![]() |
||||||||||||||
|
gyda diolch i Mrs Iola Roberts, Mrs Beryl Jones, Mr Nigel Thomas a Mr Robert Williams ******************************************** Cliciwch ar y lluniau i'w gweld yn fwy
|
||||||||||||||
![]() Seremoni dadorchuddio'r gofeb yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf |
![]()
Seremoni dadorchuddio'r gofeb yn dilyn yr Ail Ryfel Byd
|
|||||||||||||
|
******************************************* Cliciwch yma i fynd i dudalen .... Yr Ail Ryfel Byd 1939-1945
|
||||||||||||||
|
***********************************************************************
Y Rhyfel Byd Cyntaf 1914-1918
|
||||||||||||||
![]()
|
![]()
|
|||||||||||||
![]()
|
||||||||||||||
|
Cliciwch ar yr enwau i gael mwy o wybodaeth ********************************************
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ********************************************
|
||||||||||||||
|
Frederick Pelham Trevor, Brynddu
Ganwyd Frederick Pelham Trevor
ym Mheru, Chile ar 17eg Tachwedd 1879. Priododd Winifred Mills a
cawsant ddau o blant Meriol Trevor ac Arthur Trevor. Bu'r teulu'n byw
ym Mrynddu am gyfnod cyn iddo gael ei ladd yn y Rhyfel yn 1915. |
||||||||||||||
![]() Ei deulu ym Mrynddu tua 1911 |
Y teulu yn nofio yng Nghemaes tua 1911 |
|||||||||||||
|
Brynddu, ei gartref cyn mynd i'r rhyfel |
![]() Mynwent Menin Gate lle'i coffawyd ef |
|||||||||||||
|
********************************************
James Frederick Venmore, Wylfa
|
||||||||||||||
|
|
Roedd yr Is gapten J Frederick Venmore yn fab i Mr James Venmore, Uned Heddwch yn Lerpwl a chyn Uchel Siryf, Ynys Môn. Addysgwyd ef yng Ngholeg Lerpwl ac yn ysgol Mill Hill, Llundain. Bu’n astudio pensaernïaeth ym Mhrifysgol Lerpwl a bu’n aelod o’r proffesiwn hyd at doriad y Rhyfel pan ymrestrodd fel milwr cyffredin yn y 3ydd Bataliwn o’r ‘Liverpool Pals’. Derbyniodd gomisiwn i’r 14eg Bataliwn o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig lle bu’n swyddog medrus a phoblogaidd. Roedd yn boblogaidd ymysg y dynion a’r swyddogion am ei ddewrder a’i ymroddiad ar faes y gad.
|
|||||||||||||
|
Dyma ddisgrifiad o sut y derbyniodd yr Is gapten Venmore y ‘Military Cross’ am ddewrder nodedig. Ar noson y 30ain Ionawr, 1916 roedd yr Is gapten Venmore ar ddyletswydd fel swyddog ar batrôl o flaen y ffosydd Prydeinig yn Ffrainc pan hysbyswyd ef fod tri o ddynion mewn safle wrando blaenllaw wedi’u hanafu. Llwyddodd dau ohonynt i lusgo eu hunain yn ôl dros y weiren bigog i’r Rhengoedd Prydeinig ond gan fod y trydydd dyn wedi’i saethu yn ei ddwy goes nid oedd yn medru eu dilyn. Gwirfoddolodd yr Is gapten Venmore i fynd i’w gynorthwyo ac aeth a swyddog digomisiwn gydag ef (Corporal William Williams o Gaernarfon) a dderbyniodd y ‘Distinguished Conduct Medal’. Aeth y ddau allan dros y parapet o dan saethu ffyrnig a gydag anhawster mawr llwyddasant i ddod a’r claf yn ôl dros y weiren bigog a dwy ffos. Y bore canlynol cafwyd neges arall fod dyn mewn safle gwrando blaenllaw arall wedi colli ei fraich mewn man nad oedd, mwy neu lai’n bosibl i gael ato yng ngolau dydd. Gwirfoddolodd yr Is gapten eto i fynd i gynorthwyo’r claf ac aeth a Chorporal Williams gydag ef. Ymlusgodd y ddau ar draws y tir agored o dan saethu ffyrnig unwaith eto. Cyrhaeddwyd y claf, rhoddwyd sylw i’w anghenion a daethpwyd ag ef yn ôl i le diogel. Cafodd y swyddog a’i bartner eu llongyfarch yn wresog gan swyddogion y frigâd a’r rhanbarth.
|
||||||||||||||
![]() Mynwent 'Dantzag Valley' Mametz lle'i coffawyd ef |
Wrth arwain ei Gwmni i ymosod ar Mametz Wood 11eg Gorffennaf, 1916 cafodd yr Is gapten Venmore ei anafu’n ddrwg yn ei fraich. Brwydrodd ymlaen er gwaethaf ei anaf ond yn anffodus iawn fe ddaeth ei fywyd i ben yno.
