Addysg

Cartref

Cegin Filwr

Anglesey Trading Comany

Cyfweliadau

Brynddu a Dyddiaduron William Bulkeley

Eglwys

John Elias

Ffair Mechell
Maes Mawr
Coeden
Melinau
Yr Oriel
Syr Owen Thomas
Y Feddanen a'r Wygyr
William Jones, Mathemategydd

Brynddu a'r Herwlongwr , Fortunatus Wright

Jôs y Crown
Cofeb Llanfechell
Capeli Llanfechell
Ôl cnydau yng Ngharrog

Y ferch o Gegin Filwr

Hanes Anne Williams, Cegin Filwr, Llanfechell a gafodd ei halltudio i Tasmania yn 1842 am odro buwch cymydog mewn cae ac yfed y llefrith……

Diolch i Mr Richard Williams, Gwernyfed, Llangefni am ganiatau i ni ddefnyddio ei waith ymchwil gwerthfawr ar ein gwefan.

Cyflwyniad

'Chydig, os yr un, o drigolion Llanfechell wyddai yn 1842 am beth oedd yn digwydd yn hanes pob dydd Prydain. Faint tybed a wyddai am Grace Darling a achubodd naw o ddrylliad y llong 'Forfarshire'? Pwy o'r Llan, y flwyddyn honno, a deithiodd am y tro cyntaf yn eu bywyd ar dren - fel ag y gwnaeth y frenhines Fictoria? Oedd o'n bwysig i drigolion Llanfechell wybod fod Bernardo O'Higgins wedi marw yn Chile? Wydden nhw ddim am yr uchod mae'n siwr, fel na wyddai'r tri enwogyn am fodolaeth Anne Williams o Lanfechell a drawsgludwyd i Awstralia. Ond y mae i'r pedwar digwyddiad eu rhan ym mhasiant lliwgar hanes lleol Ynys Môn, hanes cymdeithasol a hanes Prydain

Dyna pam na ddylai'r un fynd yn angof.

*******************************

                                                              

                                                                        Cegin Filwr heddiw

 

***********************************************************************************

 

  Ymson Ann Môn yn y 19fed ganrif Cofnodion o'r Archifdy Gwladol Cyfrifiad Carchar Beaumaris 1841 Tystiolaeth Ebenezer Williams Adroddiad o'r Carnarvon & Denbigh Herald Adroddiad o Garchar Millbank
  Y Garland Grove Diwrnod ar y llong Dyddiadur Pechadur Cyrraedd Diwedd y daith Dyfyniad Lewis Lloyd Coeden Deulu
   

Ymson Ann

Anne Williams yw f’enw, o Lanfechell, Môn,

Amdanaf mae pawb o’r fam ynys yn sôn;

Fe gefais fy nghosbi gan gyfraith y wlad

Am hanfon yn bell iawn oddi wrth Mam a fy Nhad.

Cytgan:

Hei di ho, hei di hei;

‘Rwy’n dweud ar fy llw nad ydwyf ar fai.

 

Ar ôl i ni lanio ar draeth mewn gwlad bell,

Deallais ar f’union nad oedd hi’n wlad well;

Ces gadwyn i’m cadw yn ddiogel fy lle,

A dyna sut groeso ges i’n Botany Bay.

 

Ond o’r fan’o fe’m symudwyd i le arall crand

Ar yr ynys a alwyd yn Van Diemen’s Land;

Am taflu i hofal o fwd ac o glai;

Waeth heb i mi gwyno- Arna’ i ‘roed y bai.

 

‘Rôl gweithio a chw’su am sawl blwyddyn faith,

Ces docyn i ddwedyd “Dyma ddiwedd dy daith”;

Ond ni welwn, fyth eto, Lanfechell, yn siwr,

‘Doedd dim byd amdani ond chwilio am wr!

 

Fe gefais i bartner a’i briodi a wnes,

Ni fuom mewn angen - ond am foethau a phres;

Ac yma ‘Nhasmania bu raid i ni fyw

Ac anghofio am bopeth ond fy Arglwydd a’m Duw.

 

M’ond Fo sydd yn gwybod i mi gario’r fath loes

Am eiliad o wendid drwy gydol fy oes;

Fe rown i y cyfan am fod adref ym Môn,

Heb neb i’m pardduo nac ailadrodd y sôn.

