![]() |
||
FFair MechellFfair Mechell yn ôl dyddiaduron William Bulkeleygyda diolch i'r Parchedig Emlyn Richards
|
||
|
Ffair a Marchnad - yn gyffredinol Roedd perchennog, rheolwr, llywodraethwr, steward neu'r prif geidwad i bob ffair a marchnad agored i ddethol a nodi allan le agored o fewn y dref. Gwerthwyd ceffylau, cesig neu ebolion yno a rhaid oedd penodi person cyfrifol i dderbyn y doll a chadw’r un lle o ddeg o’r gloch y bore hyd fachlud haul ar ddydd ffair neu farchnad. Ceir pedwar deg swllt o gosb am unrhyw drosedd. Roedd rhaid i ŵr y doll dderbyn tal am bob ceffyl, caseg ac ebol neu eboles. Cymerir enwau a chyfeiriadau gwerthwyr a phrynwyr gan ŵr y doll a’u rhoi mewn llyfr. Roedd rhaid cael marc arbennig ar ochr chwith pob ceffyl. Roedd gwr y doll i roddi y llyfr ar gael i’r perchennog, rheolwr, y stiward y ffair neu farchnad, y diwrnod ar ôl y ffair neu’r farchnad. Os yr oedd gwerthwr neu brynwr yn ddieithr i ŵr y doll yna byddai i ofyn i ddyn cyfrifol dystio i adnabyddiaeth y dyn dieithr a nodi ei gyfeiriad yn y llyfr. Roedd y ffeiriau’n cael eu cynnal pedair neu bum gwaith y flwyddyn ar ddyddiau penodedig, gyda llawer iawn mwy o amrywiaeth yno nac yn y farchnad wythnosol. Deuai marchnatwyr o Loegr yno. Roedd y ffeiriau wythnosol yn hanfodol i brynwyr yr Ynys- i brynu gwartheg a cheffylau a hefyd bwydydd i’r gegin a dilladau. Roedd William Bulkeley yn prynu yn rheolaidd yn Ffair Llanfechell a Llannerchymedd. Byddai rhai marchnatwyr fel Abraham Jones Y Siop yn mynd i Ffair Wrecsam (oedd ymlaen am naw diwrnod) ac yn crwydro cyn belled â Chaer lle ceid masnachwyr llieiniau o Iwerddon, masnachwyr cotwm o Fanceinion, gwneuthurwyr neu gyfanwerthwyr o Lundain, Nottingham, Birmingham a Sheffield. Roedd y Ffair i rai yn dipyn o hwyl ac yn parhau tan oriau man y bore.
Yn anffodus, nid oes gennym luniau o'r hen Ffair Mechell ond mae lluniau o ddwy farchnad arall ym Môn yn yr un cyfnod wedi'u cynnwys. Os oes gan rywun lun o Ffair Mechell o'r cyfnod yma, neu wybodaeth am lun, buasem yn ddiolchgar os cysylltwch â ni.
