Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Capeli Llanfechell

gyda diolch i Mrs Annwen Jones, Mrs Elaine Rowlands, Mrs Hannah Owen, Mr Robert Williams a Mr Nigel Thomas


Capel Calfaria

Capel Ebeneser

Capel Calfaria- Capel y Bedyddwyr Mynydd Mechell

**************************************************

Capel Newydd

Hen Addoldy'r Garreg Fawr a adeiladwyd yn 1815. Gwelir y tŷ capel ynghlwm wrtho. Cymerwyd yr enw o fferm gyfagos.

Cliciwch ar y dogfennau a phapurau i'w gweld yn fwy


Dyma'r hen addoldy fel ac y mae yn awr, yn hen  ferddyn a'r garej yn ei ganol.


Yn 1897 penderfynwyd adeiladu capel newydd gan fod Carreg Fawr yn dirywio. Prynwyd y tir gan deulu Sarn Fadog, Llannerchymedd am £10. Samuel Thomas oedd yr adeiladwr am gost o £318.9.5d

Agor y capel gan y Parchedig R.W. Davies


 ********************************************

Tŷ Capel


Noddfa, Cemaes


Ar 8 Mehefin, 1907 bu farw Richard Williams, Betws. Rhan o'i eiddo oedd Felin, Cemaes. Gadawodd y rhan fwyaf o'i eiddo i'w frawd,  Joseff Williams, Cefngwyn. Y flwyddyn ddilynol addawodd Joseff Williams ddarn o dir Y Felin i eglwysi'r Bedyddwyr Cemaes a Llanfechell ar gyfer codi tŷ i weinidog y ddwy eglwys. Cost adeiladu'r ddau dy oedd £486. 14s. 3d . Cost adeiladu'r wal a gosod giât yn   £44. 2s. 7d. Gorffennwyd y cyfan erbyn calan gaeaf 1909

Aeth y gweinidog Y Parchedig Meirion Richards i fyw i Noddfa a gosodwyd y tŷ arall i deulu am rent o £18 y flwyddyn.



********************************************

Gweinidogion Calfaria


Y Parchedig W. Richards a'i briod 1907-1912

Y Parchedig W.P. Thomas 1914-1919

Y Parchedig Ben Meyrick 1920-1926

Parchedig B.D. Harris a'i briod 1928-1938


Y Parchedig D.R. Owen 1941-1943 gyda'i fab a'i frawd.

Y Parchedig Emlyn John 1945-1996


Y Parchedig Evan Williams, mab Penygroes- yr unig un a godwyd i'r weinidoigaeth o Galfaria

Mr Morris Williams, blaenor yng Nghalfaria a thad y Parchedig Evan Williams


********************************************

Trwydded Priodi i'r Capel

Nid oedd trwydded i weinyddu priodasau ar gael yng Nghapel Calfaria ond pan ddeallodd Richard Owen, Bryn Clyni fod ei ferch am briodi aeth i brynnu trwydded. Gweinyddwyd y briodas gyntaf yng Nghalfaria ar 22ain o Dachwedd, 1938 pan briododd Miss Eluned Owen, Bryn Clyni a Mr William Owen, Creigiau Mawr.


Mr Richard Owen, Bryn Clyni


William ac Eluned Owen


Trwydded yn dangos fod Capel Calfaria wedi cael ei gofrestru ar 25ain Hydref 1938 fel man i gynnal priodasau.


********************************************

Rhoddion i'r Capel


Gweler y cerrig ar wal y capel - roedd pawb sydd a'u henwau yn y fan hyn wedi rhoddi rhodd i'r capel


Y Beibl bach- rhodd gan Miss Apolonia Davies


Organ- rhodd gan Mrs Grace Rowlands Ucheldref a fu'n organyddes yn y capel am dri deg o flynyddoedd.

Llestr Cymun- rhodd gan Mrs Rowlands, Y Felin


Plât arian a bwrdd- rhodd er cof am Morris a Grace Williams, Penygroes


Lamp a'r pulpud - rhodd gan Miss J Roberts


Llun Christmas Evans- rhodd gan Mrs O Roberts


Cloc - rhodd  gan Mrs Williams, Penygroes


Organ drydan - rhodd gan Miss Megan Hughes, Dulas.