 

Ond yma daw terfyn i’m hoes i ryw ddydd

Ac os collaf fy ana’l, fe gadwaf fy ffydd;

Er torri y gyfraith a wynebu sawl gwg,

Yng ngolwg ei Mham, ‘doedd ei Hanne ddim yn ddrwg.

Yn ôl i frig y dudalen

***********************************************************************************

 

 

BYWYD YM MÔN YM MLYNYDDOEDD CANOL Y 19eg ganrif.

“Nodweddir y bedwaredd ganrif ar bymtheg ganrif gan chwyldroad masnachol a chymdeithasol…”,(i) meddai E.A.Williams. Prif ddigwyddiad Prydain, os nad y Byd i gyd, yn y ganrif honno oedd coroni y Frenhines Fictoria. Yn ystod oriau man y bore Mehefin 20, 1837 hysbyswyd  Alexandrina Victoria o farwolaeth William IV  ac mai hi, yn ddeunaw oed,  oedd y frenhines. Dyma ddechrau y cyfnod (1837 – 1901) mwyaf cyffrous yn hanes y wlad ac a ddylanwadodd ar bron bob gwlad arall i raddau pellgyrhaeddol tu hwnt. Hwn oedd y cyfnod pan ddaeth Prydain i’r brig a ‘choch’ yr Ymherodraeth Brydeinig yn ymddangos ar y map.

O restru prif ddigwyddiadau y cyfnod – er enghraifft rhai oddi cartref - rhyfeloedd Afghan; rhyfeloedd yn India; Y Rhyfel Opiwm yn China; rhyfel y Crimea a rhai digwyddiadau ym Mhrydain - er enghraifft cyflwyno’r system tâl am bostio, cyflwyno’r system Treth Incwm; gostwng pris yd; yr Arddangosfa Fawr yn y Palas Crisial; y Broblem Wyddelig  gwelir fod patrwm bywyd yn newid a hynny yn gyflym - bron yn rhy gyflym i amgyffrediad pobl gyffredin.............

                                                                                                                                                     Mwy o wybodaeth

Yn ôl i frig y dudalen

 

***********************************************************************************

 

  Cofnodion o'r Archifdy Gwladol

 

PRO ASSI/62/2: Began Saturday 20 March 1841.

Ann Edward 16 – Breaking into dwellinghouse of Hugh Hughes pa. Llanfechell 21 February 4 Vic, Stole 5 knives value 2s, 5 forks value 2s, 1lb. Soap value 6d, 2 prs. sugar tongs value 1s & other articles of clothes. Guilty. Imprisoned – hard labour for 6 cal. months.

PRO – ASSI/62/3 Assize Records Crown Books

Beaumaris – Began Saturday 21 March 1842

Ann Williams alias Ann Edward 17. Stealing 27 February 5 Victoria pa. Llanfechell and feloniously breaking into the house of Thomas Hughes 2 cotton gowns value 5s. & other articles of Ann Hughes. Guilty.   Transported 10 years. Pleaded guilty to previous conviction.

Yn ôl i frig y dudalen

 

***********************************************************************************

 

  Cyfrifiad Carchar Beaumaris 1841

County Jail.             Hugh Jones.  Head       55.     Jailer.

    “         “                          Elin            “       Wife  50         

    “         “                        John      “         Son         15

                                                                             

Griffith David                         45       Labourer         A convict         Caernarvonshire

Edward Jones                         15                   “                   “               Anglesey

Edward Owen                        30                   “                   “                     “

Samuel Hughes                       65       Farmer            A debtor                “

Hugh Jones                             65       Labourer         A debtor                “

Robert Jones                           55       Farmer            A debtor                “

Thomas Taylor                         30       Stable Groom A debtor          England

Anne Williams or Edwards        15     No trade      Convict        Anglesey

Elizabeth Hague                     50       No Trade        Convict                  “

---------------------------------------------------------------------------------------------------

Common Gaol.

Edward Owen                        30       Labourer         A Convict        Anglesey

Samuel Hughes                       65       Farmer            A debtor                “

Hugh Jones                             65       Labourer         A debtor                “

Robert Jones                           55       Farmer            A debtor                “

Thomas Taylor                         30       Stable Groom A debtor          England

---------------------------------------------------------------------------------------------------

House of Correction.

Griffith David                         45       Labourer         A convict         Caernarvonshire

Edward Jones                         15               “                       “               Anglesey

Anne Williams or Edwards        15     No trade      Convict        Anglesey

Elizabeth Hague                     50       No Trade        Convict                  “

 

(Gwasanaeth Archifau Môn, Llangefni.)