|
||
|
Dyddiadur Ffeiriau (a phellter rhai o Lundain) 1. Aberffraw (263). Mawrth 7fed, Ebrill ar ôl y Drindod, Rhagfyr 11eg (gwartheg). 2. Amlwch (264). Tachwedd 12fed (g (gwartheg). 3. Biwmares (249). Chwefror 13eg, Iau, Medi 19eg, Rhagfyr 19eg (gwartheg). 4. Llannerchymedd (259). Chwefror 5ed, Sant Marc Mai 6ed, Iau ar ôl y Drindod (gwartheg). 5. Llanfechell. Awst 25ain, Tachwedd 5ed, Tachwedd 26ain (gwartheg). 6. Niwbwrch (257). Mehefin 22ain, Awst 10fed a 21ain, Medi 25ain, Tachwedd 11eg (gwartheg) 7. Pentraeth. Llun Mai 5ed, Gwener ar ôl y Drindod, Awst 16eg, Hydref 3ydd, Tachwedd 12fed (gwartheg). 8. Porthaethwy. Awst 26ain, Medi 26ain, Hydref 24ain, Tachwedd 14eg (gwartheg). |
Ffair Y Borth Cliciwch ar y llun i'w weld yn fwy
|
|
|
Marchnad Biwmares Dyma gip yng Ngeiriadur Topograffig Lewis ar farchnad ym Miwmares- Mai 2ail a Rhagfyr 19eg, Stondinau Bwtsieriaid 13 Stondinau Cryddion 14 Byrddau Gwerthwyr Pysgod 3
Yn 1826 symudwyd y farchnad i Stryd yr Eglwys. Daeth y farchnad yn eiddo dinesig yn cael ei rheoli gan Bwyllgor o’r Cyngor . Pennwyd arolygwr ac ef a gasglai’r doll. Roedd Bwtsieriaid yn talu un neu ddau swllt, yn dibynnu ar faint y stondin a nifer y bachau. Roedd cryddion a stondinau pysgod yn talu tair ceiniog a stondinau eraill un geiniog am bob llathen sgwâr. Yna un geiniog y dydd am bob basged, hamper neu gawell o ieir, ymenyn, wyau, blawd a thatws. Roedd cosbau trwm am dwyll gan y gwerthwyr a doedd dim caniatâd i fwtsieriaid adael perfedd ar ôl. Doedd hi ddim mor drefnus ym mhob tref neu bentref ac roedd trefi mawr fel Caernarfon, Bangor a Chaergybi yn cael marchnad dan do. Ffermwyr oedd y rhelyw, yn gwerthu eu cynnyrch- menyn, caws, wyau, cig a llysiau. Roedd yno grefftwyr hefyd- cryddion, teilwriaid, gofaint a basgedwyr.
|
||
![]() Ffair LLannerchymedd Cliciwch ar y llun i'w weld yn fwy
|
Fe ganiatawyd marchnad i Lannerchymedd yn 1658, marchnad wythnosol ar ddyddiau Mercher a phum Ffair flynyddol -Mawrth 24ain, Ebrill 25ain, Awst 14eg, Medi 20fed a Thachwedd 2ail. Roedd ansawdd y marchnadoedd yn gyfnewidiol- cf Ebrill 5ed, 1734 ’Marchnad wael yn Llanfechell, 7 neu 8 myn gafr, digon o ŷd, bara, ymenyn a halen.’ Gorffennaf 25 1735, Llanfechell- ‘heyrn, lledr, sodlau esgidiau, gwartheg, gwaith saer, ysgolion, Pedleriaid a Marchnatwyr hapus.’
|
|
|
Siopau a Siopwyr Sir Fôn Ychydig o siopau oedd ym Môn yn y Ddeunawfed ganrif. Doedd yma ddim diwydiannau, amaethyddiaeth oedd prif ddiwydiant yr Ynys. Roedd ansawdd bywyd cefn gwlad yn isel iawn, rhyw grafu byw oedd hi. Roedd rhaid crwydro’n bell i’r siop agosaf. Roedd y farchnad yn bwysig iawn i ddod a chynnyrch at y werin. Nid yn unig y ceir bwydydd yno ond dilladau a phethau tŷ. Yr oedd Llanfechell yn ffodus iawn gan fod siop y pentref gan Horasham Jones yn storus iawn o reidiau’r tŷ. Roedd pum siop yn Llannerchymedd. Collodd y siopau eu lle pan ddaeth y farchnad wythnosol. (Tebyg i’r Archfarchnad heddiw).
