![]() |
||||||||||||
|
gyda diolch i Mr Wyn Rogers a Mrs Liz Rogers, Coeden |
||||||||||||
|
||||||||||||
|
Cyflwyniad Wedi ei leoli ar gyrion Llanfechell, sefyll Fferm Coeden ar ei phen ei hun ynghanol coed - oherwydd hyn, mwy na thebyg, y fforddiwyd iddi'r enw Coeden. Ymestyn hanes Coeden mor bell yn ôl a’r 4ydd Ganrif ar ddeg. Pleser yn awr yw mynd a chwi ar daith yn ôl i’r gorffennol. Sut y cysylltir y lle yma i amser Llyfr Dydd y Farn? Beth yw'r cysylltiad gyda Shakespeare?......
Beirdd Cynnar - y flwyddyn 1340 Carwn ddechrau'r daith drwy gyfeirio at farwnad gan Fab y Clochyddyn i Gwenhwyfar ferch briod Hywel ap Gruffudd o Goeden a merch annwyl i Madog, un o deulu brenhinol Powys. Yn y farwnad hon clywir canmoliaeth gan y bardd at ferch a ddangosodd groeso mawr i feirdd Cymru drwy eu gwahodd i Goeden i gynnal nosweithiau o gerdd a chan. Sonnir yn y gerdd am fro Mechyll a’r Drym. Yr oedd Gwenhwyfar felly, yn wraig uchel iawn ei thras, ac nid yw’n syndod felly i’w chorff gael ei gludo'r holl ffordd o Lanfechell i’w gladdu yng nghangell tŷ’r Brodyr Llwydion yn Llanfaes. Yr oedd y safle hwn yn fan claddu poblogaidd iawn i uchelwyr Môn a’r cyffiniau yn ystod yr amser hwn, a chladdwyd merched eraill uchel ei statws yno, megis Siwan gwraig Llywelyn Fawr, i enwi ddim ond un.
|
||||||||||||
![]() |
Gwelir y farwnad hon yn y law ysgrifen wreiddiol yn Llyfr Coch Hergest sydd i’w weld yng Ngholeg Iesu Rhydychen.
|
|||||||||||
|
Arolwg Dyddir hanes Coeden yn ôl hyd at adladd y Pla Du, ac ar ôl yr hunllef erchyll hon yr oedd y wlad a’i thrigolion yn ymdrechu i wella. Er bod cofnodion, a gyfeirir at yr Ystâd, ond yn dyddio yn ôl i flwyddyn 1300, gallwn dybio fod ei hanes yn hyn na hynny. *******************************************************
|
||||||||||||
|
Nodir pwysigrwydd Coeden yn yr ardal mor bell yn ôl a’r flwyddyn mil, tri chant ac yn adladd y Pla Du, y salwch a ddifrododd y wlad - gan ladd dirifedi o ddynion, merched a phlant. Amcangyfrir fod y salwch hwn wedi lladd 75 miliwn byd eang.
|
||||||||||||
![]() |
![]() |
![]() |
||||||||||
|
Stent Môn Yn dilyn y Pla Du, comisiynodd y Brenin Edward III arolwg ‘crown Domesday’ a enwir yn Stent Môn. Yn ystod mis Medi yn y flwyddyn 1352, daeth pobl dros yr ynys ynghyd i safleoedd penodol i gofnodi data. Bu i John de Delves, Dirprwy Ynad Gogledd Cymru ar y pryd, grynhoi Stent Môn. Ceir yn y ddogfen fanylion am wasanaethau a rhenti a oedd yn ddyledus i’r Llywodraethwr gan ei thenantiaid yn ogystal â meddiannau'r tenant ym mhob cwmwd. Ystyrir y ddogfen hon yn un o'r rhai mwyaf gwerthfawr, ac yn ffynhonnell arbennig i hanes economi a bywyd cymdeithasol yng Ngogledd Cymru....
|
||||||||||||
![]()
|
|
|||||||||||
|
Un o’r mannau nodedig
casglu data ar gyfer Stent Môn oedd Coeden (gwelir uchod). Dyma'r fan lle y
cyflwynwyd a chasglwyd manylion holl faterion a gwasanaethau yn ymwneud a
thir lleol. Mae'r ffaith hon felly yn tanlinellu pwysigrwydd fferm
Coeden
yn y cyfnod yma.
