![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
*******************************************************
******************************************************* Cliciwch ar y mapiau a'r lluniau i gyd i'w gweld yn fwy |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
![]() |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Y cyfeiriad cyntaf i'r Wygyr - • 1. 'Triddoedd Ynys Pridain' – c. 10fed ganrif:
2. 'The Extent of Anglesey, 1352' (Llyfr 'Domesday' Môn)
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() map 1805 |
![]() map 1876
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Dyddiadur William Bulkeley
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
10fed Ragfyr 1749 'This morning was the greatest waters upon the ground as the oldest man as the oldest man in this parish ever saw. And at 9 when I went out there were but very little of my meadows that were not covered. At 11 o'clock when the water was much abated, there were three horses employed to carry people thro the river that were coming to church, because the bridge over the river that runs through the village was quite covered even that time of day, and the river was not confined to its own bed till the next day…'
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
4ydd Ionawr 1750 '…….. I was today to see the harbour of Cemaes which the last great flood has quite spoiled. The extraordinary rush that ran down at that time through Pwll y Wrach carried off all the sand in the bottom of the river, and tumbled one upon another such heaps of stone, that it looks really frightful, and no ship nor boat can lye there.'
|
8fed Ionawr 1750 ...I was all this day at Cemaes, where was met nearly a hundred people of Llanbadrig and Llanfechell parishes with carriages of different kinds, as drags, sledges, and wheel carriages, with iron bars, pick axes, and leavers to carry away the stones with which the late great land flood had choaked up and spoiled the harbour; the people worked all along with such willingness and eagerness, that before night they had quite cleared the harbour, and with part only of the stones they made a pier upon Garreg y Cenyn which will be of great use to break the force of storms upon the harbour. I gave the people 2s 1d worth of ale and spent myself 2d. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
3. Lewis Morris - 'Cywydd i yrru'r falwen yn Gennad at William Bwlclai‘ (1730)
…Neidia'n lan
ddwfr Maddanen…'
*******************************************************
Defnydd hanesyddol economaidd a diwydiannol y Wygyr a'r Feddanen- Melinau dŵr, melinau pannu, gwehyddu, bragu, argae Brynddu, gwaith carthffosiaeth, gwaith dŵr, gwaith briciau, adeiladu llongau, amaethyddiaeth.
Felin Wen
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Hen Felin Meddanen
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
lleoliad y llorp trwy'r wal llorp-bothau wedi'u taflu o'r neilltu
Melin Y Nant (Melin William Bulkeley) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
12fed Gorffennaf 1741 18fed Awst 1741
Melin ddŵr Coeden
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
*******************************************************
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| Y broses o bannu |
O'r Canol Oesoedd roedd pannu brethyn yn cymryd lle mewn melin ddŵr a elwid yn felin pannu. Yma roedd y brethynnau'n cael eu curo a morthwyl pren a elwid yn gyffion pandy. Roedd dau fath o gyffion pandy: cyffion disgynedig (yn gweithredu'n fertigol) a oedd yn cael ei ddefnyddio i sgwrio'n unig, a chyffion gyrru neu gyffion crog. Gweithredir peiriannau'r ddau fath o gyffion gan gamiau ar siafft o olwyn ddŵr a godai'r morthwyl. Roedd y cyffion crog wedi'u pifodi fel bo'r 'droed' ( pen y morthwyl) yn taro'r brethyn bron yn llorweddol. Roedd twb ar y cyff i ddal y toddiannau a'r brethyn. Roedd hwn yn weddol grwn ar yr ochr oddi wrth y morthwyl, fel bo'r brethyn yn troi yn raddol, i sicrhau fod pob rhan ohono’n cael ei bannu'n wastad. Fodd bynnag, tynnwyd y brethyn allan bob rhyw ddwy awr i ddadwneud plethiadau a chrychiadau. Roedd y 'droed' o siâp eithaf trionglog gyda rhiciau arno ar gyfer troi'r brethyn.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Disgrifiad gan Celia Fiennes, 1698.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
*******************************************************
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
*******************************************************
Gwaith Carthffosiaeth, Gwaith Briciau, Gwaith dŵr a Choredau Gwaith Carthffosiaeth
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
Gwaith Briciau Cemaes
Gwaith dŵr Cemaes |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Mae'r Afon Wygyr yn rhedeg i'r gorllewin o Fferm Ysgellog (Amlwch) i'r môr yng Nghemaes. I'r gogledd orllewin o'r man lle mae'r Afon Feddanen yn ymuno a'r Wygyr, mae hen adfail diwydiannol a fyddai, ar un adeg, yn cyflenwi dŵr i bentref Cemaes.