Pedleriaid Gwnaeth y Pedleriaid fusnes da yng Nghefn Gwlad Môn drwy’r Ddeunawfed Ganrif. Eto ychydig iawn y gwyddom amdanynt. Roedd pobl cefn gwlad a oedd yn byw mewn llefydd pell ac anghysbell yn dibynnu arnynt. Roedd disgwyl eiddgar amdanynt, mwy am y newyddion na’r negeseuon. Byddai’r Pedler o’r Gogledd yn delio mewn gwlanen a llieiniau, pob math o ddilladau yn ogystal â ‘haberdashery’- dillad rhad hwn oedd y mwyaf poblogaidd ond roedd y rhain yn amhoblogaidd iawn gan y siopwyr. Prynai William Bulkeley yn gyson ganddynt. Mae enghraifft ohono yn rhoddi chwe swllt i Bedler i brynu hadau iddo yn Shrewsbury.
|
||
|
William Bulkeley a’r Ffair yn Llanfechell Gweler y cyfeiriadau yn y Dyddiaduron-
http://bulkeleydiaries.bangor.ac.uk//index.html
|
||
|
1734 cf Mehefin 26ain Yng Nghemaes heddiw yn nofio yn y môr gwario 3d ar gwrw. Y farchnad yn llawn heddiw yn Llannerchymedd. Cefais chwarter o gig dafad o Lannerchymedd am 15d. Wedi prynu gwell peth yma am 6d dim ond o angenrheidrwydd y byddaf yn prynu cig yno. Gorffennaf 12fed Prynais yn Ffair Llanfechell chwarter o gig dafad am 15d gan Shadrach Evans llawer mwy a thewach nac a gefais yn Llannerchymedd. Gorffennaf 25 Ffair wael iawn am wartheg yn Llanfechell heddiw ond digon o bopeth arall yno. Awst 8fed Ffair dda yn Llanfechell heddiw- prynais ochr o ddafad fechan ieuanc am 9d a chwarter o Rock Venison mawr a thew am 8d. Medi 18fed Y Farchnad yn Llannerchymedd heddiw i lawr o'r wythnos diwethaf, yr haidd o 12 i 14d ... y rhyg o 18 i 19d... a'r gwenith o 26 i 28d Medi 20fed Ffair dda yn Llanfechell. Prynais chwarter o gig dafad am 10d, talais 3d am bysgod, 3d am gwrw. Tachwedd 15fed Ffair dda yn Llanfechell, prynwyd mwy o wartheg nag erioed, talu 2s8d am ochr o gig dafad. Tachwedd 20fed Mynd heddiw i Ffair yn Llannerchymedd sydd wedi'i sefydlu tua 13 mlynedd yn ôl, yn cynnal Ffair yma bob dydd Mercher o ddydd yr Holl Saint i'r Nadolig . Tachwedd 21ain Prynu …… gan John Rowlands, Trwyn Melyn pum galwyn o Rum Brandy a ddaeth o Ynys Manaw am 4s6d y galwyn. Tachwedd 24ain Anfonais William Davies i Ffair Gaernarfon (sydd fory) i brynu brethyn i mi i wneud siwt Aeaf.
1735 Ebrill 2ail. Mewn marchnad yn Nulyn, dros y dŵr. Pob math o bysgod yno, digon o gig a ffowls. Cig eidion yn ddrud iawn. Mehefin 8fed Oer iawn, mor oer roedd rhaid i ni wneud defnydd o dân yn y neuadd. Mehefin 27ain Ffair dda yn Llanfechell heddiw. Cawsom newyddion o Ffair Gaer fod prisiau gwartheg a cheffylau yn uchel iawn. Awst 15fed Ffair gig dda yn Llanfechell heddiw. Awst 27ain Ffair Llannerchymedd yn debyg i wythnos diwethaf, digon o benwaig, 7 neu 8 am 1d. Medi 15fed. Y porthmyn yn Ffair Niwbwrch yn gyfrwys eu ffordd. Ymuno efo’i gilydd a pheidio prynu’r un fuwch nes ei bod yn tynnu am 3pm pan oedd pawb yn troi eu gwartheg am adref, yna'r porthmyn yn prynu am £6 i £9 y par. Medi 25ain William Bevan, Groes Fechan, John ab William Lewis, Nanner gydag Owen Pritchard, Plas Ynghemlyn yn cyfarfod yn Llanfechell i dderbyn ceffylau yr oeddent wedi’u prynu yn Ffair Caer – oddeutu 40 o geffylau.
