Addysg

Cartref

Cegin Filwr

Anglesey Trading Company

Cyfweliadau

Brynddu a Dyddiaduron William Bulkeley

Eglwys

John Elias

Ffair Mechell
Maes Mawr
Coeden
Melinau
Yr Oriel
Syr Owen Thomas
Y Feddanen a'r Wygyr
William Jones, Mathemategydd

Brynddu a'r Herwlongwr, Fortunatus Wright

Jôs y Crown
Cofeb Llanfechell
Capeli Llanfechell
Ôl cnydau yng Ngharrog

 

 

Hanes Llafar ar Gof a Chadw

***********************

Y diweddar  Mr Owen Jones, Plas Brain

Y diweddar  Mrs Maggie Jones, Tegfan 

   

**********************************

 

 

 Y diweddar Mr Owen Jones, Plas Brain

 

 

 

Rhan o sgwrs a recordiwyd ar fideo gan Mr Ifan Parry
 

        Hanes Y fuwch (Air am air yn nhafodiaeth Mr Owen Jones)

Roedd awydd gen i ‘rioed o gael buwch ddu Gymreig a rhyw ffordd neu i gilydd fedrwn i
ddim ei fforddio yn un peth , ond yn ei chael yn dda iawn!
Pa ‘run bynnag am hynny roedd hi’n ystod y rhyfel a pwy oedd yn gweithio ar ei wyliau, yn
ystod y gwyliau haf , ond Ifor Bryn Ffynnon.
Mi roedd o’n Swyddog Amaeth yn Sir Feirionydd ar y pryd.
A roedd o’n gweithio yn Llanddygwal Hir a wir roeddwn i’n gwneud rhywbeth dros y clawdd
iddo fo a dyma gael sgwrs a dyma fi’n dweud wrth Ifor, tasa ti’n digwydd dod ar draws
rhyw fuwchan bach fasa’n gwneud fy nhro i heb fod yn ddrud iawn yn fancw nei di adael i mi
wybod.
Gna i mewn munud medda fynta.
 
A wir i chi pen rhyw fis daeth na lythyr yn dweud fod na fuwch, heffar a llo a llo tarw
ar werth yn Cefn Gellgwm, Trawsfynydd. Wel rŵan roedd hon yn broblem i mi. A beth
bynnag dyma gael gair  efo y diweddar, erbyn hyn, Richard Jones, Penygroes a Huw Huws
Rhyd Beddau a dyma ni’ll tri’n penderfynu mynd i Drwasfynydd.
 
Wel rwan roedd hi’n amser rhyfel a rasions petrol. Cwpons.
Roedd gen i fan bach yn mynd a llefrith i’r Llan ac yn cael cwpons. I ddweud y gwir roeddwn
nhw’n ddigon prin. Doeddwn i’n mynd i rwla’n byd ond at ‘ngwaith a Currie Hughes yn cael
bob un gen i.
Beth bynnag i chi dyma benderfynu mynd i Drawsfynydd ar ddydd Llun, rhyw ddydd Llun
neilltuol a rhyw deimlo am mai fi a gychwynnodd y peth dylwn i morol dipyn am y petrol.
Rhyngddo ni’ll tri doedden i ddim yn medru mynd i Drawsfynydd.
 
Wel doedd na ddim ond mynd at Currie
Dyna fynd yno rhyw nos Wener. Roedd o yn y gell, rhyw offis bach.  Mai Plas Brain medda
fo wrtha i. Rwan ta dyma ofyn iddo.
Hoples Plas Brain. Hoples Plas Brain. Dim gobaith
Wel dyma fi dipyn yn ddigalon rwan. Dyma fi’n cychwyn at y drws ac yn sydyn dyma fi’n
troi’n ôl. Currie medda fi, fedrwch chi wneud hefo cyw iâr?
Ym medda fo wrtha i. Hen un medda fo ? Hen un medda fo wrtha i.
Diawl medda fi. Fuaswn i ddim yn ei alw’n hen. Fuaswn i ddim yn ei alw’n gyw tasa fo’n hen.
Barod i’r popdy, medda fo?. Ia medda fi. Ol reit chief! Ol reit!
 