Yn ôl i frig y dudalen

 

***********************************************************************************

 

  Tystiolaeth Ebenezer Williams

Anglesey       Humphrey Herbert Jones Esquire Of her

TO WIT   Majesty’s Justices of the Peace for the said County, to the Constable of the parish of

          Llanfechell in the said County, and to the Keeper of the Common

          Gaol at Beaumaris, in the said County, and to John Jones

          Special Constable, and to each and every of them.

 

         These are to command you, the said Constable, in her Majesty’s name, and forthwith to

      convey and deliver into the custody of the said Keeper of the said Common Gaol the

      body of Ann Williams charged this

      day before me the said Justice on the oath of Ebenezer Williams

      and others, for that she the said Ann Williams

      on theThird day of

      August in the year of our Lord One Thousand Eight Hundred

      and Forty at the parish of Llanfechell  in the

      said County, did milk a cow, the property of the said Ebenezer

          Williams and did steal one pint of milk the property of

          the said Ebenezer Williams, to wit at the parish afoursaid,

          within county afoursaid, which milk was the produce

          of the said cow of the said Ebenezer Williams

 

      And you, the Keeper, are herby required to receive the said Ann

            Williams into your custody in the same Common Gaol and her 

      there safely to keep until she shall be thence delivered by due course of Law. Herein

      fail not. Given under my Hand and Seal the fourth day of

      September in the year of our Lord One Thousand Eight Hundred

      and forty.

                        H.Herbert Jones.

(Manylion wedi eu copio o ddogfen yn Archifdy Llangefni, Ynys Môn.)

Yn ôl i frig y dudalen

***********************************************************************************

 

  Adroddiad o'r Caernarvon & Denbigh Herald

Bras gyfieithiad o erthygl a ymddangosodd yn y Caernarfon and Denbigh Herald, Mawrth 26, 1842.)               

          “Cyrhaeddodd y Barnwr dysgedig (Mr. Ustus Coltham) i Feaumaris o Gaernarfon am naw o’r gloch nos Sadwrn gan wneud ei ffordd yn syth i Neuadd y Sir.

          Ar y diwrnod canlynol (Dydd Sul) aeth i’r gwasanaeth dwyfol yng Nghapel Mair i wrando ar bregeth addas yn cael ei thraddodi gan Y Parchedig Hugh Jones o Lanfaes, caplan y Siryf. Y testun oedd Epistol Paul yr Apostol at y Rhufeiniaid, Pennod 4, adnod 10:

“Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? Ai pan oedd yn yr enwaediad, ynteu yn y dienwaediad? Nid yn yr enwaediad, ond yn y dienwaediad.”Agorwyd y Llys am ddeg o’r gloch y bore ac wedi gweinyddu y defodau arferol, galwyd ar y gwŷr bonheddig canlynol ynghyd i ffurfio y Prif Reithgor:

Yr Anrhydeddus Charles C. Vivian, A.S., Fforman y Rheithgor;

Yr Anrhydeddus William Owen Stanley, A.S.;

William Bulkeley Hughes, Yswain, A.S.;

Richard T. Griffith, Ysw.;

Charles Henry Evans, Ysw.;

Is-Lyngesydd Robert Lloyd;

John Williams, Ysw., Treffos;

John Price, Ysw., Cadnant;

Thomas Williams,  Ysw., Glan yr Afon;

Robert Jones Hughes, Ysw.;

Edmund. E. Meyrick, Ysw., Beaumaris;

Llewelyn Jones, Ysw., Beaumaris;

Charles Stanhope Jones, Ysw., Tros yr Afon;

John Lloyd Price, Ysw.;

Henry Webster, Ysw., Vitriol;

Thomas Owen, Ysw., Plas Penmynydd;

Owen Roberts, Ysw., Bwlan;

Rice Roberts, Ysw., Plas Llangefni;

James Treweek, Ysw., Mona Lodge;

Stephen Roose, Ysw., Glan y Don;

John Paynter, Ysw., Maes y Llwyn.