1736 Mawrth 17eg Mynd i Ffair Llannerchymedd heddiw, y farchnad yn debyg i'r wythnos diwethaf, wedi talu 5d am hadau i'r ardd 3d am hanner owns o hadau cennin, gwerth 2d o hadau letys, wedi talu 10d am gig a diod. Gorffennaf 14eg Ffair geffylau mawr yn Llannerchymedd i brynu ar gyfer Ffair yr Wyddgrug, llawer o geffylau ar werth ond digon cyffredin oeddynt a'r prisiau yn wael. Awst 14eg Ffair wael iawn yn Llannerchymedd o ran rhif a chyflwr, y rhan fwyaf o'r bustych wedi eu prynu yno o 7 i 8 bunt y par . Heffrod blwydd 15s - 22s yr un. Yr un gwartheg £10 y par llynedd, £8 eleni. Hydref 29ain. Mynd i Gemaes – prynu llwyth o goed. Rhagfyr 24ain Lladd llydnod a mamogiaid at ddefnydd fy hun ac i’w rhannu a’r tlawd.
1737 Ionawr 25ain Ffair newydd heddiw yn Llannerchymedd, yr un cyntaf i'w chynnal ar y diwrnod yma. Awst 15fed Dyma’r ffair waethaf a fu yn Llannerchymedd erioed. Nesaf peth i ddim yn cael eu gwerthu a’r hyn a werthwyd am bris isel iawn. Medi 13eg Ffair Niwbwrch fory. Llawer iawn o wartheg o’r ardal yma wedi mynd yno ond gan fod y Porthmyn wedi prynu’r gwartheg gorau ar hyd a lled y wlad ni fydd llawer o brynu yno.
1738 Chwefror 3ydd Ffair wael iawn yn Llanfechell, heddiw am gig dim ond un llo yn y farchnad ond roedd yno flawd, halen, bacwn, wyau digonedd. Mawrth 6ed Wedi plannu hadau nionod heddiw am y tro cyntaf. Talu i Abraham Jones, siopwr yn Llanfechell fil o £2 16s Gorffennaf 25ain Ffair wych yn Llanfechell heddiw am frethyn lliain a gwlân, pedleriaid , cryddion…….ayyb ond ychydig iawn o wartheg. Gorffennaf 30ain Wedi anfon 6 bustach i Henblas ar gyfer Ffair Aberffraw fory. Hydref 25ain Ffair dda yn Llanfechell- gwelwyd mwy o wartheg nag a welwyd erioed yno a llawer wedi eu gwerthu am bris uchel iawn- 2 fustach dyflwydd oed yn gwerthu am chwe phunt a phum swllt. Rhagfyr 1af Wedi talu 5d am faip yn Ffair Llanfechell.
1739 Awst 14eg Ffair dda yn Llannerchymedd, gwerthu gwyllt o 8 yn y bore i 4 y prynhawn a phrisiau da. Rhagfyr 5ed Wedi talu 7d am chwe par o gewyll tail.
1740 Mehefin 3ydd Wedi cerdded i Gemaes tua 11 i Ffair Goed, wedi prynu yno 28 o estyll onnen am 10s 8d a thalu 5s am 5 par o gewyll mawn a 6d am eu cario adref, 3d am gwrw. Awst 6ed 2 o fy ngweision wedi mynd gyda’r gwartheg a werthwyd yn Ffair Aberffraw i Borthaethwy i gwrdd â’r Porthmon.