Beibl er cof am Richard Owen, Bryn Clyni gan ei briod a'i blant , 1945

********************************************


Gofalwyr y Capel

Bu Calfaria'n ffodus iawn o gael gofalwyr heb eu tebyg, Mr William Jones a'i briod, Mrs Margaret Jones am dri deg o flynyddoedd. Bu farw Mrs Jones yn 1967 a Mr Jones yn 1969 ac yna cymerodd  eu merch, Miss Jean Jones y swydd  hyd iddi ymddeol ym Mawrth, 2005.


Mr a Mrs William Jones

Miss Jean Jones yng nghwmni y Parch.Emlyn John a Mrs Elaine Rowlands pan oedd yn ymddeol yn 2005

********************************************


Y Fedal Gee


Daeth anrhydedd i Gapel Calfaria yn 1929 pan dderbyniodd Mr Hugh Jones, tad Mrs Hannah Owen , y Fedal Gee am ei ffyddlondeb i'r Ysgol Sul. Bu farw ar 25 Ionawr, 1933 yn 95 oed.


********************************************


Gweinidog Newydd - Y Parchedig Emlyn John


Mr Emlyn John yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor 1944


Y Parchedig Emlyn John wedi graddio


Daeth y Parchedig Emlyn John, Mynachlog Ddu, Penfro o'r Coleg ym Mangor yn 1945 i Gapel Calfaria . Cafwyd Oedfa Bregethu a phregeth gan y Parchedig R. Parri Roberts, Mynachlogddu.

Ordeinio'r gweinidog newydd


Y Parch Emlyn John a'i briod, Gwyneth


Priodas gyntaf Y Parch. Emlyn John- Mawrth 1af, 1946 pan briodwyd Miss Mary Jones, Penygroes Arthur a Mr Robert Owen, Tŷ Hen.

Mr John yn bedyddio yn y môr yng Nghemaes. Bedyddio yn yr un modd a fedyddiwyd yr Iesu y bydd y Bedyddwyr yn ei wneud- yn y môr yng Nghemaes, yn ffynhonnau Capel Bethlehem neu Soar, Llanfaethlu.

Y Parch a Mrs Emlyn John yn dathlu deugain mlynedd o wasanaeth.


Dathlu hanner canrif o weinidogaeth


Cerdd o ddathlu gan y diweddar Richard Jones O.B.E.


Cerdd gan y Parchedig Geraint Edwards


********************************************


Rhai digwyddiadau yn ystod cyfnod Gweinidogaeth y Parch.Emlyn John.


Llythyr wedi ei anfon ar 11eg Mai, 1955 yn dangos fod trydan am gael ei gyflenwi i'r ardal gan gynnwys Capel Calfaria


Gorymdaith Urdd y Seren Fore (Pob Sulgwyn)


Cymanfa Bregethu Y Bedyddwyr yn Libanus, Llanfechell


Cyfarfod Cymanfa Bregethu 1974 (Mr Richard Jones yn y gadair)


Trip Ysgol Sul i Fetws Y Coed


Oedfa Bregeth fore Sul


Mr Richard Jones, Penygroes Arthur a fu'n Flaenor a Thrysorydd yng Nghapel Calfaria am flynyddoedd lawer. Cafodd ei ddyrchafu i Gadair Cymanfa Môn yn 1974. Bu farw Mawrth 15, 1986 yn 74  mlwydd oed.