          Yn ei anerchiad i’r Rheithgor, llongyfarchodd y Barnwr hwy ar y nifer fechan o droseddau oedd wedi eu cyflawni yn yr ardal. Fodd bynnag, yr oedd un achos difrifol i’w ystyried a hwnnw o fath na ddylid ei annog ar unrhyw gyfrif. Cyfeiriai at achos Anne Williams, a gyhuddwyd o ddwyn dilladau o dy annedd. Nid oedd unrhyw amheuaeth ynglŷn â’r achos gan fod y dilladau wedi eu darganfod ar ei pherson. Ar ddiwedd yr anerchiad agoriadol, symudodd yr Arglwydd Vivian i’w sedd yn ymyl y Barnwr, ar y fainc.

          Wedi i’r Rheithgor glywed y cyhuddiadau yn erbyn Anne Williams, alias Anne Edwards, o fod wedi torri i mewn i dy^ annedd, plediodd y carcharor yn ddieuog i gyhuddiad o fod wedi torri i mewn i dy annedd Thomas Hughes, Llanfechell, yn ffelonaidd, ar 27ain o Chwefror diwethaf a dwyn oddi yno ddwy ffrog gotwm, pâr o staes, ffunen boced sidan a sawl dilledyn arall.

Siaradodd Mr. Townsend ar ran yr erlyniad.

Mynegodd Ann Hughes, chwaer yr erlynydd, o Dyddyn Cowarch, Llanfechell iddi adael y dilladau dan sylw, yn ddiogel, yn ei hystafell yn nhŷ ei brawd ar y bore Sul ac ar ei dychweliad o’r capel am hanner dydd, iddi ddarganfod y bar ar y ffenestr wedi ei symud a’r dillad ar goll. Credai y gallai unrhyw un a safai y tu allan gyrraedd at y ffenestr ac iddi hefyd weld Anne Williams yn gwisgo’r rhai o’r dillad (un ffrog) dan sylw. Ar y Dydd Mercher dilynol, aeth y tyst ynghyd a Margaret Owen a Ellen Williams i gartref Anne Williams. Arhosodd y tyst y tu allan ac aeth y ddwy arall i mewn a dychwelyd efo’r ail ffrog oedd wedi ei dwyn, yn ogystal â’r staes a’r ffunen boced

          Dywedodd Thomas Hughes, brawd y tyst cyntaf, iddo yntau, yn  fuan iawn ar ei hol, fynd i’r capel ar y Sul, 27ain o Chwefror a gadael popeth yn ddiogel yn y tŷ gyda’r bar yn ei le ar y ffenestr a’r drws wedi ei gloi. Disgrifiodd nad yw’r ffenestr, ar yr ochor allanol, yn cyrraedd dim uwch na’i frest a’i bod hefyd yn ddigon mawr i unrhyw un allu dringo i mewn drwyddi. Pan ddychwelodd o’r capel, sylwodd fod y ffenestr yn led agored a’r bar wedi ei symud. Cyfaddefodd iddo fod yn gyfarwydd iawn â’r carcharor ond nad oedd wedi rhoi yr un dilledyn iddi.

          Gwnaed datganiad gan y carcharor nad oedd hi wedi dwyn y dillad na mynd a hwy i’w chartref ar y Sadwrn diwethaf.

          Cadarnhawyd tystiolaeth Ann Hughes gan Margaret Owen a Ellen Williams fel y bu iddynt ddarganfod y dilladau ym mherchnogaeth y carcharor.

Gwelwyd Anne Williams yn cerdded tua thŷ Ann Hughes ar y Sul dan sylw am hanner awr wedi deg y bore. Yn ôl Jane Williams ac Elizabeth Owen yr oedd wedi gadael y llwybr troed ac yn cerdded ar draws y cae.

          Dangoswyd y dilladau gan y cwnstabl, fel y’i derbyniodd gan Ann Hughes yng ngŵydd yr Ynad ac adnabu hithau hwynt fel ei heiddo.

          Yn ei hamddiffyniad, mynegodd y carcharor fod y brawd (Thomas Hughes) wedi rhoi’r dillad iddi ar y nos Sadwrn ac iddi hithau eu cadw tan y Dydd Mercher. Cynigiodd Hughes, ffrog wlân merino iddi hefyd ond fe’i gwrthododd. Nid oedd tyst i hyn ond gwyddai llawer am arfer Hughes o alw arni. Yn anffodus, nid oedd tystion i gadarnhau hyn, chwaith. Plediodd y carcharor yn euog i drosedd flaenorol

Dedfrydwyd y carcharor i’w thrawsgludo am ddeg mlynedd.”

