![]() |
||||||||
Melinau Llanfechellgyda diolch i Ms Brenda Jones, Mrs Glenys Jones a'i merch Siân
|
||||||||
| Ceir 6 Melin yn yr ardal sef :- | ||||||||
| Melin Ddŵr Meddanen; Melin Ddŵr Cafnan; Melin Wynt Maen Arthur; Melin Pant y Gŵydd; Melin Cefn Coch; Pandy Cefn Coch (Melin Wlân) | ||||||||
******************************************************* |
||||||||
|
Mae Melinau Dŵr Môn yn tarddu o oes y Rhufeiniaid - Mae’r llorp yn mynd ar draws, nid ar i fyny. Ni ellir dyddio Melinau Dŵr na Melinau Gwynt yn gywir, fel Eglwysi, am fod mwy o draul ar y Melinau. |
Cliciwch ar y lluniau i'w gweld yn fwy Llun o weddillion y llorp ym Melin Ddŵr Meddanen |
|||||||
|
Llun o weddillion yr olwyn gocos ym Melin Ddŵr Meddanen heddiw
|
Fel ‘roedd y boblogaeth yn tyfu, fe wellodd y ffordd o falu. Roedd dwy garreg yn gorwedd ar ei gilydd, yr un isod a phant ynddi, ar uchaf hefo twll yn ei chanol fel bod posib rhoi handlen ynddi i’w throi. Merched oedd yn gwneud y gwaith rhan amlaf. Mae cyfeiriad at hyn yn y Testament Newydd, hefyd yng Nghyfreithiau Hywel Dda Y cam nesaf oedd yr olwyn gocos. Roedd llorp (siafft) yn mynd trwy'r garreg isaf a’i fachu yn y garreg uchaf, roedd y ffordd hon o falu yn cael ei wneud trwy ddefnyddio ceffyl neu asyn mewn harnes i gerdded o gylch y felin. |
|||||||
|
*******************************************************
|
||||||||
|
MELIN DDŴR MEDDANEN |
||||||||
|
Gwelir gweddillion o hen Felin
Ddŵr
Meddanen ar dir Bwchanan a rhed llwybr ati heibio ochr Melin Minffordd
i lawr at Afon Meddanen. Yno mae adfeilion y Felin
Ddŵr
a weithwyd, mae’n debyg, ar y cyd gyda’r Felin Wynt. Digwyddai hyn
mewn mannau eraill hefyd, gan y gellid malu grawn yn y felin ddŵr pe na
bai digon o wynt i yrru’r felin wynt, ac i’r gwrthwyneb pe bai
dŵr
yr
afon yn isel. |
||||||||
![]() Rhai o’r cerrig malu ym Melin Ddŵr Meddanen yn 1993 |
![]()
Llun o’r maen yn dangos y rhannau
|
|||||||
|
Felin Meddanen fel y mae heddiw
|
Tu mewn i’r felin heddiw
|
|||||||
![]() Yr Afon Meddanen yn llifo heibio’r felin heddiw |
Prif fynedfa Melin Ddŵr Meddanen heddiw
|
|||||||
|
Roedd cyflenwad dŵr
i droi’r felin yn dod o gronfa Pwll y Felin, agorid yr argau fel bod digon o
ddŵr
i droi’r olwyn . Yn ystod yr haf ychydig o ddefnydd a wnaed o’r Felin
oherwydd prinder dŵr
yn afon Meddanen.
|
||||||||
![]()
Llun ochr yr Afon o’r Hen Felin Ddŵr
|
Gweddillion
yr argae
|
|||||||
|
........................................................
Roedd cerrig y Melinau yn dod o chwareli Penmon, Benllech a’r
gorau o Fwlchgwyn ym Môn. Hefyd yn ddiweddarach o Ddyffryn y Rhine.