*******************************************************
|
||||||||||||
|
Coeden, Clegyrog a William ap Rhys ap Gwilym Arolwg Roedd hawl tir a theitl yn rhywbeth i’w chwenychu yn ystod yr amser hwn ac yn gallu dilyn at dor calon a ffraeo ymysg teuluoedd nodedig. Weithiau, os oedd yr anghydfod yn ddigon llym, fe allai chwalu'r teuluoedd. Yn yr adran hon edrychwn ar y cofnod cyntaf o drosglwyddo perchnogaeth rhwng dau deulu nodedig o’u math a’r canlyniad.
Anghydfod cyfreithiol Roedd William ap Rhys ap Gwilym o Goeden Clegyrog yn byw yn yr ardal yn ystod teyrnasiad Harry yr 8fed. Yn dilyn marwolaeth ei dad, Rhys ap Gwilym yn 1538, etifeddodd yr ystâd. Er iddo ennyn cryn dipyn o barch gan ei bendefig, roedd Rhys ap Gwilym yn gywilyddus o gynnil gyda’i arian. Aeth i mewn i anghydfod cyfreithiol gyda nai ei hun sef, Rhys ap Hywel ap Rhys. Daeth Rhys a achos cyfreithiol ger bron, yn hawlio ei fod wedi cael ei wrthod o berchnogaeth bwthyn agos, a oedd yn ei dyb ef yn eiddo iddo. Ysywaeth, bu i’r nai golli'r frwydr. Roedd ennill brwydrau cyfreithiol yn rhywbeth anochel wrth ystyried teulu Coeden Glegyrog. Dim ond 40 mlynedd yn gynharach yn y flwyddyn mil pum cant ac un, bu i hen daid William, Llywelyn ap Tudur gael ei erlyn gan Sais o’r enw Richard Hael yn Uchel Lys y Canghellor!!
William a'r Beirdd Yn y cyfnod hwn, roedd yn arferiad i dai yn y rhanbarthau gynnig llety i feirdd er mwyn mwynhau eu gwaith a’i geiriau. Fodd bynnag yr oedd pethau wedi newid ers yr adeg yr oedd Gwenhwyfar yn byw yng Nghoeden.......... Yn ôl yr hanes doedd yna ddim croeso i’r Beirdd yng Nghoeden. Deallir mai dymuniad Sionet gwraig William oedd hyn. Sir Harry Bold oedd ei hen Daid; ef oedd sirydd Caernarfon. Symudodd y teulu i Gymru o Lerpwl yn y flwyddyn 1400. Dyfalwyd fod eithafiaeth gymysg Sionet yn golygu ei fod yn anodd iddi gofleidio'r arferion a thraddodiadau lleol.
Coeden yn y cyfnod hwn Gan i ffotograffiaeth ddod i fodolaeth ganrifoedd ar ôl yr amser hwn, nid oes gennym luniau o’r Ystâd pan oedd hi o dan reolaeth teulu Coeden Clegyrog. Er hynny, mae gennym ddisgrifiadau o sut, efallai, yr edrychai'r tŷ, a hefyd, yn ddiddorol beth oedd safonau glanweithdra'r teulu.......
|
||||||||||||
|
'adeiladwyd eu cartref mewn dull ffram-goed arferol, plethwaith a phlastr, gyda tho gwellt wedi ei wneud â brwyn o gors Malltraeth’...
‘oddi mewn roedd yna dan mawn a oedd wedi ei gau i fynnu bob nos, a llifai haen o fwg llwydlas yn araf deg drwy'r to gwellt’...
'yng nghymysg gyda drewdod y mwg, efallai y buasai'r trwyn gorsensitif modern wedi canfod arogl cryf o gorff heb ymolchi - oherwydd roedd yn hynod o amheus os y byddai William neu Sionet neu unrhyw un o’r 5 plentyn wedi cael bath erioed….’
|
![]() Tebyg i hyn efallai? |
|||||||||||
|
William, y Milwr Yn ôl gwybodaeth o ffynonellau fel “Anglesey Musters”, roedd gan William hoffter tuag at arfau ac yn y blaen. Deallir fod ganddo gasgliad helaeth o, arfwisgoedd, cleddyfau a hyd yn oed dagr. Roedd William, wrth gwrs wedi cael hyfforddiant milwrol, ac yn saethwr medrus, yn barod am yr alwad i fyned i frwydr.
