni, ac yn ddigon ffodus i sgwrsio ag ambell un a fu’n gyflogedig gan y cwmni yn ystod ei fodolaeth fer. Un a fu yno yn of yw Ben Jones, Pen ‘Rallt, sydd heddiw yn 88 oed. Un arall a roddodd lawer o wybodaeth i mi yw’r diweddar Gapten Owen Evans, Sŵn y Môr, Cemlyn - nai i’r diweddar Gadfridog Owen Thomas A.S.

Fy syniad cyntaf am y fenter oedd mai nifer o grefftwyr yn gweithio ar y cyd oedd yno- er lles i bawb. Gan mai’r Cadfridog Owen Thomas, Aelod Seneddol Llafur cyntaf Môn, oedd un o’r arweinwyr, nid afresymegol oedd casglu fod yma rhyw ail Robert Owen a’i New Lanark wedi bodoli yma. Eithr camarweiniol iawn oedd y syniad cyntaf hwnnw. Ni fu fawr o weledigaeth ddyrchafol o’r tu ôl i ffurfio’r ATC!  Rhyw gyfres o ddigwyddiadau a fu, a rhy ychydig o fwrw’r coelbren cyn y digwydd o hyd.

Oddeutu 1890 yn Llanfechell ‘roedd yna gwmni bach llwyddiannus iawn yn masnachu dan yr enw O. T. Evans & Co. er nad oedd gan O.T. Evans ei hunan unrhyw afael ariannol arno. Eiddo’r Capten Owen Thomas (yn ddiweddarach A.S. y Sir) ydoedd y cwmni hwn. Roedd gan y Parch Isaac Humphreys ran amlwg yn y cwmni hefyd. (Arferai ei fam wneud bara bach crwn a’u rhannu yn yr eglwys ar fore Sul unwaith y mis.) Yna gadawodd John Jones, saer, ei weithdy i fynd i ffermio i Gae Coch, ac nid oedd deis arall i’w nai a’i gyd-saer, John Parry, ond mynd i weithio at O. T. Evans & CO. Y John Parry talentog hwnnw oedd sylfaenydd yr adeiladwyr Parry & Hughes, Llanfechell. Ymhen rhyw ddwy neu dair blynedd wedyn ymunodd Evan Owen, Tŷ Bach, Carreglefn a’i ddynion a’r cwmni, a llwyddodd i gymryd ‘contracts’ mwy. Ffynnodd y cwmni fwyfwy. Mae’n amlwg i Owen Thomas , a drigai yn y Brynddu, gael blas ar dyfiant y consyrn, a phenderfynodd ehangu ymhellach. Clywodd am ddau ymwelydd Haf (pethau prin yn yr oes honno) yn aros yng ngwesty Bryn Mechell. Dau Sais cyfoethog o Swydd Efrog oeddynt, a’u henwau- A. E. Barkworth a H. R. Maxted. Yn 1896 llwyddodd Owen Thomas i’w hudo i fod yn gyd-reolwr cwmni gydag ef, ac i enwi’r cwmni newydd yn Anglwswy Trading Company. Yr hen gwmni bach wedi ei ehangu oedd hwn, a phrynwyd pob masnach a chrefft yn yr ardal, gan gyflogi’r gweithwyr yn y cwmni mawr newydd. ‘Roedd yno gertmyn, trafaelwyr, gwehyddion, ‘tinmen’, gofaint, , sadleriaid, cryddion, paentwyr, priswyr, cylchwyr-casgeni, , clercod, prentisiaid, llafurwyr etc. Gallai’r cwmni ymgymryd ag unrhyw waith- ym Môn. Hwy a adeiladodd Ysgol Carreglefn a’r Tŷ Ysgol; Tŷ Capel Ebeneser, Llanfechell; Triolfa, Carreglefn; Gwesty’r Gadlys, Cemaes; Pen Padrig, Carreglefn ; Tyddyn Mieri, Llanfechell (am £80!!.)