|
|||||||||||||
|
********************************************
|
||||||||||||||
|
|
||||||||||||||
![]() Cartref Richard Jones- Trosymynydd |
![]() Mynwent Arras- lle'i coffawyd ef |
|||||||||||||
|
********************************************
Roedd tri o feibion Frondeg wedi mynd i'r rhyfel, John, Huw a Bob. Lladdwyd John a niweidwyd y ddau arall. Saethwyd Huw yn ei stumog a chwythwyd tri o fysedd oddi ar law dde Bob. Roedd stori gan y teulu fod Bob yn y ffosydd gyda Mab Trosmynydd a gafodd ei ladd wrth ei ochr. Roedd Bob eisiau diod ac yr oedd yn yfed dŵr o'r ffosydd lle roedd ei gyfaill yn gorwedd.
|
||||||||||||||
![]()
|
![]() |
|||||||||||||
|
|
LLuniau o John Oliver Williams
|
|||||||||||||
|
Er mwyn diogelwch nid oeddynt yn cael ysgrifennu dim ychwanegol yn y cerdyn. |
![]() |
|||||||||||||
|
Cerdyn post gan John Oliver o faes y gad
|
||||||||||||||
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
|||||||||||
|
Llythyr oddiwrth John Oliver i'w deulu
|
||||||||||||||
![]() |
![]() |
|||||||||||||
|
Llythyr arall gan John Oliver i'w deulu |
||||||||||||||
|
Cartref John Oliver Williams- Frondeg |
Mynwent Loos, lle'i coffawyd ef. |
|||||||||||||
|
********************************************
Roedd Roger Humphreys wedi dweud anwiredd am ei oed - dim ond dwy a'r bymtheg oedd o pan ymunodd a'r fyddin. |
||||||||||||||
|
Roger a'i frawd bach |
Roger a'i deulu |
|||||||||||||
|
Pum mab yn mynd i ryfel |
Llythyr oddiwrth Roger i'w fam
|
|||||||||||||
![]() |
![]() |
![]()
|
||||||||||||
|
Llythyr yn gofyn am wybodaeth
am ei ddyddiad geni er mwyn iddo gael dod adref. Yn anffodus lladdwyd ef dau
ddiwrnod cyn i gopi o'r tystysgrif gyrraedd
|
||||||||||||||
|
Y Plwyf yn cydnabod ei aberth |
![]() Y teulu'n derbyn medal |
|||||||||||||
|
Cartref Roger Humphreys, Penrallt |
Mynwent Thiepval, lle'i coffawyd ef. |
|||||||||||||
|
Aelod o'r teulu'n ymweld a Thiepval.
********************************************
|
||||||||||||||
|
Roedd yn frawd i Richard Jones a fu farw ar 13 Mai , 1917 (chwe mis o'i flaen.) |
||||||||||||||
|
Cartref John Owen Jones - Trosymynydd |
Mynwent Beersheba, Israel lle'i coffawyd ef
|
|||||||||||||
|
Yn ôl i frig y dudalen ********************************************
|
||||||||||||||
![]() |
![]() |
|
||||||||||||
| Robert Glangors | Teulu Glangors | |||||||||||||
|
LLythyr oddiwrth Annie i'w brawd
|
||||||||||||||
![]()
|
![]() |
![]() |
![]() |
|||||||||||
| Llythyr i Robert gan ei fam a'i dad | ||||||||||||||
|
|
Y 'Death Plaque' a roddwyd i'r teulu ar ôl ei farwolaeth |
|||||||||||||
![]()
Cartref Robert Jones- Glangors |
Mynwent yn Alexandria lle'i coffawyd ef. |
|||||||||||||
|
******************************************** Thomas Pritchard Lewis, Tynycae
Yn ôl i frig y dudalen ********************************************
|
||||||||||||||
|
Cartrtef Owen Owen-Y Fron |
Chwarel- ei gartref cyntaf |
Mynwent Thiepval, lle'i coffawyd ef.
|
||||||||||||
|
********************************************
|
||||||||||||||
![]() Cartref Owen Roberts- Carregydarran |
![]() Mynwent y Rhyfel yn Baghdad lle'i coffawyd ef. |
![]() Rhestr Anrhydedd o’r rhai a laddwyd yn Iraq yn y ddau Ryfel Byd
|
||||||||||||
|
Yn ôl i frig y dudalen ********************************************
Mynwent y Rhyfel yn Jerwsalem lle'i coffawyd ef
********************************************
Y fynwent lle'i coffawyd ef yn Ffrainc- ROCQUIGNY-EQUANCOURT ********************************************
Yn ôl gwybodaeth gan y teulu cafodd ei ladd tra'n gwarchod ffynnon.
