Cymdeithas Hanes Mechell

Hafan


Addysg


Cegin Filwr


Anglesey Trading Company


Cyfweliadau


Brynddu a’r Dyddiaduron  


Yr Eglwys


John Elias


Ffair Mechell


Maes Mawr


Coeden


Melinau


Yr Oriel


Syr Owen Thomas


Y Feddanen

a’r Wygyr


William Jones,

Mathemategydd


Fortunatus Wright,

Herwlongwr


Jos Y  Crown


Cofeb Llanfechell


 Capeli Llanfechell


Ol cnydau yng Ngharrog

Yr Hen Lan

Enwau Lleoedd

Robert Williams, Blaenor

Swyddfa’r Post

Gweirydd ap Rhys

Demograffeg Llanfechell 1851 a 1901

Mynwent Llanfechell

William Bulkeley a thlodion Llanfechell






Y Brodyr o'r Brynddu

gyda diolch i Mr Robert Williams


Cofeb Llanfechell

Y Brodyr o'r Brynddu -         Trevor Thomas

                                            Robert Newton Thomas

                                            Owen Vincent Thomas

Cefndir y brodyr

Roedd y tri yn feibion i Owen Thomas a symudodd i Frynddu gyda’i wraig, Fredericka Wilhemina Pershouse ym mis Medi 1888. Ganwyd pob un o’u pedwar mab ac un ferch yn y Brynddu  heblaw am Owen Vincent a anwyd ym Mrighton.

Brynddu oedd eu cartref hyd at 1899 pan aeth Owen Thomas i ymladd yn Rhyfel y Böer gydag eraill o wirfoddolwyr Cemaes a Llanfechell. Wedi treulio bron i flwyddyn yn ymladd yn Rhyfel y Böer daeth Owen Thomas adref a derbyniodd groeso arbennig pan ddaeth oddi ar y trên yn Rhosgoch ac wedyn yn Llanfechell a Llannerchymedd. Pan hwyliodd i Dde Affrica am yr ail waith aeth a’i deulu gydag ef i Cape Colony heblaw am ei ail fab, Leyton a arhosodd gyda’i nain (oedd wedi ail-briodi) yn Blackbrooke, Skenfrith, Sir Fynwy. Bu farw ym mis Ionawr, 1906 pan oedd ei rieni yn dal yn Affrica.

Mae gennym lun o fab Owen Thomas, Robin  fel biwglwr gyda’i dad Mae cofnodion yn dangos fod ei fab nesaf Owen Vincent yn fiwglwr hefyd. Ymrestrwyd y ddau gan eu tad i fod yn ddeuddeg oed yn 1901 ond mewn gwirionedd dim ond unarddeg oedd Robin a saith oedd Owen Vincent. Mae hanes yn y teulu fod Trefor, y mab ieuengaf hefyd eisiau ymuno a’i frodyr ond doedd o ddim ond pum mlwydd oed.

Symudwn ymlaen i 1914, pythefnos cyn i’r Rhyfel Mawr ddechrau, a gwelwn fod Owen Thomas yn ôl yng Nghemaes yn cymoni, yn llwyddiannus, mewn anghydfod rhwng yr Arglwyddes Hughes Hunter a thrigolion Cemaes a gollodd rhai o’u hawliau wrth i’r morglawdd gael ei adeiladu yng Nghemaes.

Ychydig o fisoedd yn ddiweddarach roedd Owen Thomas yn ôl ym Môn, y tro hwn yn recriwtio ar gyfer Bataliwn Ynys Môn i ymladd yn y rhyfel. Ynghyd ac arweinyddion crefyddol roedd yn  annog ei gydwladwyr i ymuno ag ef i ymladd yn y rhyfel. Efallai fod ei frwdfrydedd wedi bod braidd yn ormodol pan ddywedodd y buasai’n well ganddo weld ei feibion yn dod adref mewn eirch nac yn aros adref. Mae’n annhebyg iawn iddo ddatgan geiriau mor dyngedfennol.

 ********************************************


Yr Is Gapten Trefor Thomas R.W.F.

Yn 1916 lladdwyd Yr Is Gapten Trefor Thomas gan fwled cêl-saethwr. Roedd ei adran 38 yn amddiffyn adran Neuve Chappell yng Ngogledd Orllewin Ffrainc. Aeth yr adran ymlaen yn ddiweddarach i ymladd yn y Somme a gorfodwyd iddynt gymeryd ‘Mametz Wood’ a fu’n fethiant trychinebus. Cafwyd y Dystysgrif Coffa o’r rhyngwyd- <http://www.cwgc.org/search>   . Mae bedd Trefor Thomas ym mynwent St Vaast Post, Richmond, L’Avoue.