1741 Chwefror 6ed Ffair lawn heddiw yn Llanfechell. Wedi talu 12s yn llaw Katherine Williams, gwraig Humphrey Mostyn i brynu gwin i mi yn Lerpwl. Wedi gwerthu gwerth 5d o ffa ym Marchnad Llanfechell heddiw. Mawrth 27ain Marchnad wych yn Llanfechell-cig, pysgod, cnydau ayyb ond roedd cig y bwtsiar o bob math yn ddifrifol o wael. Y gwartheg yn newynog……y rhan fwyaf o bobl wedi gorfod troi eu gwartheg allan yn barod. ( Credai fod tua 1/3 o wartheg a cheffylau’r sir wedi marw erbyn hyn gan nad oedd porthiant i’w gael oherwydd yr Haf sych). Awst 1af Roedd Ffair Aberffraw ddoe yn eithriadol o dda. Hydref 16eg Ffair eithaf llawn yn Llanfechell heddiw. Wedi talu 15s i Shadrach Evans heddiw am ochr o gig eidion a’r pen … a 3d am faip. Tachwedd 13eg Marchnad eithaf llawn yn Llanfechell heddiw. Wedi talu 14s am 2 alwyn o fenyn at y gaeaf …… a 4s 6d am benwaig.
1742 Mawrth 5ed Dim cig yn Ffair Mechell heddiw, yn wir fu dim cig ers 6 wythnos a’r ychydig yn Llannerchymedd yn ddrud. Dau aeaf caled wedi gwneud pob cynnyrch yn brin a drud. Ebrill 14eg Wedi lladd heffer ar gyfer gwyliau’r Pasg. Anfonais syrlwyn i’r Person, brisged i Tom Morris o Rhydygroes, a chloren i Dick Williams o Garrog. Ebrill 17eg Heddiw clywais y gog am y tro cyntaf eleni a gwelais y wennol gyntaf. Mehefin 17eg Ffair wael yn Llannerchymedd heddiw, ychydig o bobl a gwartheg. Medi 21ain Ffair dda iawn yn Llannerchymedd gyda llawer o brynu . Wedi talu 25s am 5 galwyn o frandi Ffrengig i smyglwr o Sir y Fflint a ddaeth i Gemaes o Ynys Manaw. Hydref 25ain Ffair dda iawn yn Llanfechell, llawer iawn o wartheg yn cael eu prynu a’r prisiau’n dda. Wedi talu 6d am gnau.
1743 Chwefror 14eg Dim, neu ychydig o law ond edrychai mor debyg i law fel mai ychydig o bobl ddaeth i Ffair Llanfechell heddiw, y gwaelaf a welais erioed. Chwefror 25ain Wedi talu 1s am bar o gwningod , dim cig ym marchnad Llanfechell heddiw.
1747 Hydref 14eg Roedd Ffair Porthaethwy ddoe yn wael iawn, dim Porthmyn yno nac yn Aberffraw y diwrnod cynt. (Hyn o ganlyniad i haint yn Lloegr. Ffeiriau yn Lloegr wedi cau ers 2 flynedd a’r Porthmyn yn cael eu dal am amser hir ar eu ffordd i Gymru).
1748 Mawrth 10fed Rhoi 10s 6d i Gabriel Jones i brynu had meillion yn Ffair Wrecsam. Gorffennaf 25ain Ffair wael yn Llanfechell heddiw gan nad oedd gwartheg yno. Wedi rhoi 1s i ddyn tlawd a gafodd golledion efo’i wartheg. Hydref 25ain Ffair llawn iawn yn Llanfechell heddiw ond ychydig o brynu. Wedi talu 1s am afalau a chnau i fy mhobl ar noswyl gŵyl yr Holl Saint.
1749 Mehefin 7fed Wedi anfon deg ‘piget’ o ryg i Gemaes i’w roi ar gwch i fynd i Gaernarfon ar gyfer marchnad dydd Sadwrn nesaf. Medi 21ain Digonedd o wartheg yn Ffair Llannerchymedd a llawer o heffrod wedi eu prynu yno ond am bris llai nag arfer ac ychydig o ych o unrhyw fath wedi eu gwerthu yno.