|
||||||||||||||
![]() Owen Williams |
![]() Tad Owen Williams |
![]() Mam Owen Williams
|
||||||||||||
|
Cartref Owen Williams- Penmynydd |
Penmynydd heddiw
|
|||||||||||||
|
Medalau Owen Williams |
![]() Y 'Death Plaque' |
![]() Mynwent Helles lle'i coffawyd ef |
||||||||||||
|
********************************************
Heblaw'r rhai ar y gofeb, mae yna ddau ddyn arall a chysylltiadau a Llanfechell: Thomas Jones - Preifat 14991, 10fed Bataliwn RWF. Clwyfwyd ym mrwydr 'The Bluff' ger St. Eloi ar 2 Mawrth , 1916 a bu farw'r dydd canlynol. Fe'i ganwyd yn Llanfechell yn ôl SDGW (Soldiers Died in the Great War) ac fe ymrestrodd ym Mhorthaethwy. Does dim bedd iddo ond fe'i enwyd ar gofeb Menin Gate. William Lewis- Preifat 20476, 14eg Bataliwn (Môn ac Arfon) , RWF. Listiodd yng Nghaergybi ac aeth dramor ar 2 Rhagfyr, 1915. Fe'i lladdwyd ger Mametz ar y Somme, 9 Gorffennaf, 1916 yn 21ain mlwydd oed.. Does dim bedd iddo ond fe'i enwyd ar gofeb Thiepval. Eto mae SDGW yn dweud ei fod yn enedigol o Lanfechell, ond mae rhestr byrddio'r 14eg Bataliwn yn rhoddi ei gyfeiriad fel Tŷ Newydd, Rhosgoch. Rhosgoch hefyd sydd ar SDGW fel ei gyfeiriad, ac mae'r CWGC (Cofeb Rhyfel Gogledd Cymru) yn nodi ei rieni fel John ac Elizabeth Lewis, Garnedd Isaf, Rhosgoch. Fei' cofiwyd ar banel Rhosybol yng Nghofeb Gogledd Cymru, Bangor. Mynwent Yr Eglwys Mae'n werth son hefyd fod yna un bedd rhyfel yn ne-ddwyrain mynwent yr Eglwys i- Hugh Williams oedd yn Daniwr (Stoker 1st class) K/35848) yn y Llynges Frenhinol. Bu farw 18 Gorffennaf, 1919 yn 22ain mlwydd oed. Fe'i ganwyd yng Nghaergybi ac fe weithiodd fel gwas fferm cyn ymuno a'r Llynges yn Awst, 1916. Fe wasanaethodd ar HMS Chelmer o Chwefror, 1917 hyd at 25 Chwefror, 1919 pryd y gorffennodd a'r Llynges. Rhaid bod achos ei farwolaeth (clwyfau neu’r dicáu efallai) wedi codi o'i wasanaeth fel morwr iddo gael haeddu bedd rhyfel swyddogol. Ei rieni oedd Richard a Jane Williams (wedi'r rhyfel ) o Drum Carreglefn ond ni wyddom ei gysylltiad â Llanfechell a berodd iddo gael ei gladdu yno. Hefyd ar garreg fedd ym mynwent yr Eglwys fe gofir Hugh Owen, Capten/Meistr yr agerlong SS YOLA a suddwyd gan y gelyn ar 28 Ionawr, 1917. Boddwyd ef yn 39 neu 41 mlwydd oed (nid yw'r garreg a'r CWGC yn cytuno) ac felly fe'i enwir ar gofeb Tower Hill yn Llundain (i forwyr y Llynges Fasnachol a gollwyd). Wedi'r rhyfel roedd ei weddw, Eleanor Owen yn byw ym Mryn, Bodewryd, Carreglefn, a'i rieni Owen a Margaret Owen yn Fron Y Graig (neu Fron Craig), Porthladd Amlwch. Roedd yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yno ac fe'i cofir ar gofeb Amlwch a phanel Amlwch yng Nghofeb Gogledd Cymru, Bangor. Fe anwyd ef yn Amlwch yn 1877, gan godi i fod yn Ail Fet yn 1901, Met Cyntaf yn 1902 ac yn Feistr yn 1904. Bu'n gapten ar yr Yola o 1916 hyd at yr amser a ddiflannodd hithau gyda'i holl griw (33 enaid) yn 1917. Eto ni wyddom ei gysylltiad â Llanfechell a berodd iddo gael ei gladdu yno. Diolch i'r Parchedig Clive Hughes am yr wybodaeth yma a dderbyniwyd trwy Ebost
********************************************
|
||||||||||||||