        Dyma fi adref. Dyma fi i’r cwt ieir, tro ar gorn y cocrel a’i bluo fo. Dyma fi a fo i’r tŷ. Y
wraig yn ei drin o yn barod erbyn drannoeth.
Dyma fi a fo i’r Llan. Pa bryd da chi am fynd medda fo wrtha i. Dydd Llun medda fi.
Dyma daro ar Huw Huws. Wel medda fi tyrd a jar dau alwyn yn y car.
 
Beth bynnag i chi. Dydd Llun yn dŵad. Dyma dynnu i fyny wrth y pwmp. Car Huw Huws oedd
o. Dyma dynnu i fyny at y pwmp.  Faint ydych chi eisiau chief medda Currie wrtha fi.
Wel dwn i ddim, hynny sydd i’w gael. Dyma lond y car a llond y jar a dyma ni’n iawn am
Drwasfynydd.
 
          Landio yn y pentref a holi lle roedd Cefn Gellgwm. Reit doedd o ddim yn bell o’r pentref.
Cinio first class. Cofiwch chi roedd pawb ar rasions. Pa ‘run bynnag, gawson ni ginio first
class. Ar ôl cael rhyw sgwrs dyma ni i weld y gwartheg.
A’r cyfnod hwnnw roedd y Llywodraeth am ddwyn tiroedd yn y daran yma i wneud rhywbeth
hefo’r army  neu wersyll neu rhywbeth a mi roedd y ffermwyr yn gwrthwynebu’n arw.
Duwch mi ddois i’r penderfyniad mai na hen dir gwael oedd o, mwyndir a grug ac eithin a
brwyn oedd o a dyma fi’n dweud wrth Mr Jones oedd o. Duwch medda fi fuaswn i ddim
llawer balchach o gael madael a hwn medda fi.
Dyma fo’n sefyll yn stond a troi ataf fi. Yng nghartref i ydy o’n te Mr Jones. Ylwch chi
roedd o wedi i lladd hi. Roedd o wedi i lladd hi. Bu jyst i mi droi’n Genedlaetholwr y funud
hwnnw.  Ac yr oedd un peth yn siŵr i chi, roeddwn i wedi prynu’r fuwch heb ei gweld hi.
Oeddwn. Fedrwn i ddim llai na hynny. Pa ‘run bynnag dyma brynu’r fuwch. Mi ddaru Richard
Jones brynu’r heffar a’r llo, nace y llo tarw.  Dyma Huw Huws yn prynu’r  heffar a’r llo
 
        Dyma ni adra. Y trefniadau oedd iddo fo roi’r gwartheg ar y trên yn Ffestiniog a dyma gael
gwybod pa bryd y buasa nhw’n landio’n Rhosgoch. Ar trên chwech. Cofiwch chi roedd hi’n
blackout, bob man yn dywyll o’ch cwmpas chi. Ac roedd rhywun hefo golau, roedd yn beryg
bywyd.  Pa ‘run bynnag roedd yn rhaid cael golau i dywys gwartheg yn y gaeaf. Roedd hi tua
Glan  Gaeaf fforna.
Beth bynnag i chi dyma ddod dros yr anhawster honno. Roedd tad Huw Huws, Robat Huws,
Cemlyn Bach yn dod hefo lantarn stabal i Rhosgoch a dyma gychwyn am y cartref
a Robat Huws hefo’r lantarn o’n blaenau ni. Fi oedd agosaf iddo fo a’r lleill yn dod ar fol i.
Roedd y fuwch yn twllu’n first class.
Roedden ni’n dod yn iawn a rhyw ddau gar ddaeth i’n cwr ni.
Roedden ni’n dod yn iawn nes i ni ddod at Monfa a dyma  gar yn dod o ochr y mynydd na
fel cath i gythraul. Mi roth y brecs beth bynnag a mi stopiodd.  Pwy oedd o ond Rees Huws,
Person Llanfechell ‘ma ar y pryd. Doedd dim nes erioed i ddamwain ddigwydd. Ond dwn i
ddim mai’r ffaith ei fod o’n berson ddaru i achub o pa 'run bynnag . Pa 'run  bynnag doedd neb
ddim gwaeth.
 