|
![]()
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
Hyd at 1937 roedd trigolion Cemaes yn dibynnu ar gyfres o ffynhonnau cyhoeddus a phreifat i gael dŵr. Yn 1937 cafwyd cytundeb rhwng William Bulkeley, Brynddu a Chyngor Gwledig Twrcelyn i adeiladu gorsaf bwmpio (h.y. gwaith dŵr) ar ddarn o dir cyfagos i’r afon ger fferm Carrog. • Am un taliad yn unig, o £200, rhoddwyd caniatâd i Gyngor Gwledig Twrcelyn dderbyn prydles barhaol ar y safle o 3216 llathen sgwâr. • Yn ogystal, derbyniwyd arwynebedd ychwanegol o 65 llathen sgwâr ar gyfer adeiladu dwy gored.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Y Coredau
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Er bod cytundeb 1937 yn caniatáu adeiladu DWY gored, mae cyfanswm o bedair a'r ddeg ohonynt ar hyd yr afon rhwng y man lle cyfarfu'r Meddanen a'r Wygyr a'r gwaith briciau yng Nghemaes. Mae tarddiad a phwrpas y coredau ychwanegol hyn wedi bod yn destun trafodaeth rhwng aelodau o'r gangen pysgota dros y blynyddoedd. A adeiladwyd y coredau fel rhan o'r gwaith dwr er mwyn cynnal y lefelau dwr? A adeiladwyd hwy er mwyn darparu gwell amodau i bysgotwyr - pyllau ar gyfer pysgod mwy? A gawsant eu hadeiladu yn llawer cynt er mwyn cynnal lefelau o ddŵr yfed ar gyfer y da byw? A adeiladwyd rhai ohonynt mewn cysylltiad â'r gwaith briciau ym mhellach i lawr yr afon?
|
![]() |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Y coredau - ar gyfer da byw? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
•Mae
dyddiaduron William Bulkeley (
|
![]()
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Echdynnu dŵr Yn Archifdy Môn ceir cofnodion manwl o'r dŵr a echdynnwyd am y rhan fwyaf o'r blynyddoedd yn dilyn adeiladu'r gwaith dŵr yn 1937. Mae'r cofnodion yn dangos: – Roedd Cyngor Twrcelyn yn cael caniatâd i echdynnu cymaint o ddŵr ac yr oedd ei angen am 24 awr y dydd cyn belled a bod llif cyfunol yr afon yn fwy na 150,000 galwyn y diwrnod. – O dan hyn, ni gai'r Cyngor echdynnu dŵr rhwng 8am a 4pm. –Mewn gwirionedd, yn 1959, er enghraifft, echdynnwyd 13 miliwn galwyn a oedd bron yn gyfartal a 25 galwyn i bob munud o'r flwyddyn. Mae'r cofnodion yn dangos: Cyflenwad dŵr
Roedd y dŵr a
echdynnwyd i fyny'r afon o'r gwaith dŵr wedi'i drin (ei hidlo trwy
ro) a'i bwmpio i fyny i dwr ym Mryn Awelon, rhwng fferm Carrog a
Chemaes.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Yn 1988 y cafodd y twr yma ei ddymchwel, er bod torri'n ôl ar weithgareddau'r gwaith dŵr yn digwydd ers dechrau'r 1960au. |
![]() |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Yn wreiddiol mae'n rhaid bod gan y gwaith dŵr ei eneradur ei hun i gyflenwi trydan i'r pympiau, oherwydd yn 1964 gwnaethpwyd ymholiadau i MANWEB drefnu cyflenwad trydan teirgwedd. Fodd bynnag ni aethpwyd ymhellach a'r syniad gan fod £576 i'w weld yn rhy ddrud. Fe beidiodd y gwaith dŵr a gweithio o gwmpas 1965 fel yr oedd cynlluniau eraill yn cael eu gweithredu.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Ers iddo beidio â gweithio Mae adroddiad heddlu yn niwedd y 1960au yn cyfeirio at fandaliaeth yn y gwaith dŵr (tair ffenestr wedi torri) gan nad oedd yr adeilad yn cael ei gynnal a'i gadw. Ers hynny, er i lawer o syniadau gael eu cynnig ar gyfer y safle, mae'r adeilad bellach yn adfail.
*******************************************************
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() |
![]()
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
******************************************************* Ecoleg -ewch i frig y dudalen |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||