William a Chrefydd Er gwaethaf ei gariad at offer rhyfel, roedd William yn bell o fod yn rhyfelgar a chymerodd gysur mawr yn ei grefydd. Nodir ei fod yn flaenor yn ei gapel lleol gyda chred gadarn yn y ffydd Gristnogol. “Mewn geiriau eraill, roedd yn ddinesydd da a oedd wedi byw ym mlynyddoedd cynnar y ddeunawfed ganrif ac roedd yn ben blaenor uchel ei barch yn ei Gapel neu yn Henadur o Gyngor Sir Môn. Llywodraethodd ei ystâd fechan yn rhagorol a gadawyd hi yn llewyrchus, gyda chanlyniadau na allai hyd yn oed ef ei hun eu rhagweld.” ******************************************************* |
||||||||||||
|
Yn ystod amser William, heb os y Bwcleiaid oedd un o deuluoedd mawr Môn. Cyfoeswr William oedd Sir Richard Bulkeley ac roeddent yn adnabod ei gilydd yn dda. Cafodd y ddau eu penodi yn aelodau o’r Comisiwn o unarddeg, a drefnodd yr asesiad a chasgliad o gymhorthdal o 37 Henry VIII (yr 37 mlwyddyn ei deyrnasiad) Syr Richard Bulkeley l Wedi ei eni tua 1515 ym Maron Hill, Biwmares l Cyntaf anedig i Sir Richard Bulkeley o Fiwmares a Catherine Griffith o Benrhyn l Bu farw yn 1572 (57 oed) l Aelod Seneddol, dros Sir Fôn 4 gwaith l Etifedd i ystadau helaeth ym Môn, Caernarfon a Chaer
|
||||||||||||
|
Priodas a phlant Syr Richard Bulkeley |
||||||||||||
|
Gwraig gyntaf:
Margaret Savage
Rhieni:
John Savage o Clifton
Elizabeth Somerset
|
8 o blant
-Richard Bulkeley
-John Bulkeley
-Thomas Bulkeley
-Rowland Bulkeley
-Charles Bulkeley
-Jane Bulkeley
-Daniel Bulkeley
-Margaret Bulkeley
|
|||||||||||
|
2ail wraig:
Agnes Needham
|
8 o blant
Elizabeth Bulkeley
-Mary Bulkeley
-Arthur Bulkeley
-Tristam Bulkeley
-George Bulkeley
-Edward Bulkeley
-Lancelot Bulkeley
-Grissel Bulkeley
|
|||||||||||
|
Marwolaeth William- diwedd cyfnod Rees Wynn ap William a etifeddodd yr Ystâd ar ôl marwolaeth William - ei fab hynaf. Ond ar ôl marwolaeth Rees yn y flwyddyn 1570 - doedd ganddo ddim mab i’w olynu. Felly aeth yr ystâd i’w ferch hynaf, Jane. Dyma le mae pethau yn datblygu yn ddiddorol dros ben. Erbyn yr amser i Jane etifeddu Coeden, roedd Richard Bulkeley, yr ail, ei fab hynaf o’i briodas gyntaf wedi marw, felly Richard Bulkeley y trydydd, oedd pennaeth y cartref.