"Bu'n ddiacon a thrysorydd ac yn fugail gofalus y praidd yng Nghalfaria, Llanfechell. Ni chafodd gweinidog erioed well cyfaill a chydweithiwr"   (Emlyn John)


********************************************

Dathlu Camlwyddiant Capel Calfaria- yr unig gapel ym Môn sy'n dwyn yr enw Calfaria


Ar 8 Mai, 1998 cafwyd dathliad canmlwyddiant yr achos yng Nghalfaria. Roedd llawer iawn o wahoddedigion wedi ymuno a'r aelodau yn yr hen gapel bach. Y diweddar Mr Richard Owen, Bryn Clyni oedd yn llywio cyfarfod y prynhawn lle bu'n 'Bwrw Trem dros y Ganrif'.Llywyddwyd cyfarfod y prynhawn gan Mrs Hannah Owen, Cae Mawr a chafwyd datganiad o'r 'Hen Gapel Bach' gan Mrs Elaine Rowlands.Hi hefyd oedd yn codi'r gân ac yn cyfeilio. Cafwyd pregeth yn yr hwyr gan y Parchedig J.R. Rowlands. Y Parchedig Emlyn John oedd yn gyfrifol am y trefniadau.


90 oed yn Chwefror 2007

Y Parchedig J. R. Rowlands yn cyflwyno anrheg ar ran aelodau Calfaria


Eleri a Gwilym yn dathlu gyda'u tad


Aelodau hynaf Clafaria 2008-

               Y Parch. Emlyn John -91 oed

                   Mrs Hannah Owen- 90 oed

                   Miss Jean Jones - 84 oed


********************************************

Pen y Daith


Bu farw Y Parchedig Emlyn John ar 5ed Dachwedd, 2008 yn 91 mlwydd oed. Bu'n gwasanathu yng nghapel Calfaria am 63 o flynyddoed

Teyrnged gan ei gyfaill agos y Parchedig Emlyn Richards

Dyma sut y byddwn yn ei gofio


********************************************


Yn ôl i frig y dudalen


Capel Ebenezer - capel yr Annibynwyr, Llanfechell


Er bod y capel presennol wedi ei godi yn 1862 rhaid mynd yn ôl nifer o flynyddoedd cyn dechrau’r achos.


Hen ffermdy Maes Mawr


Fel llawer achos tebyg, ar aelwyd y cychwynnodd cymdeithas o bobl oedd yn ‘proffesu crefydd’. Ar aelwyd Maes Mawr y cychwynnodd yr achos Annibynnol yn ardal Llanfechell pan ddaeth un Richard Jones i fyw i Faes Mawr ond ni wyddir yn union pryd. Mab oedd i John Owen , Caeaumôn. Arferai fynd i’r Capel Mawr, sef Ebenezer, Rhosmeirch- y capel Annibynnol cyntaf ym Môn. Felly Richard Jones a’i wraig oedd yr unig rai yn yr holl ardal oedd yn ‘proffesu crefydd’. Yma i’r Maes Mawr y deuai'r pregethwyr cyntaf.

Er dirfawr golled i’r ardal bu farw Richard Jones yn ddyn cymharol ifanc yn 1787 a chladdwyd ef ym mynwent , Rhosmeirch.


Bu moddion crefyddol yn cael eu cynnal yn yr ardal gyda mesur o gysondeb ond wedi i Owen Thomas ddod i fyw i Garrog cafodd yr achos atgyfnerthiad mawr. Ganwyd Owen Thomas ym mhlwyf Heneglwys lle'r oedd ei dad yn amaethwr yn Nhy’n Llan. Roedd ei fam yn 'proffesu crefydd’ ond gwrthwynebodd ei dad pan gychwynnodd ar ei yrfa grefyddol. Derbyniwyd Owen Thomas yn aelod yn Rhosmeirch pan oedd yn ddwy a’r bymtheg mlwydd oed. Ar ôl priodi Elizabeth yn 1789 aethant i fyw i Gemaesycoed, Gwalchmai.

Yn 1794 symudodd i Fodwyn, Llanrhuddlad i fyw ac oddi yno cyfarfu i addoli gyda’r ychydig ddisgyblion yn Llanddeusant. Symudodd drachefn i Garrog yn 1800. Dywedir mai’r peth blaenaf yn ei feddwl bob amser yn ei holl symudiadau fyddai cael lle i addoli Duw. Cafodd le felly yn Llanfechell er nad oedd yma ar y pryd ond un aelod crefyddol, sef gweddw'r diweddar Richard Jones, Maes Mawr.

