Addysg

Cartref

Cegin Filwr

Anglesey Trading Company

Cyfweliadau

Brynddu a Dyddiaduron William Bulkeley

Eglwys

John Elias

Ffair Mechell
Maes Mawr
Coeden
Melinau
Yr Oriel
Syr Owen Thomas
Y Feddanen a'r Wygyr
William Jones, Mathemategydd

Brynddu a'r Herwlongwr Fortunatus Wright

Jôs y Crown
Cofeb Llanfechell
Capeli Llanfechell
Ôl cnydau yng Ngharrog

 

Addysg yn Llanfechell

gyda diolch i'r Pennaeth, Mr Gareth Corps a disgyblion hynaf yr ysgol 

 

Cliciwch ar bob llun i'w gweld yn fwy

 

 
Y Dechrau Y 1930au Y 1940au
   Y 1950au  Y 1960au a'r 1970au

 

Cyflwyniad

 

  Pryd gychwynnodd addysg yn Llanfechell, a pham?
 

 

 Pwy oedd y Prifathrawon?

 

 

Oedd y plant yn cael eu cosbi?

 
  Beth fyddai'r plant yn chwarae?
 
 
 

Beth fydd ysgol y dyfodol?

 
 
Beth oedd yn cael ei ddysgu?
 
 

Sut adeiladau oeddynt?

 
 

 

 

Ble aethom i chwilio am wybodaeth?

  • Llyfrau gwybodaeth

  • Yr archifdy

  • Papurau newydd

  • Chwilio ar y cyfrifiadur

  • Holi pobl

  • Ffotograffau

 

 

Y Dechrau

 

 

Dyfyniadau o ddarlith y Parch Emlyn Richards

 

 

‘Bu i Richard Gwynne o Rydygroes ym mhlwyf Llanbadrig adael tyddyn o’r enw Nantglyn trwy ewyllys ym 1723, er mwyn rhoi addysg i blant tlawd o’r plwyf mewn ysgol ym mhentref Llanfechell…’

‘Ceir cofnod o ysgol Llanfechell eu bod heb brifathro ac yn methu’n lân a chael un…’

 
   

Yn 1716, daeth Griffith Jones yn berson Llanddowror ac fe gychwynnodd yr ysgolion cylchynol cyntaf. Roedd yr ysgolion yma yn defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng dysgu.

Apeliodd Griffith Jones i’r SPCK (Society for Promoting Christian Knowledge) am gopiau o Feiblau Cymraeg.

Roedd yn athrylith, ac fe sicrhaodd fod addysg yn cael ei ledaenu i bob cwr o Gymru.

 

 

 

  

 

........................................................

 

Yng Nghymru, drwy’r ddeunawfed ganrif,roedd tair math o ysgol yn bodoli

 

 

Yr Ysgol Sul

Yr Ysgol Elusennol

Yr Ysgol Breifat

   

Cafwyd yr ysgol gyntaf yn Llanfechell yn 1844. Roedd hi’n ysgol ‘elusennol’.

   

Ysgol Gynradd Llanfechell

   

 

Ysgol Gynradd Llanfechell 1907-1971

 

 

 

 

 

Detholiad o lyfr ysgol y diweddar Mrs. E. Williams (Tan Rallt, Mynydd Mechell) a oedd yn ddisgybl yn yr ysgol Elusennol a’r ysgol gynradd. Cyfnod y llyfr yw 18/9/1907 – 11/7/1908.

Diolch i Florence Jones, Bryn Mechell, Caergybi am fod mor garedig yn benthyca’r llyfr i Archifdy Mechell.

