Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Melinau Llanfechell

gyda diolch i Ms Brenda Jones, Mrs Glenys Jones a'i merch Siân


Ceir 6 Melin yn yr ardal sef :-

Melin Ddŵr Meddanen;  Melin Ddŵr Cafnan; Melin Wynt Maen Arthur;         Melin Pant y Gŵydd; Melin Cefn Coch;    Pandy Cefn Coch (Melin Wlân)


Melin Ddŵr Meddanen

Melin Ddŵr Cafnan

Melin Wynt Mechell

  Melin Pant y Gŵydd

 Melinau heddiw

Pam cael Melin? Yr ateb syml yw bwyd!

Y ffordd gyntaf o falu grawn oedd dwy garreg yn cael eu rhwbio yn erbyn ei gilydd.

Y cam nesaf oedd pestl a morter, sef un garreg a phant ynddi, ar garreg arall yn grwn fel pêl


*******************************************************


Mae Melinau Dŵr Môn yn tarddu o oes y Rhufeiniaid - Mae’r llorp yn mynd ar draws, nid ar i fyny.

Ni ellir dyddio Melinau Dŵr  na Melinau Gwynt yn gywir, fel Eglwysi, am fod mwy o draul ar y Melinau.


Llun o weddillion yr olwyn gocos ym Melin Ddŵr Meddanen heddiw


Fel ‘roedd y boblogaeth yn tyfu, fe wellodd y ffordd o falu.  Roedd dwy garreg yn gorwedd ar ei gilydd, yr un isod a phant ynddi, ar uchaf hefo twll yn ei chanol fel bod posib rhoi handlen ynddi i’w throi.  Merched oedd yn gwneud y gwaith rhan amlaf.  Mae cyfeiriad at hyn yn y Testament Newydd, hefyd yng Nghyfreithiau Hywel Dda

Y cam nesaf oedd yr olwyn gocos.  Roedd llorp (siafft) yn mynd trwy'r garreg isaf a’i fachu yn y garreg uchaf, roedd y ffordd hon o falu yn cael ei wneud trwy ddefnyddio ceffyl neu asyn mewn harnes i gerdded o gylch y felin.


*******************************************************


MELIN  DDŴR  MEDDANEN


Gwelir gweddillion o hen Felin Ddŵr Meddanen ar dir Bwchanan a rhed llwybr ati heibio ochr Melin Minffordd  i lawr at Afon Meddanen.  Yno mae adfeilion y Felin Ddŵr a  weithwyd, mae’n debyg, ar y cyd gyda’r Felin Wynt.  Digwyddai hyn mewn mannau eraill hefyd, gan y gellid malu grawn yn y felin ddŵr pe na bai digon o wynt i yrru’r  felin wynt, ac i’r gwrthwyneb pe bai dŵr yr afon yn isel. 

 Deallir fod peth o beirianwaith y felin ddŵr ar y Feddannen yn dal yno, hyd at rai blynyddoedd yn ôl pryd eu rhoddwyd i wr o ardal Moelfre oedd yn atgyweirio melin ddŵr yno.  Yn 1993 yr oedd rhai o’r cerrig malu yn dal yno.

Rhai o’r cerrig malu ym Melin Ddŵr Meddanen yn 1993


Llun o’r maen yn dangos y rhannau


Felin Meddanen fel y mae heddiw


Prif fynedfa Melin Ddŵr Meddanen heddiw


Yr Afon Meddanen yn llifo heibio’r felin heddiw

Prif fynedfa Melin Ddŵr Meddanen heddiw

Roedd cyflenwad dŵr i droi’r felin yn dod o gronfa Pwll y Felin, agorid yr argau fel bod digon o ddŵr i droi’r olwyn .  Yn ystod yr haf ychydig o ddefnydd a wnaed o’r Felin oherwydd prinder dŵr yn afon Meddanen.

Tarddiad Afon Meddanen yw Llyn Bŵch, Mynydd Mechell

Llun ochr yr Afon o’r Hen Felin Ddŵr


 Gweddillion yr argae


........................................................

Roedd cerrig y Melinau yn dod o chwareli Penmon, Benllech a’r gorau o Fwlchgwyn ym Môn. Hefyd yn ddiweddarach o Ddyffryn y Rhine.  

Yn 1314 roedd maen melin yn costio 28/9d.