Yn ôl i frig Y Ferch o Cegin Filwry dudalen

***********************************************************************************

 

  O garchar Millbank

Efallai mai yr un oedd Anne Williams alias Edwards o Lanfechell, Ynys Mon a'r sawl y cyfeirir ati yn "Memorials of Millbank and Chapters in Prison History.  A. Griffiths. London 1884:

 "Repeated attempts at suicide, self mutilation and starvation, along with the use of 'dreadful' language, led Ann Williams’ demeanour to be described as showing "strongly of artifice" for which the doctor recommended punishment - a bread and water diet." 

Yn ôl i frig y dudalen

***********************************************************************************

  Y Garland Grove

(O'r Archifdy Cenedlaethol.)

Garland Grove’ un o longau’r Llynges a ddefnyddiwyd i gludo carcharorion o Brydain i Awstralia.

Pwysau – 483 tunnell.

Addaswyd ei phwysau i 385 tunnell.

Barc: gwain o gopr ar ei gwaelod yn 1838.

         gwain o gopr a “patent hair” ar ei gwaelod yn 1842.

         gwain o ffelt a haearn melyn ar ei gwaelod yn 1845 a 1848.

Arfogaeth - pedwar gwn,

Adeiladwyd ar Ynys Wyth yn 1820.

Adnewyddwyd yn 1842. Dec newydd yn 1848.

Perchnogion – J. Grieg (1840 – 42);

                     Edmunds & Co. (1843 – 47);

                      J. Shepherd (1848 – 49);

Cofrestrwyd yn: Llundain (1840 – 42, 1848 – 49);

                            Lerpwl (1843 – 47).

Archwilwyd: Llundain (1840 – 42/ 1848 – 49);

                    Lerpwl (1843 – 47).

Hwylio: dan ofalaeth William B. Forward

a’r Arolygwr Feddyg Robert Dobie.

Cychwynnodd o Lundain ar Fehefin 23, 1841 a chyrraedd Hobart ar Hydref 10fed, 1841 wedi colli dim ond un allan o 180 carcharor, tri ar ddeg o blant a thri teithiwr arall.

Cytunodd J. Greig i gario’r cargo am £3.18.6d y dunnell. Ar ei bwrdd am y fordaith a ddechreuodd ddiwedd Medi 1842 yr oedd 191 o ferched a deg ar hugain o blant.

Capteniaid eraill: Captain J. Robson (1843 – 47).

                          Captain Matheson (1848 – 49).

Mordeithiau eraill: Hydref 13, 1844     Sydney – cyrraedd;

Ionawr 29, 1845    - Sydney - gadael;

Ebrill 5, 1846  - Sydney  - cyrraedd;

Rhagfyr 22, 1846 - Hobart - cyrraedd;

Ionawr 12, 1847 - Sydney - cyrraedd;

Mai 19, 1849 - Melbourne - cyrraedd.

Daeth diwedd y llong ym Mai 1851, pan aeth ar y creigiau ger Mauritius. Achubwyd y criw a’r llythyrau oedd yn eu cario.

Yn ôl i frig y dudalen

 *************************************************************************************

 

  Diwrnod ar y llong

Yn nosbarth Miss. Lang Grindod oedd Elizabeth Wheeler, a allai ddarllen ond na allai ysgrifennu, a Anne Williams (alias Edwards) oedd yn gallu darllen ac ysgrifennu yn rhugl yn Gymraeg ond heb feistrolaeth o’r Saesneg o gwbl, er bod dogfennau’r Llys a’r carchar ym Meaumaris yn dweud yn wahanol. Yr oedd ei hunigrwydd oherwydd ei gwendid ieithyddol yn amlwg i’w hathrawes ond “…Anne is dismissed in a single word - BAD”.  (1)

          Dechreuai’r diwrnod dysgu am naw o’r gloch y bore i bawb ar wahân i’r rhai oedd yn glanhau a thacluso. Y wers gyntaf oedd Addysg Grefyddol dan ofal Miss. Mc.Larene. Yna, rhannwyd i grwpiau o tua deg ar hugain a Miss. Lang Grindod yn arwain y gwaith ysgrifennu. Wedi hynny, cyfnod o ddwy awr i ganolbwyntio ar y darllen. Ar ôl cinio, rhaid oedd sgwrio’r deciau dan arolygaeth Miss. Mc.Larene a gwae ar unrhyw un oedd yn llaesu dwylo. Ar yr un pryd, byddai Miss. Lang Grindod yn arolygu yn yr Ysbyty.