 

   

 

1924

 

 

 

   

yn ôl i frig y dudalen

*******************************************************

 

Y 1930au

 

 

Lluniau rhai dosbarthiadau

 

   

 

 

 

 

 

Un o ddisgyblion y 30au- Jean Calfaria

 
   

Mrs Jean Jones Calfaria

 

 
  Adroddiadau Ysgol Jean Jones

 

 

yn ôl i frig y dudalen

*******************************************************

 

   

Y 1940au

Rhai o ddosbarthiadau'r 40au

 

 

 

 

Y Pennaeth, Mr E.G. Roberts

Mr E G Roberts a'i wraig Annie

 

   

 

   

yn ôl i frig y dudalen

*******************************************************

 

 

Y 1950au

Rhai o ddosbarthiadau'r 50au

 

 

 

 

      

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Gegin

Staff y gegin

 

Mrs Griffiths, Y gogyddes

 

 

     
   

Adroddiad Iola Margaret Richardson Safon 1 yn 1952

 

 

 

 

 

 

 

yn ôl i frig y dudalen

*******************************************************

Mr Richard Jones Pennaeth Ysgol Llanfechell 1955 - 1969

 

 

Mr Richard Jones Pennaeth Ysgol Llanfechell 1955 - 1969

Cliciwch ar y llun i'w weld yn fwy

  *******************************************************

 

 
 

Atgofion Mrs. Lewis, Carreglefn

(Athrawes yn yr ysgol yng nghyfnod   

Mr. Richard Jones)

 

Dechreuais ddysgu yn yr ‘Hen Ysgol’, ond oherwydd ei chyflwr gwael symudwyd y dosbarthiadau i gabanau symudol a dechreuwyd godi’r adeilad newydd ac agor yr adeilad presennol yn 1971.

Ers rhai blynyddoedd roedd newid graddol wedi cymryd lle yn y  dull o ddysgu. Taflwyd allan yr hen ddesgiau o bren cadarn a haearn trwm nad oedd bosibl eu symud. Yn raddol daeth byrddau a chadeiriau ysgafnach, hawdd eu symud a digon o le i’r plant symud i wneud eu gwaith, a chwilota, a gofyn cwestiynau. . .

Erbyn y chwedegau daeth diddordebau’r unigolyn yn flaenllaw ac agwedd mwy agored, ac anffurfiol rhwng yr athro a’r dosbarth...

Braidd yn gyfyng oedd hi yn ystafell y rhai ieuengaf yn yr hen ysgol ac yn y ‘Garafan’ (dyna enw’r plant) i weithredu’r drefn newydd, ac roedd cael symud i ystafell olau, siriol yn yr Ysgol Newydd yn fendigedig...

Yma roedd cornel cartref gyda charped ar y llawr, tân trydan, silffoedd llyfrau, y teledu a’r piano.

Pan ddeuthum i Lanfechell, Mr. Richard Jones oedd y Prifathro a Mrs. Ceridwen Owen yn athrawes y dosbarth canol...

Ar ymadawiad Mr. Jones am Ysgol Gynradd Amlwch, Penodwyd Mr. Gwynfor Roberts yn brifathro. Ar farwolaeth brawychus Mrs Owen, daeth Miss Beti Aubrey a chyn bo hir, Mr. Alwyn Roberts hefyd...

Mrs. Mair Pritchard a Mrs. Owen Wern oedd y cogyddion, ac yn ddiweddarach Mrs. Maureen Jones a Mrs. Beryl Jones. Roedd pob un ohonynt yn hynod fedrus ac yn gofalu’n dda am y  plant – paratoi pecyn o fwyd blasus ar gyfer y tripiau ysgol....a gwneud pwdin mwyar duon a gasglwyd gan y plant gyda’r nos.

Gyda’r paratoi ardderchog ar eu cyfer byddai Nadolig gwerth ei gael. Cinio a pharti. Yn yr Hydref ai’r athrawon i Webbs, Llanfair i archebu anrhegion a mawr oedd y disgwyl am y cinio, y parti ac ymweliad Sion Corn...

Chwarae cuddio, sgipio, chwarae tic a Hop Scotch, chwarae pel a phawb yn cytuno’n dda...

Doedd dim problem gyda’r disgyblaeth nac absenoldeb...

Eistedd, gwrando a dweud dim fyddai’r hen drefn. Erbyn hyn diolch fod mynegi syniadau a barn a darganfod drostynt eu hunain yn drefn ddyddiol, a hyn yn arwain i frwdfrydedd naturiol...