Mesurant oddeutu 4 troedfedd ar draws ac yn pwyso tua thunnell 

Rhennir wyneb y garreg yn ddarnau (segments) a elwir yn “harp” a gelwir pob llinell (furrow) wrth yr enwau – Butterfly Furrow; Journeyman Furrow; Apprentice a Master; a thwll yng nghanol y maen yn “Eye”

Arferai’r Melinydd (Millwright) lanhau’r meini yn ystod y gaeaf.

Defnyddiwyd parddu a  styllen i wneud yn siwr fod lefel y garreg yn union.



yn ôl i frig y dudalen


*******************************************************


MELIN DDŴR CAFNAN

Saif Melin Cafnan ar aber Afon Cafnan ym Mhorth y Pistyll, rhwng yr Wylfa a Chemlyn.  Ceir son am y felin yn   y      16eg ganrif, ac mae’n bosib bod melin ddŵr ar y safle ers y 13eg ganrif, oherwydd dywedir yn Stent Môn yn 1352 fod gan dref Caerdegog (a’i ‘welyau’ Cafnan a Llanddygfael) hawl ar Felin Cathaern.  Credir mai Melin Cathaern oedd y felin wreiddiol ar safle Melin Cafnan.

Yn 1614, rhestrir y canlynol fel melinwyr Melin Cafnan : David ap Hugh (25oed), Ednyfed ap William (35 oed), Robert ap David, a Rowland ap Robert ap David (25 oed) ei fab.

Yn 1637 talodd Richard ap Hugh, Melinydd Melin Cafnan 5 swllt (25c) mewn Treth Llongau –sef yr un dreth fu’n un o achosion y rhyfel rhwng y Senedd a Siarl 1af.  Cofier mai 1/- y dydd oedd cyflog crefftwr (megis seiri maen, coed neu felinydd) dros ganrif yn ddiweddarach yn ol William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell

Yn ei ddyddiadur ar gyfer 1740, mae William Bulkeley yn cyfeirio at helynt  a gododd rhwng dau dirfeddiannwr dros Melin Cafnan.  Ar Chwefror 4ydd aeth gyda’i frawd-yng-nghyfraith, Mr Lewis, Llysdulas a Mr Lewis Morris (Custom-house Surveyor of Holyhead”, ac wrth gwrs, un o’r Morrisiaid) i arolygu’r lôn at y felin trwy fferm Cafnan.  Y rheswm am hyn oedd bod John Griffith, Garreglwyd yn gwadu bod ffordd at y felin trwy fferm Cafnan, ac yn rhwystro pawb rhag mynd ati.

Ar Mai 17eg, 1740, rodd Mr Lewis, Mr Bulkeley, Mr Griffith a tri tyst wedi cyfarfod i setlo mater hawl mynediad at Felin Cafnan yn yr Wylfa.  Roedd gwr Garreglwyd yn honni i William Hughes, Wylfa ddweud wrtho nad oedd mynediad i Felin Cafnan drwy dir Cafnan. Aeth William Hughes ar ei lw na ddywedodd y fath beth wrtho.  Ar hynny, wedi cerdded y ffordd, cytunodd Lewis, Llysdulas a Griffith, Garreglwyd i rannu cost gosod giât ym mhen y lôn, a dyna ddiwedd y mater.

 ...................................................

Ysgrifennodd Richard Hughes yn Eisteddfod Cemaes yn y ddeunawfed ganrif bennill fel hyn-

“Hen Afon Fawr Cafnan fyth enwog waith Arian,

Rwyn gweled ei dwylan mewn dyffryn a  dôl

A chwyrn ar ei hechrwyn ceir maliad tair melin

Tra rhed y law-forwyn lifeiriol”




Melin Cafnan  – 1993

 Yn ôl arolwg yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, deallwyd fod peirianwaith oedd yn y felin yn dyddio o tua 1840, ac yn gyfan i bob pwrpas ac mewn cyflwr da.  Dargyfeiriwyd ffrwd y felin o Afon Cafnan, ac yna llifai dros ben yr olwyn pan oedd y felin yn gweithio - pan na fyddai yn gweithio, ail-ddargyfeiriwyd y ffrwd i redeg oddi tan yr olwyn ddŵr i lawr i lan y môr.

Gellir gweld yr olwyn heddiw, ond nid oes ffrwd iddi bellach.