          Yn hwyr y prynhawn, byddai pawb yn difyrru eu hunain yn gwau , gwnïo neu yn darllen yn uchel. I’r rhai oedd yn haeddu canmoliaeth, caniatawyd ymweliad i’r Llyfrgell i ddewis o fysg llyfrau ar deithio(!), crefydd, hanes a barddoniaeth ddwys. Ni chaniatawyd nofelau ysgafn, dramâu na unrhyw lyfr arall anaddas.

          Galwyd pawb i de am bump o’r gloch ac erbyn chwech disgwylid i’r merched i gyd fod yn ôl yn y lle byw o dan y dec ar gyfer eu cloi am y noson. Cynhaliwyd gwasanaeth byr cyn noswylio.

1. Welsh Convict Women. Deirdrie Beddoe. Stewart Williams Publishers 1979.

Yn ôl i frig y dudalen

***********************************************************************************

 

 

DYDDIADUR PECHADUR.

Dydd Mawrth, Diwrnod Ffwl Ebrill, 1842.

(Er nad oes yna yr un ffwl mwy na fi heddiw.)

Tra bydda i byw, wna i ddim anghofio beth ddudodd y cythral Coltham ‘na;

“EUOG.”

Euog o ddiawl! Be fasa fo wedi wneud tasa fo yn fy sgidia fi? Pan mae pawb yn chwerthin am ych pen ac yn cymryd mantais ohonoch, talu’n ôl i’r diawlad ydy’r unig beth fedra hogan fel fi ei wneud. Ges i lond bol ar bobol fel Twm, Ty^’n Cowarch, yn cymryd mantais arnaf fi ac ym meddwl y medra fo fy nhaflu o’r neilltu pan oedd o wedi cael digon. Hy! Cafodd pawb wybod sut un oedd o, a’i enw yn cael ei lusgo drwy’r baw yn ystod yr achos ym Miwmaras. Eitha’ gwaith a fo. Fe fydd yn rhaid iddo fo fyw yn Llanfechell am ei oes a bydd pobl yn cofio yr hyn wnaeth o ond mi fydda i yn ddigon pell i ffwrdd ac mi fydd pawb ond Mam, gobeithio, wedi anghofio amdana i, yn ddigon buan.

Ond os caiff o aros yn Llanfechell, nid felly bydd hi arnaf i. Ostrelia ddudodd y barnwr;

“Eich trawsgludo dros y môr i Ostrelia.” Dyna ddalltis i o yn ei ddeud. ‘Roedd o yn meddwl nad oeddwn i yn dallt i Saesneg crand o ond mae yna fwy ym mhen Anne Williams na mae neb yn ei feddwl. Ella na fues i yno’n hir ond mi ddysgis i ambell i beth yn Ysgol John Jones yn y Llan. Ond cha i ddim gweld y Llan eto, mae’n siwr.

“Am gyfnod o ddeng mlynedd!” medda fo wedyn. Mi fydda i yn saith ar hugain oed erbyn hynny ac yn barod i briodi, os cymrith rhywun fi. Pwy fasa’n ddigon ffôl i nghymryd i? Pwy a w^yr?

Rhywbeth arall nad oedd y Barnwr na yn ei wybod oedd fod gen i  lyfr efo fi. Gan Mam y cefais i o ac mi gadwa i hwn yn agos i nghalon tra medra i. Pan fydda i yn clywed ogla'r lledr ar ei glawr, mi fyddaf yn cofio am Mam. Yn hwn y ca i fwrw mol a deud fy neud fel y bydda i yn teimlo ac mi wna i yn siwr na fydd neb yn cael dwyn hwn oddi arna i. Methu ddaru nhw ym Miwmaras beth bynnag. Mi cadwa i o tra medra i.

Dydd Gwener, Calan Mai, 1842.

Erbyn hyn, rydw i wedi cyrraedd Carchar Millbank..........

                                                                                                                  Mwy o'r dyddiadur

Yn ôl i frig y dudalen

 

********************************************************************

  Cyrraedd

Yn ôl neges gan Miss. Elizabeth Lang Grindod, a anfonwyd i Elizabeth Fry -

diwygwraig carchardai, “…ship arrived safely after an agreeable voyage of 110 days.” (1) Nodwyd ei chyrhaeddiad yn yr Hobart Town Courier, Hobart Town Advertiser a’r Colonial Times. Manylwyd ar y llong a’r daith:

“Garland Grove arrived Hobart 20 January 1843.

