Mona Marble , Maes Mawr, Llanfechell

gyda diolch i Mrs Eluned Jones, Maes Mawr

Cliciwch ar y lluniau i gyd i'w gweld yn fwy

Hen ffermdy Maes Mawr

Mae’r hanes yn gysylltiedig â fferm Maes Mawr, Llanfechell, ac yn dyddio’n ôl i hanner cyntaf y bedwaredd ganrif a’r bymtheg.

 

 

Beth yw ‘Mona Marble’?

 Diffiniad: Craig Ophicalcite o gyfres metamorphig Ynys Môn

 Ymddangosiad: Wedi ei thrin, mae’n edrych fel marmor.

 Ble mae’r dystiolaeth?                              

 Daearegol:

 

Yn y waliau-

Rhai sydd wedi sefyll am flynyddoedd maith

 

 

Rhai sydd wedi cael eu hatgyweirio neu eu codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan Bryn Owen sy’n gweithio ar y fferm.

 

 

Hen stepen drws

 

O gwmpas yr hen dŷ – ger yr hen bwmp dŵr

 

 

Mae Map 1891, a welir ar safle www.old-maps.co.uk yn dangos bodolaeth chwarel ar dir Maes Mawr, rhwng y ffermdy a chapel Ebeneser.

Yr hen chwarel fel mae’n edrych heddiw

         
 

 

         

Mae dau fath o’r graig ar gael.Dyma luniau o ddarnau mawr sydd ar y wyneb, wrth ymyl y chwarel.

 

gwyrdd

              

         piws 

Hanesyddol:

Ceir cyfeiriadau mewn dogfennau megis y ‘National Gazetteer 1868’ a

‘A Topographical Dictionary of Wales, Samuel Lewis, 1833’ sy’n sôn am Llanvechell, Llanbadrig a Cemmes(Cemmaes). Disgrifir y graig fel ‘serpentine’ a ‘verd antique’

www.genuki.org.uk/big/wal/AGY/Llanfechell/Gaz1868.html#NatGaz

www.genuki.org.uk/big/wal/AGY/Llanfechell/Gaz1868.html#Lewis

www.genuki.org.uk/big/wal/AGY/Llanbadrig/Gaz1868.html#Lewis

 Mae sôn am safleoedd eraill ar Ynys Môn, megis Rhoscolyn, Penrhosligwy a Llandyfrydog.

 Beth yw cysylltiad George Bullock â’r hanes?

Casglwyd llawer o wybodaeth amdano, a’i gysylltiad gyda Maes Mawr, gan Clive Wainwright, Lucy Wood a Timothy Stevens, a welir mewn llyfr o’r enw ‘George Bullock, Cabinet Maker’, John Murray,(Publishers) Ltd, mewn cydweithrediad â H. Blairman & Sons Ltd, Llundain, 1988.

Rydym yn ddyledus i’r diweddar Syr Kyffin Williams am gymryd cymaint o ddiddordeb yn yr hanes, a sicrhau fod cynrychiolwyr o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Lerpwl ac eraill wedi ymweld â Maes Mawr yn ystod yr ugain mlynedd olaf.

  • Prin iawn yw’r dystiolaeth am ei gefndir personol a theuluol. 
  • Ganwyd yn 1782 neu 1783
  • Yn ddyn ifanc iawn, daeth i amlygrwydd fel gwneuthurwr cypyrddau addurnedig a llefydd tân o farmor.
  • Gyda’i frawd, roedd yn berchen ar fusnesau yn Lerpwl a Llundain.
  • Erbyn y flwyddyn 1806, roedd wedi talu £1000 o bunnoedd am yr hawl i gloddio am y Mona Marble o chwarel ar dir Maes Mawr.
  • Yn 1813 sefydlwyd y Mona Marble Works yn Llundain.
  • Roedd yn ffrindiau gyda Sir Walter Scott.  
  • Bu’n rhan o drin cofadail i Shakespeare yn Stratford upon Avon, a gwnaeth gast/mold o gerflun er cof am y bardd enwog hefyd.
  • Credir iddo weithio ar adnewyddu tŷ o’r enw Hafod yng Ngheredigion.  Difrodwyd y tŷ, oedd yn perthyn i ŵr o’r enw Thomas Johnes, gan dân; a defnyddiwyd llawer o’r Mona Marble yn y gwaith atgyweirio.  (Thomas Rees, Dolaucothi Correspondence V22/6, yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth a ‘The Beauties of England and Wales.....Vol.XVIII,’  1815 pp422-423,)
  • Mae’n enwog hefyd oherwydd ei gysylltiadau â Napoleon. Comisiynwyd ef i wneud dodrefn ar gyfer Longwood House, ei gartref ar ynys St Helena. Defnyddiwyd Mona Marble fel rhan o un o’r byrddau, er enghraifft. (Angharad Llwyd, ‘A History of Mona or Anglesey’, Royal Beaumaris Eisteddfod, 1833)
  • Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn adeiladu cofgolofn i Nelson yn Lerpwl.  Gwnaeth fodel ac ysgrifennodd bamffled i gefnogi ei gais i gyngor y ddinas, ond ni wireddwyd ei freuddwyd. Tybed oedd o wedi bwriadu defnyddio Mona Marble fel rhan o’r gwaith?
  • Bu farw  yn ddyn ifanc 35 oed, yn 1818. Claddwyd ef yn St.George’s, Hanover Square, Llundain.
  • Rhestrwyd ei fusnes yn y ‘Kent’s Dictionary of London’ tan 1821