Wel na ni. Fi oedd yn gadael y fintai gyntaf am Blas Brain, Richard Jones wedyn, Huw Huws
wedyn.
A dyna i chi hanes y fuwch.

           Diolch i deulu Mr Owen Jones ac i Mr Ifan Parry

 

Yn ol i frig y dudalen 

**************************************************

 

   

 

 
Crynodeb o sgwrs a recordiwyd gan Ms Linda Jones, wyres Mrs Maggie Jones pan oedd ei nhain yn 95 oed

Geni 1912 Mai 17  - Tan Graig Llanddeusant

10 mis oed - Tŷ Newydd, Mynydd Mechell

4 oed - Babell, Mynydd Mechell – 15 oed (allan i weithio)

1939 - Priodi Owen John Jones, Bron Mynydd (Mynydd Mechell) yn y Fali

Mynd i Iwerddon adeg rhyfel (Liludock Belfast – allan yn y wlad)

Genedigaeth i’w merch gyntaf yn 1942 a dod yn ôl i Landdeusant 3 mis wedyn lle ganwyd eu hail ferch cyn symud i Tralee i fyw lle ganwyd mab ac un ferch arall

Byw yn Maes Y Plas ers 1951

 

Ysgol Llanrhuddlad - (well nag Ysgol Llanfechell bryd hynny) cerdded dros y caeau (milltir a hanner) heibio Llanfflewin & Bodegri yn bob tywydd (haf poeth, gwynt, glaw ac eira yn y gaeaf)

Ysgol “strict” a chael “cane” os yn hwyr yn cyrraedd.  Ymadael Ysgol yn 14 oed

Tan glo yn yr ysgol hefo guard mawr o’i gwmpas

Dim cinio ysgol pawb yn mynd a brechdan a diod o lefrith hefo nhw

 

Capel Jeriwsalem, Mynydd Mechell - pawb yn cerdded i’r capel - llond lôn

Pawb yn mynd i gapel, (seiat, band of hope a chyfarfod gweddi) doedd dim byd arall i neud nac i fynd

Pawb ers talwn hefo dillad dydd Sul - newid ar ôl Capel ac os yn mynd tair gwaith ar y Sul - newid bob tro (yr un wisg a het - genod i gyd yn gwisgo het)

Dim trip Ysgol ond cofio trip Ysgol Sul - mynd i Fiwmares (school room capel) pawb yn mynd a bwyd hefo nhw torth frith a brechdanau (13 oed)

 

Pen-blwydd - dim rhyw ddathlu fel rŵan - lladd mochyn i gael bacon

Cig ffres bob dydd Sul. Beef oedd gan mam rhan fwyaf

Cwningen lot fawr

A chrempog ar ben-blwydd pob amser, byth teisen

 

Gwaith 15oed mynd i Benmaenmawr - dilyn chwaer oedd yn gweithio yno yn barod

Gweini mewn tŷ (pobl Gwredog Amlwch) am 4 blynedd

Wedyn 6 mlynedd yn Llanfairfechan cyn dod adra i Lwyn Ysgaw, Mynydd Mechell (mam yn sâl)

£3 y mis o gyflog (cael bwyd a lodging yn y gwaith)

Pawb yn hapus

Mynd allan 1 waith yr wythnos i’r pictiwrs

 