Ei fedd ym mynwent St Vaast Post, Richmond, L'Avoue


 ********************************************


Awyr Gadlywydd Robert Newton Thomas R.W.F.  R.F.C. B.A. Coleg yr Iesu, Caergrawnt

Fel y crybwyllwyd uchod roedd Robert Newton Thomas yn fiwglwr gyda’i frawd yn Rhyfel y Böer. Enillodd y Croix de Guerre ar ôl bod yn ymladd yn Ffrainc am bron i flwyddyn.

Ym mis Gorffennaf, 1917 saethwyd ei awyren i lawr dros y môr ger Gaza. Cafwyd yr wybodaeth yma oddi ar y rhyngwyd a’r ‘The Air Battle over Palestine’, tudalen 7. Cafwyd manylion am y colledig ar <http://cwgc.org/search> . Gwelir ei enw ar gofeb Jerwsalem,  panel 10.


Gweler y cofnod am 25 Gorffennaf


 ******************************************* *


Awyr Gadlywydd Owen Vincent Thomas R.W.F.   R.F.C.

Ymunodd a’r R.W.F. ym mis Hydref, 1914. Trosglwyddodd i’r R.F.C. ym mis Rhagfyr, 1915.  Cafodd ei hyfforddi yn Farnborough ac anfonwyd ef gyda’i sgwadron 32 i Ffrainc ym mis Mai, 1916. Ceir hanes am lawer o’i frwydrau awyr mewn llyfr ardderchog, ‘Wings over the Somme’ gan  Asgell Gadlywydd Gaily H. Lewis.

Tudalen o'r llyfr 'Wings Over the Somme'


Dychwelodd i Loegr ym mis Ionawr, 1917 gyda’i sgwadron a oedd bellach yn  gyfrifol am amddiffyn Llundain. Dywedodd ei frawd-yng-nghyfraith iddynt ollwng grenadau llaw ar long awyr Zeppelin a aeth ar dân.

Am wyth mis roedd yn hyfforddwr ymladd i’r Amddiffynfa Gartref , Gogledd Weald, Essex. Roedd hefyd yn artist ardderchog a gwnaeth frasluniau pensil o awyrennau Almaeneg pan yn Ffrainc.

Yn dilyn marwolaeth ei ddau frawd yn 1916 a 1917 rhoddwyd gorchymyn nad oedd Owen Vincent Thomas i’w anfon dros y môr o dan unrhyw amgylchiadau.

Yn anffodus ni ellir rhagweld damweiniau. Roedd y Capten Owen Vincent Thomas yn hedfan yng nghanol y nos ac er mwyn glanio roedd yn rhaid tanio fflêr i weld lleoliad y llain lanio. Saethodd y fflêr yn ôl i’r awyren gan achosi tan drychinebus ar uchder o fil o droedfeddi. Bu Capten Thomas yn ymwybodol am ychydig funudau wedi iddo ei dynnu o’r fflamau ac wedi llwyddo i egluro sut y digwyddodd y ddamwain. Wedi iddo ddweud “I can never survive this” aeth yn anymwybodol a bu farw'r bore canlynol. Mae’n ffaith fod ei fam a’i chwaer yn sefyll tu allan i ddrws y gwesty lle roeddent yn aros, wedi adnabod sŵn  yr awyren ac wedi gweld y ddamwain angheuol.

Ni ddaeth Owen Thomas a’i wraig dros y golled o bedwar mab. Priododd eu hunig ferch, Mina, Gerald Allen, swyddog o’r un sgwadron. Mae eu disgynyddion yn byw o amgylch Bandon, Cork yn yr Iwerddon.


 ********************************************


Cofebau eraill i feibion Owen Thomas

Eglwys Sant Bridget, Ynysgynwraidd, Sir Fynwy.

Claddwyd Leyton, a fu farw yn 16 mlwydd oed yn y fynwent. Trefnodd eu nain, M Newton Jackson fod plac coffa yn cael ei osod ar y mur y tu mewn i’r eglwys i’w phedwar ŵyr. Mae cofeb arall yn yr eglwys i’r Capten Owen Vincent Thomas wedi’i osod gan un o’i gymrodorion yn dilyn Brwydr y Somme, 1916. Mae eu henwau hefyd ar gofeb y pentref  lleol. Yn Ynysgynwraidd hefyd gwelir plac efydd i Robert Newton Thomas, ‘Oh for a glimpse of the grave where you are laid. Only to lay a flower at your head.’ Mother.

Yn Eglwys Sant Alban, Epping lle claddwyd Capten Owen Vincent mae plac fawr ar waelod y Gofeb Rhyfel. Ar bob ochr i fedd Owen Vincent mae ewau ei frodyr. Ym mynwent Capel Ebeneser, Llanfechell mae bedd Owen Thomas ac arno enwau ei feibion a laddwyd yn y rhyfel . Hefyd, wrth gwrs, mae eu henwau ar Gofeb Rhyfel Llanfechell.


Yn ôl i frig y dudalen


Yn ôl i brif dudalen y Gofeb


********************************************