|
||||||||
![]()
|
![]() |
|||||||
|
|
||||||||
|
*******************************************************
|
||||||||
|
MELIN
DDŴR
CAFNAN Saif Melin Cafnan ar aber Afon Cafnan ym Mhorth y Pistyll, rhwng yr Wylfa a Chemlyn. Ceir son am y felin yn y 16eg ganrif, ac mae’n bosib bod melin ddŵr ar y safle ers y 13eg ganrif, oherwydd dywedir yn Stent Môn yn 1352 fod gan dref Caerdegog (a’i ‘welyau’ Cafnan a Llanddygfael) hawl ar Felin Cathaern. Credir mai Melin Cathaern oedd y felin wreiddiol ar safle Melin Cafnan. Yn 1614, rhestrir y canlynol fel melinwyr Melin Cafnan : David ap Hugh (25oed), Ednyfed ap William (35 oed), Robert ap David, a Rowland ap Robert ap David (25 oed) ei fab. Yn 1637 talodd Richard ap Hugh, Melinydd Melin Cafnan 5 swllt (25c) mewn Treth Llongau –sef yr un dreth fu’n un o achosion y rhyfel rhwng y Senedd a Siarl 1af. Cofier mai 1/- y dydd oedd cyflog crefftwr (megis seiri maen, coed neu felinydd) dros ganrif yn ddiweddarach yn ol William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell Yn ei ddyddiadur ar gyfer 1740, mae William Bulkeley yn cyfeirio at helynt a gododd rhwng dau dirfeddiannwr dros Melin Cafnan. Ar Chwefror 4ydd aeth gyda’i frawd-yng-nghyfraith, Mr Lewis, Llysdulas a Mr Lewis Morris (Custom-house Surveyor of Holyhead”, ac wrth gwrs, un o’r Morrisiaid) i arolygu’r lôn at y felin trwy fferm Cafnan. Y rheswm am hyn oedd bod John Griffith, Garreglwyd yn gwadu bod ffordd at y felin trwy fferm Cafnan, ac yn rhwystro pawb rhag mynd ati. Ar Mai 17eg, 1740, rodd Mr Lewis, Mr Bulkeley, Mr Griffith a tri tyst wedi cyfarfod i setlo mater hawl mynediad at Felin Cafnan yn yr Wylfa. Roedd gwr Garreglwyd yn honni i William Hughes, Wylfa ddweud wrtho nad oedd mynediad i Felin Cafnan drwy dir Cafnan. Aeth William Hughes ar ei lw na ddywedodd y fath beth wrtho. Ar hynny, wedi cerdded y ffordd, cytunodd Lewis, Llysdulas a Griffith, Garreglwyd i rannu cost gosod giât ym mhen y lôn, a dyna ddiwedd y mater. ...................................................
Ysgrifennodd Richard Hughes yn
Eisteddfod Cemaes yn y ddeunawfed ganrif bennill fel hyn-
|
||||||||
![]() |
![]() |
|||||||
|
Melin Cafnan – 1993 Yn ôl arolwg yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, deallwyd fod peirianwaith oedd yn y felin yn dyddio o tua 1840, ac yn gyfan i bob pwrpas ac mewn cyflwr da. Dargyfeiriwyd ffrwd y felin o Afon Cafnan, ac yna llifai dros ben yr olwyn pan oedd y felin yn gweithio - pan na fyddai yn gweithio, ail-ddargyfeiriwyd y ffrwd i redeg oddi tan yr olwyn ddŵr i lawr i lan y môr. Gellir gweld yr olwyn heddiw, ond nid oes ffrwd iddi bellach. Yn 1931, noda Lucy Williams, Caergybi (oedd yn arbenigwraig ar felinau) fod pwll y felin erbyn hynny yng ngardd y Foneddiges Violet Vivian yn Cestyll. Wrth gynllunio’r ardd fendigedig yno, dargyfeiriwyd ffrwd y felin i'r ardd i ail-ymuno ag Afon Cafnan a llifo i’r traeth dan gyfres o bontydd troed carreg. Erbyn hyn, mae Cestyll ym meddiant Yr Wylfa, a gwelir Felin Ddŵr Cafnan yn yr Ardd.