Llanfechell  Dim ond 1 person yn siarad Saesneg yn y pentref ers talwm

 Doedd dim llawer o dai

Maes y Plas lle mae hi nawr yn byw cae oedd yna fel pob stad o dai rŵan

Doedd dim llawer o ddim byd i blant chwarae  - pêl a gwneud tŷ bach yn defnyddio pethau di torri - doedd dim llawer o ddoliau

 Dim bws am flynyddoedd i fynd i unrhyw le a doedd dim llawer o geir chwaith

Y cyntaf i gael car oedd Hughes-Jones Bryngwyn wedyn Miss Jones Twll Clawdd & Miss Thomas Ucheldra Goed

 Cael lectric am y tro cyntaf yn 1955

Cario dŵr yn Tralee o’r ffynnon dros y ffordd (ond dim yn yr haf - rhy sych) felly mynd i Tyddyn Waen -cario bath bach rhwng dau a bwced yr un yn y llaw arall

Cael dŵr ym Maes Y Plas pan yn symud yno yn 1951 - newid garw

Llanfechell wedi newid yn aruthrol - lot mwy o dai yma - stadau a thai preifat

 

Siopa - Pentwr o siopa ers talwm

Penllyn, Mynydd Mechell yn gwerthu popeth (blawd i anifeiliaid)

Siop yn Stores, Crown, Post a Mrs Williams yn Siop Isfryn, Siop Blackshaw, Backhouse a Glanrafon

Bwtchar a becar yn dod o gwmpas - does dim byd rŵan

Coginio lot - bara ond does neb wrthi rŵan hefo llaw

Llond gardd o lysiau ym Maes Y Plas (tatws, moron, tomatos, ciwcymbr, nionod, letys, riwbob, gwsberis)

Rhan fwyaf o bobl hefo buwch neu ddwy ac yn corddi a gwneud menyn

Siopa yn Amlwch am ddillad (Yr Afr Aur - 2 frawd - tad Eirlys Tai Hen)

Esgidiau – siop yn Llanfechell - teulu yn byw yn Pengroes (wrth yr Eglwys)

Gweu lot - gweu popeth - ‘chydig o wnïo

Y gŵr oedd yn mynd allan i weithio - ‘chydig iawn o ferched oedd yn gweithio

Y gŵr wedi gweithio hefo  Crossville, hefo Blackshaw’s trwy Trewan (awyrlu y Fali), casglu wyau o’r ffermydd wedyn gweithio yn Wylfa cyn ymddeol

 

Y newid mwyaf yn Llanfechell -Tai, Siopa

Iaith - byth yn clywed Saesneg ers talwm, pobl ddim yn medru ei siarad, doeddwn i byth yn clywed Saesneg pan yn blentyn

Amser distaw, dim llawer o ddim byd yn digwydd, pawb yn brysur yn ei fywyd ei hun jyst yn byw

Roedd plismon yn byw yn y pentref ac yn mynd o gwmpas ar ei feic, wedyn motobeic

Roedd 'Truant Officer' yn mynd o gwmpas ar fotobeic hefyd - roedd o’n byw yn Awelfryn ac yn cofio fo’n dod i gapel Libanus i ganu

Oes 'saff',  doedd neb allan yn y tywyllwch, dim fel heddiw

Doedd plant byth yn bell

Pawb yn nabod ei gilydd a phawb yn y pentref yn ffrindiau - lot o bobl ddiarth rŵan

 

 Mis Medi 2007 - Llywydd Capel Jeriwsalem Mynydd Mechell

 6 wyres 2 o wyrion

9  o orwyrion (5 o fechgyn, 4 o genod)  – “dwi’n gyfoethog iawn”

 

 Beth fuaswn i’n hoffi ei wneud – hedfan i Gaerdydd o'r Fali!

(diolch i Mrs Jones a Linda)

Yn ol i frig y dudalen