Yn 1931, noda Lucy Williams, Caergybi (oedd yn arbenigwraig ar felinau) fod pwll y felin erbyn hynny yng ngardd y Foneddiges Violet Vivian yn Cestyll.  Wrth gynllunio’r ardd fendigedig yno, dargyfeiriwyd ffrwd y felin i'r ardd i ail-ymuno ag Afon Cafnan a llifo i’r traeth dan gyfres o bontydd troed carreg.

Erbyn hyn, mae Cestyll ym meddiant Yr Wylfa, a gwelir Felin Ddŵr Cafnan yn yr Ardd.  


yn ôl i frig y dudalen


*******************************************************


Melin Wynt Mechell


Mae mwy nag un enw ar  y  Felin Wynt sef Melin Mechell, Melin Minffordd a Melin Maen Arthur fel sydd i’w weld ar y mad. Saif  y felin wrth ochr y ffordd ar gyrion Mynydd Mechell.  Ni wyddys dyddiad ei hadeiladu, ond nid oes son penodol amdani yn nyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell (1734 - 1743 a 1747 - 1760), er iddo gyflogi saer melin am bymtheg niwrnod yn Ebrill 1756 am 1/- (5c) y dydd, nid oes son ar ba felin y bu’n gweithio.  Yn sicr, saif y Felin ar dir oedd yn perthyn i Stad y Brynddu.


Serch hynny, erbyn diwedd yr 19eg ganrif roedd yn cael ei gweithio  gan deulu o’r enw Parry a gwelir tystiolaeth o hyn mewn cofnodion o gyfrifiadau

1841 -John Parry

1851 – Dim Cofnod

1861 – Robert Parry

1871 – Robert Parry

1881 – John Parry

1891 – Morgan Parry

1901 – Morgan Parry

Yr oeddent yn arfer byw yn Nhyn Llidiart (Felin heddiw).

Nid oes cofnod ar ôl hyn ond yn ôl Llyfr “Windmills of Anglesey” roeddent yn byw yn Neuadd Filwa

Yn 1993 cadarnhaodd y diweddar Owen Jones Plas Brain ei fod yn cofio gŵr o’r enw Robert Rowlands yn cario i’r felin, ac yn ei chofio’n gweithio. Yn wir, o’i gartref yng Ngharreglefn fel plentyn, cofia allu gweld cyfeiriad y gwynt drwy edrych ar hwyliau Melin Mechell. Roedd Mr Jones yn cario blawd haidd oddi yno fel bachgen, ar gyfer gwneud bara cymysg (1/2 blawd haidd a ½ blawd gwyn), ac yn cofio cwestiwn Willie Parry’r Melinydd “Tolli ta talu ?”.  Rhyw dro ar ôl diwedd y Rhyfel Mawr gadawodd Willie Parry a pheidiodd y Felin a gweithio.

Wedi hynny, dechreuodd fynd a’i phen iddi.  Yn 1929, pan wnaethpwyd arolwg ohoni hi gan Rex Wailes, roedd ei chap wedi mynd, a dim ond un hwyl oedd yn weddill arni.  Er hyn, roedd y rhan fwyaf o’r peirianwaith tu fewn iddi yn dal yn gyfan.  Parhaodd i ddirywio, a disgrifiwyd hi gan Dirfesurydd Sir Fôn yn 1954 fel cragen yn unig, heb do na drws na ffenestr arni.

Diwedd y 70au, rhoddwyd caniatâd i’w throi’n dy annedd, a phan brynwyd hi gan deulu’r Flannery, rhoddasant nifer o ddarnau o beirianwaith i’r seiri melin oedd ar y pryd yn atgyweirio Melin Llynnon.



 


Y Felin yn y chwedegau


Ionawr 1982

1993


1993


Yn 1993 ysgrifennodd Mr Glyndwr Thomas  farddoniaeth ar gyfer  Felin Llynnon fel a ganlyn (gan fod rhannau o beirianwaith y Felin wedi ei defnyddio i’w hail atgyweirio).

 Y Felin Wynt

Lle bu’r gwyrthiau yn awelog

Yn troi’r gwynt yn fara’r sir,

Lle bu cyrchu a hel straeon

Cyn i’r farchnad fynd o’r tir,

Daeth adfeilion llwyd yr ynys

Hyd a lled yn dyrau gŵys.

Ond mae’r wyrth ym Melin Llynnon

Eto’n cadw’r cof yn fyw.