|
||||||||
![]() |
![]() |
|||||||
|
|
||||||||
|
|
||||||||
|
|
||||||||
|
*******************************************************
|
||||||||
| Melin Wynt Mechell | ||||||||
|
Mae mwy nag
un enw ar y Felin Wynt sef Melin Mechell, Melin Minffordd a Melin Maen
Arthur fel sydd i’w weld ar y mad. Saif y felin wrth ochr y ffordd ar
gyrion Mynydd Mechell. Ni wyddys dyddiad ei hadeiladu, ond nid oes son
penodol amdani yn nyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell (1734 -
1743 a 1747 - 1760), er iddo gyflogi saer melin am bymtheg niwrnod yn Ebrill
1756 am 1/- (5c) y dydd, nid oes son ar ba felin y bu’n gweithio. Yn sicr,
saif y Felin ar dir oedd yn perthyn i Stad y Brynddu. 1841 -John Parry1851 – Dim Cofnod1861 – Robert Parry1871 – Robert Parry1881 – John Parry1891 – Morgan Parry1901 – Morgan ParryYr oeddent yn arfer byw yn Nhyn Llidiart (Felin heddiw). Nid oes cofnod ar ôl hyn ond yn ôl Llyfr “Windmills of Anglesey” roeddent yn byw yn Neuadd Filwa Yn 1993 cadarnhaodd y diweddar Owen Jones Plas Brain ei fod yn cofio gŵr o’r enw Robert Rowlands yn cario i’r felin, ac yn ei chofio’n gweithio. Yn wir, o’i gartref yng Ngharreglefn fel plentyn, cofia allu gweld cyfeiriad y gwynt drwy edrych ar hwyliau Melin Mechell. Roedd Mr Jones yn cario blawd haidd oddi yno fel bachgen, ar gyfer gwneud bara cymysg (1/2 blawd haidd a ½ blawd gwyn), ac yn cofio cwestiwn Willie Parry’r Melinydd “Tolli ta talu ?”. Rhyw dro ar ôl diwedd y Rhyfel Mawr gadawodd Willie Parry a pheidiodd y Felin a gweithio. Wedi hynny, dechreuodd fynd a’i phen iddi. Yn 1929, pan wnaethpwyd arolwg ohoni hi gan Rex Wailes, roedd ei chap wedi mynd, a dim ond un hwyl oedd yn weddill arni. Er hyn, roedd y rhan fwyaf o’r peirianwaith tu fewn iddi yn dal yn gyfan. Parhaodd i ddirywio, a disgrifiwyd hi gan Dirfesurydd Sir Fôn yn 1954 fel cragen yn unig, heb do na drws na ffenestr arni. Diwedd y 70au, rhoddwyd caniatâd i’w throi’n dy annedd, a phan brynwyd hi gan deulu’r Flannery, rhoddasant nifer o ddarnau o beirianwaith i’r seiri melin oedd ar y pryd yn atgyweirio Melin Llynnon.
|
||||||||
![]()
Y Felin yn y chwedegau
|
![]() Ionawr 1982 |
|||||||
![]() 1993 |
![]() 1993 |
|||||||
|
Yn 1993 ysgrifennodd Mr Glyndwr Thomas farddoniaeth ar gyfer Felin Llynnon fel a ganlyn (gan fod rhannau o beirianwaith y Felin wedi ei defnyddio i’w hail atgyweirio). Y Felin Wynt
PENSINGRIG Wrth ymchwilio daethpwyd ar draws rhestr o hen fythynnod yn yr ardal gan Mrs Maggie Williams, Tan Rallt - a sylwyd ar le o’r enw Pensingrig yn ymyl y Felin Ddŵr (toes dim hoel heddiw, ond gwelir twmpath o gerrig ger y Giât Mochyn yn ymyl y Felin Wynt - tybed ai yma oedd ? Yn ôl y geiriadur golyga’r enw Sin - Amgylchfyd gweithgaredd arbennig a Grig - Giffrwd, sŵn isel chwithrwd. .......................... Yn ôl Cyfrifiad 1841 gwelir teulu o’r enw – John Thomas Miller/Farmer Yn ôl Cyfrifiad 1851 gwelir enw Richard Williams – Mill Carrier Gwelir carreg fedd yn Hen Fynwent Eglwys Llanfflewin gyda’r wybodaeth yma arni :- I Elizabeth Parry – Priod John Parry Melin Mechell, yr hon a fu farw Ebrill 24ain yn y flwyddyn 1857 yn 67 oed Hefyd am y dywededig John Parry yr hwn a fu farw Hydref 1af 1858 yn 76 mlwydd oed“Er iechyd adfyd a hedd - er urddas Er harddwch a mawredd Daw awr rhaid mynd i orwedd O stŵr y byd i isder bedd”