 Ceir y gwreiddiol yn Archifdy Mechell)

   

*******************************************************

 

 

 

Rhai o luniau'r cyfnod

 

   
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

   

 

   

*******************************************************

Nadolig yn y 60au a'r 70au

 

   

 

  Holwyd Mrs Glenys Jones, gwraig y diweddar Mr Richard Jones am darddiad y ‘wal’ o anrhegion. Dywedodd fod Mr Jones yn cofio’r adeg pan oedd yn blentyn ac yn cerdded o Lanfachraeth i Lanfwrog adeg y Nadolig i noson y ‘Christmas Tree’. Wrth fynd i mewn, roedd pawb yn derbyn tocyn raffl a oedd yn perthyn i anrheg ar wal yr adeilad. Roedd yn noson gofiadwy iawn i blant y cyfnod. Defnyddiodd Mr Jones y syniad yn Ysgol Llanfechell trwy roddi papur i bob plentyn ysgrifennu eu dymuniadau ar gyfer anrheg Nadolig. Derbyniodd pob plentyn docyn raffl, a rhaid oedd gofalu amdano hyd at ddiwrnod y parti Nadolig. Wedi i’r plant fwynhau eu parti a’u gemau byddai’r athrawon yn dadorchuddio’r wal a’r plant hwythau yn cael cyfle i chwilio am eu rhif arbennig. Byddai Siôn Corn yn galw heibio i helpu i rannu’r anrhegion.

 

 

Atgofion rhai cyn ddisgyblion

 

 

Mrs Marian Roberts

Dywedodd Mrs Roberts mai diwrnod y parti Nadolig oedd diwrnod gorau’r flwyddyn. Dim gwersi. Pawb yn y Babanod yn y bore yn edrych ar ffilmiau a chartwns. Pawb yn cael tocyn raffl i gael anrheg. Yr ofn mwyaf oedd colli’r tocyn a dim cael anrheg. Cofiai ei roi yn ei hesgid un flwyddyn am nad oedd ganddi boced Wedyn ar draws yr iard wedyn i’r cantîn am ginio Nadolig, twrci a’r trimmings. Byddai merched y gegin wedi cuddio darn chwe cheiniog yn y pwdin a phawb am y gorau i’w ddarganfod. Ar ôl cinio pawb yn mynd i ddosbarth Mrs Owen a Mr Jones. Y ddau ddosbarth wedi eu hagor i wneud un mawr. Cofiai pawb yn syllu ar un wal oedd wedi ei chuddio gydag anrhegion o bob math a thocyn raffl yn sownd ym mhob un. Gemau trwy’r prynhawn, musical chairs a chael benthyg sgarff Mrs Owen i roi am ein llygaid a thrio adnabod plentyn arall. Cofiai’r gêm flawd- mynydd o flawd ar hambwrdd a tangerine ar y top. Trio torri’r blawd gyda chyllell mor agos i’r tangerine heb iddo ddisgyn. Os oedd yn disgyn roedd yn rhaid i’r plentyn ei godi gyda’i geg. Diwedd y diwrnod fyddai Siôn Corn yn rhannu’r anrhegion wrth i Mr Jones alw rhif y tocyn raffl.

Mrs Elaine Williams a'i merch Morfydd 

Roedd Mrs Elaine Rowlands wrth ei bodd yn dod i Ysgol Llanfechell a’r bwrlwm o baratoi tuag at y Nadolig yn fyw yn ei chof. Byddai parti Nadolig ardderchog gyda choeden Nadolig, Siôn Corn ac, wrth gwrs, anrheg. Mae Morfydd ei merch yn cofio creu cerdyn Nadolig gyda stampiau rwber. Cofiai hefyd ginio Nadolig ardderchog Anti Maureen gyda phwdin arbennig o siocled a saws siocled melys yn cael ei daenu drosto. Un o'r atgofion cynharaf sydd ganddi yw cael bod yn bartner yn y parti Nadolig i'r enwog Robin McBryde.

*******************************************************

 

 

 

Diwedd Cyfnod

 

 
 

 

yn ôl i frig y dudalen

*******************************************************

 

Os oes gennych unrhyw wybodaeth ychwanegol neu sylwadau cysylltwch â ni

 carol@tyddynpaul.co.uk