 

PENSINGRIG

 Wrth ymchwilio daethpwyd ar draws rhestr o hen fythynnod yn yr ardal gan Mrs Maggie Williams, Tan Rallt - a sylwyd ar  le o’r enw Pensingrig  yn ymyl y Felin Ddŵr (toes dim hoel heddiw, ond gwelir twmpath o gerrig ger y Giât Mochyn yn ymyl y Felin Wynt - tybed ai yma oedd ? Yn ôl y geiriadur golyga’r enw Sin - Amgylchfyd gweithgaredd arbennig a Grig - Giffrwd, sŵn isel chwithrwd.

..........................

 Yn ôl Cyfrifiad 1841 gwelir teulu o’r enw – John Thomas  Miller/Farmer

 Yn ôl Cyfrifiad 1851 gwelir enw Richard Williams – Mill Carrier


Yn 1993 ysgrifennodd Mr Glyndwr Thomas  farddoniaeth ar gyfer  Felin Llynnon fel a ganlyn (gan fod rhannau o beirianwaith y Felin wedi ei defnyddio i’w hail atgyweirio).

 Y Felin Wynt

Lle bu’r gwyrthiau yn awelog

Yn troi’r gwynt yn fara’r sir,

Lle bu cyrchu a hel straeon

Cyn i’r farchnad fynd o’r tir,

Daeth adfeilion llwyd yr ynys

Hyd a lled yn dyrau gŵys.

Ond mae’r wyrth ym Melin Llynnon

Eto’n cadw’r cof yn fyw.

 

PENSINGRIG

 Wrth ymchwilio daethpwyd ar draws rhestr o hen fythynnod yn yr ardal gan Mrs Maggie Williams, Tan Rallt - a sylwyd ar  le o’r enw Pensingrig  yn ymyl y Felin Ddŵr (toes dim hoel heddiw, ond gwelir twmpath o gerrig ger y Giât Mochyn yn ymyl y Felin Wynt - tybed ai yma oedd ? Yn ôl y geiriadur golyga’r enw Sin - Amgylchfyd gweithgaredd arbennig a Grig - Giffrwd, sŵn isel chwithrwd.

..........................

 Yn ôl Cyfrifiad 1841 gwelir teulu o’r enw – John Thomas  Miller/Farmer

 Yn ôl Cyfrifiad 1851 gwelir enw Richard Williams – Mill Carrier

Gwelir carreg fedd yn Hen Fynwent Eglwys Llanfflewin gyda’r wybodaeth yma arni :-

 I Elizabeth Parry – Priod John Parry Melin Mechell, yr hon a fu farw Ebrill 24ain yn y flwyddyn 1857 yn 67 oed

Hefyd am y dywededig John Parry yr hwn a fu farw Hydref 1af 1858 yn 76 mlwydd oed

“Er iechyd adfyd a hedd - er urddas

Er harddwch a mawredd

Daw awr rhaid mynd i orwedd

O stŵr y byd i isder bedd”


yn ôl i frig y dudalen


*******************************************************


MELIN PANT Y GŴYDD


Mae Pant y Gŵydd, a enwir yn yr hen bennill “Melinau Môn” yn sefyll ar y ffordd o Fynydd Mechell i Garreglefn, ac yn yr hen ddyddiau ym mhlwyf Llanbadrig.  Yn y gyfrol ‘Hyfrydwch Pob Rhyw Frodir’ fe’i  camenwir fel Pant y Gŵys yn y pennill.

Nid oes fawr ddim yn wybyddus am hanes y felin wynt hon, sydd yn rhan o dŷ ers talwm iawn, gan mai’r felin yw canol y tŷ!  Mae’n ddiddorol, gan hynny, i gymharu’r addasiad cynnar hwn o felin wynt yn rhan o dy annedd gyda Melin Minffordd, a addaswyd yn dy yn llawer diweddarach.

Credir bod y felin hon yn dyddio o hanner cyntaf y 18fed ganrif, ac iddi beidio gweithio yn gynnar yn y 19eg ganrif.  Nid oes llawer o dystiolaeth ysgrifenedig i’r ddamcaniaeth, ond nid oes son amdani ar fap degwm 1844, nac ar y map ‘Ordnance Survey’ 1840, nac yn nyddiadur William Bulkeley ychwaith.