1750 Mawrth 17eg Mabsant Llanbadrig heddiw a math o ffair lle gwerthwyd brethyn gwlân a lliain, esgidiau, hetiau ayyb a digonedd o bobl yno a gweision o bob math yn cael eu cyflogi. Mehefin 14eg Ffair Bangor. William Davies wedi gwerthu wyth o fy mustych am chew phunt yr un, rhoi 10s yn ôl fel rhodd ac 8s6d am y gost o’u cludo i’r Ffair. Tachwedd 2ail Ffair wael yn Llannerchymedd heddiw, ychydig o wartheg yn cael eu gwerthu ac am bris isel.
1751 Chwefror 14eg Ffair llawn iawn yn Llanfechell heddiw lle gwerthwyd brethyn, lliain a gwlân, hetiau , esgidiau a menig ....a hefyd ceffylau. Ebrill 25ain Ffair dda yn Llannerchymedd ond dim llawer o wartheg da yno….. William Jones wedi prynu fy neg o fuchod bychain am 64 punt. Mehefin 6ed Ffair eithaf da yn Llannerchymedd heddiw… wedi talu 2s6d am het ‘Carolina’ i ferch Mrs Williams o Cemlyn a fu’n anffodus i golli ei het yn fy nhŷ i yr wythnos diwethaf. Gorffennaf 25ain Roedd y farchnad yn Llanfechell, fel arfer, yn llawn o gynnyrch y Sir …brethyn gwlân a lliain, hetiau, esgidiau, sanau, menig..
1752 Tachwedd 27ain Ffair fechan o wartheg yn Llanfechell…wedi talu 4d am bysgod a 1½d am fotymau crys.
1753 Chwefror 26ain Ffair Llanfechell yn cael ei chynnal heddiw yn yr hen drefn (gan fod 25ain yn ddydd Sul) roedd yn llawn iawn o bobl a nwyddau y pedler. Mawrth 14eg Wedi gwerthu wyth o fustych i’r partneriaid Samuel a Payne o Wrecsam am bum deg tair punt… derbyniais dair punt a’r ddeg ac am dderbyn y deugain punt wedi eu danfon i Borthmadog erbyn y 23ain Ebrill: wedi rhoddi 1s iddynt i dalu’r fferi. Gorffennaf 2ail Wedi rhoddi 36swllt i Elisabeth, merch Abraham Jones sydd yn mynd i Ffair Gaer i brynu siwgr i mi a phethau eraill : wedi rhoi 1d o elusen i ffermwr tlawd sydd wedi colli buwch. Tachwedd 5ed Ffair llawn iawn yn Llanfechell heddiw gyda phob math o wartheg ond ychydig yn gofyn a llai’n cael eu prynu nac mewn unrhyw Ffair yn yr 20 mlynedd diwethaf.
1754 Mai 6ed Wedi rhoddi 6d i weision a safodd gyda fy ngwartheg yn Ffair Llannerchymedd nes iddynt gael eu gwerthu a'r porthmon wedi eu derbyn.
1755 Ebrill 4ydd Ffair Llannerchymedd, clywais fod rhyw ddihiryn yno yn cyhoeddi fod Ffair Llanfechell i’w chynnal yn Llanfechell yn flynyddol ar 1af Mai. (WB ddim yn cytuno gan fod digon o ffeiriau’n cael eu cynnal yn barod.) Mai 6ed Wedi talu 7s o gyflog gaeaf i Ellen Edward …….. a 6d i weision a gyflogwyd yn Ffair Llannerchymedd heddiw.
1756 Mehefin 25ain Ffair dda iawn ym Mangor heddiw. Tachwedd 26ain Y gwynt yn chwythu'n gryf, yn dywyll a chymylog ac yn bwrw trwy'r bore a'r rhan fwyaf o'r nos ac yn gyffredinol yn galed iawn fel nad oedd ond Ffair fechan heddiw yn Llanfechell.
******************************************************
|
||