![]() |
|||||||
|
|
|||||||
|
Arolwg Dyfrgwn
|
|||||||
|
Ym Mawrth 2007 gwnaethpwyd arolwg gan Gareth a Rebecca Pritchard ar ran Menter Môn a Phrosiect Dyfrgwn Ynys Môn Edrychwyd am faw cŵn dwr ym mhob man tebygol (megis creigiau amlwg) ar hyd terfynau'r afonydd, ac arwyddion o weithgarwch megis olion traed a gwaliau (potensial).
|
|||||||
|
Beth y darganfuwyd- Afon Wygyr: • Nifer Y safleoedd baw cŵn dŵr a ddarganfuwyd: 22 • Nifer o faw cŵn dŵr a ddarganfuwyd: 48 “Mae'n weddol debygol fod presenoldeb dyn ac efallai cŵn yn cyfyngu'r nifer o arwyddion a adewir gan y dyfrgwn yn y rhannau isel o'r afon ble mae'n llifo i'r môr , ond does dim amheuaeth fod y dyfrgwn yn defnyddio hŷd yr afon i gyd fel llwybr i gyrraedd y môr ar gyfer ymborthi... gwelwyd olion traed ar hyd y rhan yma.”
|
Beth y darganfuwyd - Afon Meddanen: • Nifer o safleoedd baw cŵn dŵr a ddarganfuwyd: 16 • Nifer o faw cŵn dŵr a ddarganfuwyd: 29 “Mae'r cynefin ar hyd y rhan yma yn ardderchog ar gyfer dyfrgwn: mae'n goediog ar hyd y rhan helaeth o'r afon ac yn lle distaw. Mae'n debygol iawn fod y dyfrgwn yn defnyddio'r ardal yma i lechu ac ,efallai, fel gwal."
|
||||||
|
Canlyniad- Mae dyfrgwn yn bresennol ar hyd yr Afon Wygyr a'r Afon Meddanen.” “Mae'n debyg fod y dyfrgwn yn bwydo ar rywogaeth o bysgod afon a hefyd yn ymborthi yn y môr ar hyd y glannau yng Nghemaes"
|
![]()
|
||||||
|
******************************************************* |
|||||||
|
· Gwnaethpwyd arolwg yn 2008 gan aelodau o Grŵp Ystlumod Gwynedd oedd o fewn y coetiroedd sy'n terfynu’r afonydd • Adnabuwyd 7 rhywogaeth o ystlumod • Defnyddiai'r ystlumod gyrion y coetiroedd a rhodfa'r afon fel llwybr hedfan i ymborthi a theithio o le i le
•
• Gwarchodir ystlumod trwy gyfraith oherwydd bod y niferoedd wedi gostwng yn echrydus yn y blynyddoedd diweddar • Dim ond 10 allan o 17 o'r rhywogaeth a welir ym Môn.
|
|||||||
|
(Pipistrellus pipistrellus)
(Pipistrellus pygmaeus)
(Plecotus au ritus)
(Myotis mystacinus) |
|||||||
|
Ystlym Brandt
|
Ystlym Noctule
|
Ystlym Daubenton
|
|||||
| (Myotis brandt) | (Nyctalus noctula) | (Myotis daubentonii) | |||||
|
*******************************************************
|
|||||||
|
• Y Llygoden ddŵr •Gwelir y Llygoden Ddŵr ger ddyfrffyrdd ac ochrau afonydd. •Mae'r niferoedd wedi disgyn yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd : -
–Colli cynefinoedd (Ffermio, Adeiladu ayyb)
–Llygredd
–Gwenwynu
–Ysglyfaethu (yn enwedig y minc Americanaidd)
|
|||||||
|
Prosiect Llygod Dŵr Môn
•Mae Môn yn cael ei chydnabod fel ardal cadwraeth bwysig y llygoden ddŵr trwy Brydain gyfan. •Sefydlwyd y Prosiect Llygod Dŵr yn 2001 •Mae Llygod Dŵr wedi'u cynnwys yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Ynys Môn.
|
|
||||||
![]() Geudy y llygoden ddŵr |
![]() Gwâl y llygoden ddŵr
|
![]()
Man bwyta y llygoden
ddŵr
yn dangos gwair wedi'i falu
|
![]() Ôl traed y llygoden ddŵr
|
||||
|
Canlyniad yr arolwg •Darganfuwyd llygod dŵr ar hyd y Wygyr ym mha le bynnag yr oedd cynefin addas. *******************************************************
|
|||||||