|
||||||||||||
|
Priodas a phlant Syr Richard Bulkeley lll
|
||||||||||||
|
Gwraig 1af:
Catherine Davenport
|
-2
o blant
- ElizabethBulkeley
-Richard Bulkeley
|
|||||||||||
|
2ail wraig:
Mary
Borough
|
7 o blant
-Catherine
-Penelope
-Elizabeth
-Margaret
Thomas
-
Merch (dim enw)
- Mab
(dim enw)
|
|||||||||||
|
Cipolwg ar Richard Bulkeley lll l Aelod Seneddol Môn tro cyntaf 1563. l Wedi croesawu Brenhines Elizabeth 1 yn Lewisham l Ei urddo yn Syr ar noson ei ail briodas i Mary Borough, un o forwynion y Frenhines l Roedd yn enwog am ambell i frwydr gyfreithiol dros hawliau tiroedd
|
||||||||||||
|
Anghydfod yn y teulu Bu Richard yn teyrnasu dros y teulu rhanedig yma gan ffraeo gyda’i lys fam Agnes Needham. Adroddir fod ei phlant yn ei gasáu, a bod ei blant yntau hefyd yn ei chasáu hithau!! *******************************************************
|
||||||||||||
|
Roedd etifeddiaeth Coeden gan Jane yn gyfle da i deulu'r Bwcleaid - a’r cyfle yr oeddent wedi bod yn aros amdano. Yn awyddus i gael gafael ar yr ystâd fuddiol, lluniodd Richard gynllun……… Galwodd Richard ar ei frawd ieuengaf, sef John i ofyn i Jane o Goeden ei briodi - hyn er mwyn iddo gael gafael ar yr ystâd. Ond yn anffodus i Richard, ymddengys fod Agnes wedi ei guro - oherwydd roedd Jane, Coeden wedi derbyn cynnig priodas gan ei lys frawd Arthur …. yn amlwg doedd Richard ddim yn ŵr hapus iawn!!! Wedi ei ffyrnigo gan hyn, a Richard ddim bellach yn poeni am enw da'r teulu, aeth ymlaen i gyhuddo ei lysfam o ladd ei dad a ddilynodd mewn achos llys cyhoeddus iawn - lle cafwyd tystiolaethau cryf yn erbyn Agnes Needham.........
Canlyniad yr achos Yn ffyrnig i amddiffyn ei hun, gwrthododd Agnes Needham yr honiadau fel nonsens, ac mai ymgyrch gan ei llysfab oedd hyn i faeddu ei henw. Ar ôl 3 mlynedd o gweryla cyfreithiol chwerw, gollyngwyd y cyhuddiadau, a phriododd Arthur Bulkeley gyda Jane, a dod yn feistr newydd y Goeden.
Cipolwg o Arthur Bulkeley, gwr Jane, Coeden l Erbyn y flwyddyn 1590 Arthur oedd y tir feddiannwr mwyaf ar ochr orllewinol Môn l Yn ystod y flwyddyn hon daeth yn aelod o’r Comisiwn Heddwch. l Fei apwyntiwyd yn Uchel Siryf yn 1596 l Bu farw yn 41 oed yn y flwyddyn 1600
|
||||||||||||
|
William Bulkeleys Yn dilyn marwolaeth Arthur Bulkeley, fe drosglwyddwyd Coeden a Brynddu i’w fab hynaf sef William. Yn ystod y blynyddoedd yn dilyn bu 5 cenhedlaeth o William Bulkeleys yng Nghoeden a Brynddu.
William y Farf 1602-1682 Un o’r William Bulkeleys mwyaf enwog, arwahan i’r dyddiadurwr, oedd ŵyr Arthur. Cafodd yr enw William y Farf oherwydd ei fod wedi addunedu i beidio ag eillio hyd i’r frenhiniaeth gael ei hadfer ar ôl y rhyfel cartref. Cafodd drafferthion gyda'i brotest, gyda lluoedd y senedd yn dod i'r Brynddu i’w restio - ond yn ôl pob son anfonwyd hwy oddi yno gan forwyn yn chwifio bwyell!! Aeth William i guddio ar ôl hyn. Weithiau fe soniwyd amdano fel yn dod o ‘Coeden ac weithiau o'r Brynddu’ sydd yn awgrymu felly mai nid Coeden oedd y prif gartref erbyn hyn ond Brynddu.
|
||||||||||||
|
Gwelir lun o beth sy'n ymddangos i fod yn gopi, a wnaethpwyd a llaw, o garreg fedd William y Farf.
|
![]()
|
|||||||||||
![]() |
Dyma lun o’r hen dy ‘Coeden’. Tybed ai yn y fan hyn roedd William y Fafr y byw pan roeddent yn cyfeirio at Coeden yn y flwyddyn 1600?
|
|||||||||||
|
Pigion o ddydiaduron William Bulkeley l “1736-Today I have people at work clearing the watercourses of Fynnon Trinculo in Coyden from the said well to the bridge. l 1750 – Repairing bridge at Cae Lloriau due to flooding. l 1751 – carrying lime from Cemaes came in by boat from Caernarfon to repair Barn and house at Coyden.” l “1753 Carrying gors, thorns, bracken & peat from Coyden for winter use. 2 Carts + 5 horses with panniers besides. l Carrying straw from Coyden to thatch houses at home, and servicing thatchery.”