Mewn lle o’r enw Broc’ nol y bu’r ddau yn cynnal moddion crefyddol dros beth amser. Penderfynwyd adeiladu capel a chafwyd darn o dir y weddw ym Maes Mawr. Casglodd Owen Thomas £150 - y gost o adeiladu'r capel cyntaf.

Yn y cyfnod yma daeth chwaer grefyddol a oedd yn aelod yn Amlwch i’w cynorthwyo i gynnal cyfarfodydd gweddi. Bu hi ac Owen Thomas yn cadw cyfarfodydd gweddi yn fynych cyn bod yno neb arall a gymerai ran gyhoeddus yn y gwaith. Darllenai Owen Thomas o’r ysgrythur a rhoddai bennill allan i’w ganu ac yna dywedai yn ei ddull syml- ‘Sian dos dipyn i weddi” ac wedi cael gweddi afaelgar a gwresog gan yr hen chwaer, a’i yntau yn hyderus at orsedd gras.

Cynyddodd y gynulleidfa yn raddol nes bod nifer yr aelodau yn 50, yr Ysgol Sabothol yn 50 a’r gynulleidfa tua 1000.


Adeiladwyd y capel presennol yn 1862 gan y meistri Lewis o Lerpwl. Roeddent yn enedigol o Gemaes a’u rhieni a’u brawd hynaf yn gorwedd ym mynwent y capel.

Y cyntaf i’w roi i orwedd yn y fynwent oedd y gweinidog cyntaf, Owen Thomas. Dywedir amdano yn ei ddyddiau olaf boeni lle y gellir ei gladdu ef a dywedodd wrth ei fab am iddo ei gladdu wrth ymyl Ebenezer. Nid oedd hyn yn bosibl gan mai ar les oedd y capel ond aeth y mab at Richard Lewis, Gwenithfryn, a gofynnodd iddo werthu darn o’r llain iddo a oedd wrth ymyl gardd y tŷ capel. Dywedwyd fod Owen Thomas wedi marw yn fuan iawn ar ôl clywed fod y tir wedi’i brynu. Claddwyd ef yn y llain newydd ar 15 Ebrill, 1833 ac ef oedd y cyntaf a roddwyd i orwedd yno a hynny cyn bod y lle wedi ei amgáu.

Un hanesyn bach am Owen Thomas –

Pregethodd Owen Thomas lawer, nid yn unig ym Môn ond trwy holl siroedd Cymru, yn y Gogledd a’r De. Prynodd gaseg un tro oddi wrth chwaraewyr a grwydrai’r wlad. Un tro aeth gyda Jonathan Powell (gweinidog arall) i gymanfa y tu draw i Gaernarfon. Wrth fyned trwy’r dref clywodd y gaseg sŵn yr utgyrn o’r tabyrddau a chofiodd yr anifail am ei hen lwybrau. Nid oedd troi’n ôl arni a chafodd yr hen bregethwr ei hun yng nghanol y chwaraeon neu syrcas. Cafodd ryw gyfaill caredig i’w harwain oddi yno, ond roedd y chwedl wedi cyrraedd o’i flaen i’r gymanfa fawr a mawr ddifyrrwch a gafwyd i’w boeni am y digwyddiad.

Gweinidogion Rhosmeirch ac Amlwch a ofalent yn bennaf am yr achos yn Llanfechell, hyd nes y rhoddasant alwad i Owen Thomas ac urddwyd ef ar 12 Ebrill, 1814.

Urddwyd ei fab Thomas Owen i fod yn gyd-weinidog ag ef ac ar 10 Mehefin, 1828 gan fod ei dad yn heneiddio.

John Jones, Seion, Sir Fflint ddechreuodd yn Ebenezer yn 1853.

Agorwyd y capel newydd yn 1862 a sefydlwyd Mr T. T. Williams yn weinidog.

Daeth Mr David John, Aberhonddu yn weinidog ar 28 Medi, 1864 hyd at 1868 a daeth Mr Hugh Jones, Cemaes  yn weinidog yn 1872.

 

(O 'Eglwysi Annibynol Cymru' gan T. Reed, Abertawe a J. Thomas. Lerpwl)


Yn ôl i frig y dudalen