Y Gadlys

Ar un adeg cyflogid tua phedwar ugain o weithwyr gan y cwmni. O’r ‘Tannery’ yng Nghaernarfon y caent ledr at y gwaith. Gellid prynu unrhyw beth o garrai esgid i beiriant lladd gwair yno. Deng mlynedd yn ôl ’roedd ffermwyr lleol yn gweithio a pheiriant lladd gwair a brynwyd gan A.T.C. ac yn ystod rhyfel 1939-1945 byddai’r diweddar Edwin Jones (mab i’r Ben Jones a fu’n grydd gyda’r A.T.C.) yn rhannu careiau esgidiau’r cwmni- yn ardal Llanfechell!.

Cawsai’r fformyn- Evan Owen a John Parry 24/- yr wythnos o gyflog yno. Rhoddir 21/- i’r prif grefftwyr fel Ben Jones, y crydd dihafal a Richard Hughes, Bwchanan (a fu’n farw’n ieuanc, 32 oed-  ef yn dad i’r brodyr John a Richie Hughes a ehangodd gymaint ar fusnes adeiladwyr presennol Parry & Hughes). Deunaw mis oedd cyfnod prentisiaeth ac o weithio hyd 4 o’r gloch y ‘pnawn yn ddyddiol, gellid wedyn ennill 5/- yr wythnos fel cyflog dechrau. Telid 2/- yr wythnos i lanhawyr.

Roedd gan Owen Thomas waith brics yng Nghemaes hefyd a Mr Tidy, Storws, Cemaes yn rheolwr arno. Tipyn o fethiant oedd y gwaith am fod gormod o galch yn y brics yn ôl y dystiolaeth.


‘Doedd y cwmni ddim yn ffynnu yn ôl y disgwyliadau oedd gan y Rheolwr. Cafwyd awgrym cryf o hyn tua 1898 pan ddywedodd Mr Maxted wrth Huw Williams, plastrwr (Cefn Glas hyd ei farw yn 1965). “If you have any money, put it in the Anglesey Trading Company and you’ll lose it quickly”. Roedd amryw o resymau dros y llithro yma . Nid oedd gan Maxted na Barkworth unrhyw brofiad o redeg busnes o’r fath. ‘Roedd y ddau yn drwg dybio’r gweithwyr am na ddeallent eu hiaith, a chyflogasant ddau glerc Seisnig o’r Rhyl i wylio ‘pethau’. Digiodd gweithwyr at yr agwedd honno, a thybid i rai ohonynt ymroi i anonestrwydd oherwydd bod yr amheuaeth yno’n barod! Credai eraill fod Maxted a Barkworth yn llawer rhy uchelgeisiol, ac felly ar ormod o goflaid bob tro; er enghraifft archebent lwythi lawer o addurniadau eirch ac ugeiniau o filoedd o gareiau esgidiau!! Nid oedd y gofyn  byth yn cyfateb i’r archebu - (wrth drugaredd o feddwl am y miloedd platiau eirch!). Does ryfedd yn y byd felly ychwaith i’r careiau esgidiau fod mewn cylchrediad yn 1943!! Gwr hael iawn oedd Maxted, ond Barkworth ar y llaw arall yn gybyddlyd dros ben. Collodd yr olaf geiniog ar lawr y storws unwaith a threiliodd fore cyfan yn chwilio’n ofer amdani. Adeiladwyd Gwesty’r Gadlys yng Nghemaes gan y cwmni- heb fwrw’r draul yn iawn. Wedyn, pan waeth Owen Thomas gais am drwydded i’r Gadlys gwrthodwyd ef gan yr ustusiaid yn Amlwch, gan gryfed oedd ysbryd dirwest yn y tir. Bu raid gwerthu’r gwesty hardd yn rhad fel tŷ preifat i ryw Gyrnol Wilson. Un enghraifft yn unig yw’r Gadlys o’r colledion trymion a gafodd yr A.T. C.

Erbyn 1899 ‘roedd pethau mor ddilewyrch yn llyfrau’r cwmni fel y gwnaed cais i’r  llywodraeth am ganiatâd i ddirwyn y cwmni i ben.


Bu arwerthiant am ddyddiau yng ngweithdai a siopau’r cwmni o’r tu ôl i’r Crown Terrace. Mae’n rhaid na chafwyd digon o arian i dalu dyledion y cwmni oherwydd gwerthwyd llawer o bethau wedyn yn y Brynddu yn ystod y dyddiau dilynol.