Cysylltiad â Shakespeare Enwodd y dyddiadurwr, William Bulkeley'r ffynnon yng Nghae Lloriau Coeden yn “Trinculo” - ar ôl un o brif gymeriadau drama enwog William Shakespeare, y Tempest. Yn anffodus ni chawn fyth wybod pam y rhoddwyd yr enw Trinculo arni gan nad yw’r dyddiadurwr wedi rhoi unrhyw fath o eglurhad. Mae'r gair Trinculo wedi ei fabwysiadu o’r gair Eidaleg ‘trincare’ - sef i ddiota - to tipple. Yn ystod yr hafau poeth yn 1911, 1959 ac wrth gwrs 1976, roedd y ffynnon yn sych.
Llun o Coeden yn 1890 |
||||||||||||
|
Tynnwyd y llun yma gan John Thomas yn 1890. Sylwch ar y coed sydd newydd eu plannu o flaen y tŷ a'r gweision i gyd o flaen y tŷ. Hefyd sylwch ar y cloc uwchben y tŷ...
|
![]() |
|||||||||||
|
*******************************************************
|
||||||||||||
![]() |
Daeth diwedd perchnogaeth ystâd Coeden yn y flwyddyn 1897. Gwerthwyd Coeden er mwyn ariannu adeiladu y gwaith briciau yng Nghemaes. Darganfuwyd fod yna ormod o galch yn y clai felly death y fenter hon i ben ar ôl dwy flynedd.
|
|||||||||||
|
Hanes perchnogaeth Coeden hyd at heddiw 1897 - William Bulkeley Hughes i J R Hughes (cyn denant) yn 274 acer am £5,500 1909 – J R Hughes i Robert Parry 1909 - 6 mis wedyn Robert Parry i J S Laurie 1921 – J S Laurie i Thomas Jones (Hen daid Wyn Rogers, y perchennog presennol) 1950 - Thomas Jones i Gruffydd William Jones ac Owen Jones ( Taid Wyn Rogers) 1982 - Owen Jones i Wyn a Liz Rogers. Mae heddiw’n fferm o 146 o aceri
Dogfen brisio Coeden Gwelir o hen ddogfen brisio fod y fferm yn hunan gynhaliol - ‘ yn ogystal â’r adeiladau fferm arferol, roedd yma felin ddŵr, gweithdy’r gof, tŷ grawn, lle pobi ac yn y blaen. Caiff y cyflenwad dwr, sef afon Meddanen, a gychwynnir yn Salbri ei ddal yn y llyn yng Nghoeden cyn iddi ymdroelli ymlaen i Lanfechell.‘
|
||||||||||||
![]() |
![]() |
|||||||||||
| Lluniau o weithdy'r gof | ||||||||||||
|
Llun o'r felin ddŵr sydd bellach wedi dymchwel
Gwerthu tir, 1909-1921 17 Tachwedd 1909 - Cae Mawr (Caeau Tŷ Bach) £700 17 acer 14 Rhagfyr 1909 - Bryniau Duon a Gadlas £775 30 acer a thŷ 21 Rhagfyr 1910 – Cae Glas ( Ponciau Gleision) £220 26 acer 15 Chwefror 1911 – Cae Glas & Rhos Wthio (gweddill Ponciau Gleision) £320 34 acer 18 Ebrill 1921 – Panygwydd 18 acer £200 5 Mai 1921 – Cae’r Mynydd Llwyn Ysgaw £325 17 acer ******************************************************* A dyma ni wedi cyrraedd heddiw. Gwelwn fod y coed wedi tyfu ond sylwch absenoldeb y cloc. Yn ystod y cyfnod pan brynodd taid Wyn Rogers Coeden a’r amser iddo symud yno i fyw fe ddiflannodd y cloc !
|
||||||||||||
|
|
![]() A dyma ni a’n taith drwy’r oesoedd ar ben. Er y newidiadau diri dros y blynyddoedd - braf yw dal i allu rhannu'r olygfa a welodd y beirdd yr holl flynyddoedd yn ôl, sef y lleuad uwchben y Drym. Does rhai pethau byth yn newid!!
|
|
||||||||||
|
*******************************************************
|
||||||||||||