Un rheswm a gynigir am iddi gael oes mor fer, ac iddi gau pan oedd melinau gwynt ar eu hanterth ym Môn o ran nifer a phrysurdeb, yw ei safle.  Er bod Pant y Gŵydd, ar waethaf ei henw, yn safle uchel, gwyntog ac agored, tir sâl sydd o’i gwmpas i dyfu cnydau - sef  harddwch gwyllt Mynydd Mechell gyda’i eithin, grug a chreigiau.  Golygai hyn bod rhaid cario grawn o bell i Bant y Gŵydd, ac wrth i fwy o felinau gael eu hadeiladu mewn mannau mwy cyfleus, peidiwyd â’i defnyddio ac anghofiwyd amdani heblaw yn y pennill.




Melin Llynnon sydd yn malu

Pant y Gŵydd sy’n ateb iddi

Cefn-Coch a Melin Adda:

Ond Llanerchymedd sy’n malu ora.

 


*******************************************************

Talai’r Melinydd dreth i’r Tir Feddiannwr, sef Squire Buckley, Brynddu yn hanes Llanfechell.  

Does dim cofnod o dreth Melin Minffordd, ond yn 1744 cofnodir –

Margaret Owen Pant y Gwydd 10/-                      

                                  Richard Owen Melin y Nant                         5/5 ½

                                           

Y Rheol oedd fod yn rhaid i’r Melinydd falu grawn y Tirfeddiannwr yn gyntaf ond roedd caniatad i werthu y blawd a oedd dros ben :-


        1760 – 3/4c y bwsiel

      1794 – 8/- y bwsiel

        1804 – 10/- y bwsiel


Allforwyd (cynyrch y melinau) blawd o Fôn adeg y rhyfeloedd byd – Fe alwyd yr Ynys yn MÔN MAM CYMRU

Gwelir Hen Bennill  :-


Pan ydoedd newyn gynt mewn gwlad

Ac angen yno’n ffynnu,

Nid ydoedd raid ond troi i Fôn

Yn union rhag newynu.

Pa ryfedd oedd ym more son

Ei  galw’n  Fôn Mam Cymru 

Cartrefai’r Melinydd wrth ochr y Felin, er mwyn iddo fod ar gael unrhyw adeg.  Ni chaniateir iddo adael y Felin heb ganiatâd perchennog y Felin.  


Yr oedd yn rhaid i’r Melinydd ddilyn rheolau :-

Dyma rai o’r pethau na ddylai'r Melinydd ei wneud  -

Gadael y Felin i sefyll pan fo ŷd ynddi

Gadael iddi falu yn wag

Gadael y blawd wedi malu i sefyll yn y cafn

Gadael y sach heb ei rwymo pan roi’r blawd ynddo

Pan wrth ei waith rhaid i’r Melinydd fod yn deg ei ymadrodd wrth y rhai sydd yn malu gydag ef.

Ateb pan gnocir y drws ar yr ail alwad pa amser bynnag fo.

Cynnal llawr y felin yn wastad ac yn lan bob amser (Allan o Atlas Môn - Melvyn Richards)

 

Y traddodiad oedd i’r mab ddilyn ei dad .


Y rheswm  pam aeth y Melinau’n segur oedd mecanyddiaeth.  Fe fu arbrawf ar ddefnyddio peiriant i droi'r hwyliau, ond methiant fu'r ymgyrch.  Mae llawer o’r hen felinau wedi ei haddasu yn dai erbyn hyn,.


yn ôl i frig y dudalen

*******************************************************


MELINAU HEDDIW



 Y  Twrbein Gwynt

 

Lle mae esgyll yn disgleirio

Yn yr haul wrth droelli’n chwim,

Y mae gwyrth mewn twrbein uchel

Creu goleuni glan o ddim !

Ond ni chreir mwy o’i gwmpas

Un gymdeithas megis cynt

Dim ond peiriant amhersonol

Ynon’n hymian yn y gwynt

  

Heddiw daeth modernwaith gas a chodi llu Melinau

Difethwyd rhan o’n daear las,

A’u swn sy’n drysu’n pennau

Rhaid cofio am Felinau gynt,

A chadw rhain o’r gora,

Gwell awyr bur, a daear las

Na blodau lu yn marw

A gwell yw swn uwchben y maes

Y Melinau rhaid eu cadw.

 *******************************************************

yn ôl i frig y dudalen


Dyma ran o bennill a ysgrifennodd Mr Glyndwr Thomas i’r Melinau

 


Llun o weddillion y llorp ym  Melin Ddŵr Meddanen