Cwmni cyfreithiol Thornton Jones, Bangor oedd yn gyfrifol am gau’r cwmni, a llwyddwyd yn anrhydeddus i dalu ugain swllt y bunt i holl gyflenwyr yr Anglesey Trading Company. Aeth y crefftwyr yn ôl i’w  gweithdai a’u masnachau bychain eu hunain ond i lwyddiant mwy! Rhyfedd o beth yw i fethiant y cwmni droi’n gychwyn mor dda i fywyd newydd i lawer a fu’n gyflogedig yno! Aeth tri rheolwr ynghyd a’u prif ysgrifennydd- Owen T Evans i ryfel i De Affrica. Y tro olaf y gwelwyd Maxted gan Owen Thomas oedd ar sgwâr ymarfer gorymdeithio yn Portsmouth yn cael ei hyfforddi i fod yn filwr gyda’r ‘Yorkshire Regiment’. Roedd Barkworth ar y Titanic pan suddodd honno wedi gwrthdrawiad a mynydd rhew yn yr Iwerydd yn 1912. Achubwyd Barkworth am yr ail waith rhag ‘boddi’! Roedd Owen Thomas yn gapten yn y ‘Territorial Army’ neu’r ‘militia’ neu’r ‘volunteers’ cyn 1899. Ffurfiodd a rheolodd y ‘Prince of Wlaes, Light Horse’ yn Affrica. Codwyd ef yn gadfridog a chollodd dri mab yn y rhyfel 1914-18. Bu iddo drechu Syr Ellis Jones Griffith, y Rhyddfrydwr disglair, o 186(?) o bleidleisiau mewn etholiad seneddol yn 1921(?) a chynrychiolodd Fôn fel aelod Llafur yn Westminster. Mae cofeb iddo yng nghapel yr Annibynwyr, Ebeneser, Llanfechell, lle bu yn ddiacon ac athro Ysgol Sul am flynyddoedd hyd ei farw yn 1923.

Erys y llestri gyda stamp yr Anglesey Trading Company arnynt. Erys y Gadlys a Thyddyn Mieri ac Ysgol Carreglefn a thŷ capel Ebeneser a llawer adeilad arall yn goffadwriaeth i’r Anglesey Trading Company. Erys hefyd y cymeriadau cymysg a oedd ynglŷn â’r cwmni yn fyw yng nghof yr unig un ohonynt sydd yn fyw heddiw- y gof crefftus, nerthol ei freichiau o hyd- Ben Jones, Pen ‘Rallt.


Yn ôl i frig y dudalen

*****************************************************************

Mr Barkworth ar y TITANIC

Ustus Heddwch o Hessle, Swydd Efrog oedd Algernon Henry Wilson Barkworth. Tra ar wyliau Haf ym Môn yn 1896, fe'i perswadiwyd gan y Cadfridog Owen Thomas, i fuddsoddi yn yr Anglesey Trading Company oedd wedi ei sefydlu yn Llanfechell a dod yn un o dri rheolwr y cwmni.

Teithiodd ar y Titanic o Southampton (Caban A-23, tocyn rhif 27042, ?30). Treuliodd lawer o'i amser ar fwrdd y llong gyda Arthur Gee a Charles C. Jones. Cyn mynd i'w wely ar y noson dyngedfennol, deallodd fod cloc y llong yn cael ei droi'n ôl awr am hanner nos. Dewisodd aros, er mwyn rhoi ei oriawr ar yr amser cywir. Cofiai iddo glywed y band yn chwarae ar y ffordd i'w gaban.

Fel y sylweddolai fod y llong yn suddo, gwisgodd gôt ffwr dros ei wregys achub. Taflodd ei gâs llaw i'r môr a chamu i'r eigion. Teimlai fod y gôt a'r câs wedi ei helpu i arnofio, ac felly, achub ei fywyd.  Yn y dwr, bu'n pwyso ar blanc o bren cyn gwneud ei ffordd at Gwch Achub Plygadwy B ac er na chroesawyd ef i'r cwch gan y tri ar ddeg oedd arni'n barod, bu'n arnofio wrth ei hochr am beth amser cyn gallu llusgo'i hun iddi.

                    Bu farw ar Ddydd Sadwrn, Ionawr 7, 1945 yn bedwar ugain ac un oed.

Yn ôl i frig y dudalen

        *************************************************************************