               

Beth sydd ar ôl o’i waith heddiw?

  • Mae rhai darnau enwog o’i waith wedi goroesi, ac mewn cyflwr da.
  • Drwy grantiau, sicrhawyd eu bod yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol

          e.e.                 

•The Art Fund                            www.artfund.org

•V + A Purchase Grant Fund                  www.vam.ac.uk

  • Ceir darnau o’i waith mewn amgueddfeydd a phlastai megis, Aston Hall, Canolbarth Lloegr; Sudley Hall ac Amgueddfa Gelf Walker ar Lannau Merswy; Abbotsford ar y ffin â’r Alban ac Amgueddfa Fitzwilliam, Swydd Caergrawnt.
  • Un esiampl yw’r pâr o gypyrddau sydd yn Sudley House, a wnaethpwyd yn 1816 ac a brynwyd yn 1981 am £10,000
  • Cafwyd arddangosfeydd o’i waith yn Llundain a Lerpwl yn 1988, gyda chasglwyr cyhoeddus a phreifat yn rhoi darnau sydd yn eu meddiant ar fenthyg.

Speke Hall, Lerpwl

                                         

Lluniau drwy garedigrwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

 

                                                                               

·        Bu George Bullock yn gyfrifol am adnewyddu llawer o’r dodrefn yn y plasdy yn 1811. Defnyddiwyd carreg Mona Mable i wneud y lle tân yn y Neuadd Fawr.

·        Ynghanol 90au’r ugeinfed ganrif, gofynnwyd i berchennog presennol Maes Mawr am ganiatâd i gloddio darn o’r graig, er mwyn adnewyddu’r lle tân.

·        Aethpwyd a’r darn i ystâd Cliveden yn Ne Lleogr, i’w drin, ac yna ei ddychwelyd i Lerpwl i’w osod yn ei le.

·        Ceir cofnod o’r hanes mewn dogfen yn Speke Hall.

 

 

Castell Penrhyn

  • Defnyddiwyd Mona Marble ar gyfer llawer o’r ystafelloedd yng Nghastell Penrhyn.
  • Disgrifwyd y lle tân yn y Llofft Lechi fel yr ‘un o’r mwyaf ysblennydd yn y castell’

www.nationaltrust.org.uk

( Penrhyn Castle,Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Centurion Press Ltd, Llundain, 1991)

 

Yn Lleol

  • Yn y 1950au a’r 1960au, cymerodd Hywel Owen o Fodffordd ddiddordeb mawr yn y graig a’r chwarel ym Maes Mawr.
  • Roedd yn saer maen crefftus, ac roedd  ganddo wybodaeth ddaearegol eang iawn.
  • Gwyddir iddo gael darnau o’r graig i adeiladu lle tân ym Mwthyn Pêreos, Cemlyn, i’r diweddar Hywel Hughes, llawfeddyg yn Ysbyty y Royal yn Lerpwl.
  • Cafodd plant ysgol gynradd Llanfechell yn yr un cyfnod gyfle i ddysgu am y Mona Marble a chreigiau eraill ar Ynys Môn, dan arweiniad y prifathro, y diweddar Gynghorydd Richard Jones O.B.E. Annedd Wen.