Ship 385 ton, 4 guns.

Master: William B. Forward.

Surgeon Superintendent: William Bland.

Embarked with 191 female convicts, 1 relanded,

8 deaths, 182 landed at Hobart.

(Yr oedd deg ar hugain o blant ar y llong hefyd a’r cyfartaledd marwolaethau drwy gydol y fordaith oedd 1 o bob 24 – oedd yn dderbyniol iawn gan yr awdurdodau yn y cyfnod!)

1. Journal of His Majesty's Ship Garland Grove. William Bland 1842/43. Yr Archif Genedlaethol.

Yn ôl i frig y dudalen

***********************************************************************************

 

 

DIWEDD Y DAITH.

Chafodd Anne Williams (alias Edwards), yn anffodus, fawr o air da gan neb, erioed. Beth, tybed, fu ei diwedd? Oes yna rywun yn Nhasmania yn gwybod ei hynt a’i helynt? Difyr fyddai gallu cloi ei hanes a dweud iddi ddychwelyd yn ôl i Fôn a threulio blynyddoedd olaf ei hoes efo’i theulu yn ei hen gartref. Ond nid felly bu.

Am ymddygiad helbulus, treuliodd y deng mlynedd llawn o’i thrawsgludiad yn gaeth, i raddau helaeth, cyn ei rhyddhau yn 1853 (yn ôl Herald Môn, Medi 19, 1987). Yn ôl yr adroddiad, bu Anne mewn trafferthion drwy gydol ei hamser yn Nhasmania a chafodd hi, yn wahanol i nifer helaeth y rhai a drawsgludwyd, ddim cynnig cwtogi y ddedfryd neu barôl.  

Anodd yw credu hynny am ferch o Fôn ond yng ngoleuni tystiolaeth arall o Dasmania – ‘does gan ddyn dim dewis:

509          Williams Ann

                              Alias Edwards

                Garland Grove/2/ Jany. 20th 1843

                Anglesey Assizes 19 March 1842            10

Transported for Stealing from a dwelling house. Gaol report very Indifft. Convictd. Twice Single. Stated this offence. Stealing from a Dwelling House. for a Cloak and drefs. 6 mos. Single Ch? Surgeons report 13ae

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

June 27/43. Griffiths/ Absent without leave. Admond. & retd. to Governor/G.15/

August 3/43. Mrs. Solomon/ Disobedt. of Orders & Indolence 2 Months Rec. 6 wash Tub./ V.G  Dec?/43 Married/ Misconduct in taking Spirits into the House 6 days Solity Conft. /P. S./P. P. H. 3rd Claps. Feby.1st/44/ Sloarie?/Absent a day & night without leave 3 Months hard labour H. of Correction recommd. that she deported to the 2nd Claps Cont. Vide? I.C. Lises? Feb 17/44. July 9/44. Puncheous/ Absconding 3 months hard labour H. of Cor./ J.28. 13. 13/ F.Hobart Vide R G Lee?

12/7/1111 Oct 3/45/ Hudson Misconduct in having a Man Imply. with her on her Masters Premises 3/moth. hd. Labour.

A./ G./ Tm. Vide A. G. ? 10/10/45 Delivered of an Illegitimate  29th Dec 1845

May 12/46 F.H. of C./ Improper conduct & Insolence recomd. to be reduced to the Ist Class**/ A. G. Approx. Vide L.G bect?. May 15/46 

June 3/46 F. H. of C./ Refed. disrespectful. Conduct to the Medl. Officer 3 mons. hd. labour added to her ?/ A.G./ Appd. Factory ? Vide bect. 27/6/46

June 16/46 F. H. of Correction. Disobedience of Order 14 days Soliy. Conf./T C./ 24 February 47 Long of a neglect of duty 10 days So. Cf. Meg/ 16-2-47

Hobday?

Free Certificate to April 1852

(Archifdy Launceston, Tasmania)

Yn ôl i frig y dudalen

************************************************************************************

 

 

Dyfyniad Lewis LLoyd

Yn ôl Lewis Lloyd, yr oedd tynged Anne wedi ei selio yn y llys, “…Anne Williams alias Edwards admitted to a previous conviction for felony and her fate was sealed. She later sailed to Van Diemen’s Land aboard the transport Garland Grove to serve her sentence. She was freed, it seems, in 1853 and the rest of her story is unknown.”  (1)

 

1. Australians from Wales. Lewis Lloyd. Gwynedd Archives and Museums Service 1988.

Yn ôl i frig y dudalen

***********************************************************************************

 

 

COEDEN DEULU.