|
||||||||
| ******************************************************* | ||||||||
|
MELIN PANT Y GŴYDD |
||||||||
|
Mae Pant y Gŵydd, a enwir yn yr hen bennill “Melinau Môn” yn sefyll ar y ffordd o Fynydd Mechell i Garreglefn, ac yn yr hen ddyddiau ym mhlwyf Llanbadrig. Yn y gyfrol ‘Hyfrydwch Pob Rhyw Frodir’ fe’i camenwir fel Pant y Gŵys yn y pennill. Nid oes fawr ddim yn wybyddus am hanes y felin wynt hon, sydd yn rhan o dŷ ers talwm iawn, gan mai’r felin yw canol y tŷ! Mae’n ddiddorol, gan hynny, i gymharu’r addasiad cynnar hwn o felin wynt yn rhan o dy annedd gyda Melin Minffordd, a addaswyd yn dy yn llawer diweddarach. Credir bod y felin hon yn dyddio o hanner cyntaf y 18fed ganrif, ac iddi beidio gweithio yn gynnar yn y 19eg ganrif. Nid oes llawer o dystiolaeth ysgrifenedig i’r ddamcaniaeth, ond nid oes son amdani ar fap degwm 1844, nac ar y map ‘Ordnance Survey’ 1840, nac yn nyddiadur William Bulkeley ychwaith. Un rheswm a gynigir am iddi gael oes mor fer, ac iddi gau pan oedd melinau gwynt ar eu hanterth ym Môn o ran nifer a phrysurdeb, yw ei safle. Er bod Pant y Gŵydd, ar waethaf ei henw, yn safle uchel, gwyntog ac agored, tir sâl sydd o’i gwmpas i dyfu cnydau - sef harddwch gwyllt Mynydd Mechell gyda’i eithin, grug a chreigiau. Golygai hyn bod rhaid cario grawn o bell i Bant y Gŵydd, ac wrth i fwy o felinau gael eu hadeiladu mewn mannau mwy cyfleus, peidiwyd â’i defnyddio ac anghofiwyd amdani heblaw yn y pennill.
|
||||||||
![]() |
Melin Llynnon sydd yn malu
Pant y Gŵydd
sy’n ateb iddi
Cefn-Coch a Melin Adda:
Ond Llanerchymedd sy’n
malu ora.
|
|||||||
|
******************************************************* Talai’r Melinydd dreth i’r Tir Feddiannwr, sef Squire Buckley, Brynddu yn hanes Llanfechell.
Does dim cofnod o dreth Melin
Minffordd, ond yn 1744 cofnodir –
Richard Owen Melin y Nant
5/5 ½
Y Rheol oedd fod yn rhaid i’r Melinydd falu grawn y Tirfeddiannwr
yn gyntaf ond roedd caniatad i werthu y blawd a oedd dros ben :-
Gwelir Hen Bennill :-
Pan ydoedd newyn gynt mewn gwlad Ac angen yno’n ffynnu, Nid ydoedd raid ond troi i Fôn Yn union rhag newynu. Pa ryfedd oedd ym more son Ei galw’n Fôn Mam Cymru Cartrefai’r Melinydd wrth ochr y Felin, er mwyn iddo fod ar gael unrhyw adeg. Ni chaniateir iddo adael y Felin heb ganiatâd perchennog y Felin.
Dyma rai o’r pethau na ddylai'r Melinydd ei wneud -
Y
traddodiad oedd i’r mab ddilyn ei dad .
|
||||||||
|
|
||||||||
| ******************************************************* | ||||||||
|
|
||||||||
![]() |
||||||||
|
Dyma ran o bennill a ysgrifennodd Mr Glyndwr Thomas i’r
Melinau
Y
Twrbein Gwynt
Lle mae esgyll yn
disgleirio
Yn yr haul wrth droelli’n
chwim,
Y mae gwyrth mewn twrbein
uchel
Creu goleuni glan o ddim
!
Ond ni chreir mwy o’i
gwmpas
Un gymdeithas megis cynt
Dim ond peiriant
amhersonol
Ynon’n hymian yn y gwynt
Heddiw daeth modernwaith
gas a chodi llu Melinau
Difethwyd rhan o’n daear
las,
A’u swn sy’n drysu’n
pennau
Rhaid cofio am Felinau
gynt,
A chadw rhain o’r gora,
Gwell awyr bur, a daear
las
Na blodau lu yn marw
A gwell yw swn uwchben y
maes
Y Melinau rhaid eu cadw.
|
||||||||