Yn ystod y cyfnod o alltudiaeth priododd Anne a George Robert Couth West (30/11/1847) Aethant i fyw i Mowbray, Launceston, Gogledd Tasmania. Cawsant chwech o blant, tri mab a thair merch. Bu Anne farw ar 14 Ionawr, 1890.

Mae ei disgynyddion- David  a’i deulu yn dal i fyw yn yr un ardal. Maent hefyd mewn cysylltiad â Môn a phum cenhedlaeth yn ddiweddarach yn ymwybodol o’u gwreiddiau yn Llanfechell.

 

 William Edwards             =        Mary Williams

Y Gegin Filwr, Llanfechell.

(1776 - ?)                                (1786 - ?)

(65 mlwydd oed yn 1841)            (55 mlwyd doed yn 1841)

Yr ail o dri o blant(2 ferch, 1 mab) -

Anne Williams alias Edwards    =        George Robert Couth West

(14/4/1822 - 14/1/1890)                    (1814 - 1871)

                            (Priodi - 30/11/1847/8)

 

Un o Gaeredin oedd George, wedi ei brentisio fel saer troliau ond a gafodd ei ddal, efo’i frawd John a chriw o fechgyn, yn dwyn y ‘bocs tlodion’ (Poor Box) ac o siop felysion yn Aberdeen. Fe’i cosbwyd a dedfryd o drawsgludo am bedair blynedd ar ddeg , “...for the further good of a bad character.” gan yr erlynydd Alex Miller a hwyliod ar y ‘Moffat 2‘ ar Ebrill 1af, 1836. Wedi i’w gyfnod o drawsgludiad ddod i ben, newidiodd ei enw o Coutts i Couth West.

 

Y pumed allan o bump o blant (3 mab, 2 ferch)

George Robert Couth West     =        Mary Jane McEnnulty

(10/8/1859 - 19/12/1940)                           (19/12/1859 - 10/9/1927)

 

MARWOLAETH

WEST – Ar Ragfyr 19, 1940, yng nghartref ei fab yng nghyfraith, Mr. W. Begent 19 Cimitere Street, bu farw George R. C. West, gweddw y diweddar Mary Jane West, a thad cariadus Arthur, Kate, Mary a Gladys, yn ei 82 blwyddyn. Dim galaru.

Angladd preifat ym Mynwent Carr Villa am 11 o’r gloch Dydd Gwener.

 

EXAMINER, DECEMBER, 1940.

TEYRNGED

MR. G. R. C. WEST, LAUNCESTON

          Bu farw, yn Launceston, ddydd Iau, Mr. George R. C. West, yr olaf o dri mab Mr. G. R. West, o Gernyw, LLoegr. Yr oedd Mr. West, 81 oed, yn gyn ringyll yn Company B y Launceston Volunteer Regiment ac yn ddiweddarach yn y 12fed Bataliwn. Yr oedd yn aelod o Glwb Saethu Launceston ac enillodd wobrau lawer mewn sawl cystadleuaeth. Ef hefyd oedd y Colour Sargeant a’r Is-hyfforddwr yng nghyfnod yr Uwch Ringyll Walsh. Bu’n gysylltiedig a Chlwb Pel droed Gogledd Launceston pan y’i sefydlwyd ac yr oedd brawd iddo – y diweddar Mr. William West, yn bencampwr paffio pwysau trwm Tasmania. Gedy un mab a thair merch.

 

Y pedwerydd allan o saith o blant (2 fab, 5 merch)

                             John                    =        Alma  (o Ynys Cape Barron; un o frodorion Tasmnaia)

Y pedwerydd allan o ddeuddeg o blant (5 mab, 7 merch)

 

Arthur Ernest West                =        Ruby Muriel Hyatt

                      

Yr unfed ar ddeg allan o un ar ddeg o blant (9 mab, 2 ferch) 

David               =       Denise

  Olivia                            Adam

                           

Yn ôl i frig y dudalen

                                                                               ******************************************************************************

 

Oes gennych chi mwy o wybodaeth neu sylwadau?

 

Cysylltwch â ni

carol@tyddynpaul.co.uk